Cryfhau’r mesurau i ddiogelu Cymru wrth i don omicron daro
Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno o 6am Ddydd San Steffan ymlaen i helpu i ddiogelu Cymru.
Fersiwn ddiwygiedig o lefel rhybudd 2 yw’r mesurau er mwyn ymateb i’r amrywiolyn omicron newydd. Eu nod yw helpu i gadw busnesau ar agor a diogelu cwsmeriaid a staff.
Mae’r rheoliadau’n ailgyflwyno mesurau diogelu mewn busnesau lletygarwch, gan gynnwys lleoliadau trwyddedig, ac mewn sinemâu a theatrau pan fyddan nhw’n ailagor ar ôl cyfnod y Nadolig.
Bydd canllawiau cryfach yn cael eu cyhoeddi i helpu pobl i ddiogelu ei gilydd gartref a phan fyddan nhw’n cwrdd ag eraill.
Bydd £120m ar gael i glybiau nos a busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth y mae’r newid hwn i lefel rhybudd 2 yn effeithio arnyn nhw – dwbl y pecyn £60m newydd a gyhoeddwyd wythnos diwethaf.
Bydd Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi manylion pellach yfory (23 Rhagfyr).
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
“Rydyn ni’n wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru. Mae’r amrywiolyn omicron newydd yn heintus iawn ac mae’n lledaenu’n gyflym. Mae ton o heintiau o’n blaenau.
“Gallai’r math newydd hwn o’r coronafeirws heintio niferoedd mawr o bobl yng Nghymru, gan amharu ar fywydau pobl a busnesau. Gallai achosi cynnydd yn nifer y bobl sydd angen gofal ysbyty yn yr wythnosau nesaf.
“Byddwn ni’n gwneud popeth y gallwn ni i ddiogelu iechyd a bywoliaethau pobl yng Nghymru. Mae hyn yn golygu gweithredu’n gynnar i geisio rheoli ei ledaeniad.
“Rydyn ni’n newid y rheolau ar gyfer busnesau a rhai mannau cyhoeddus, lle mae llawer o wahanol bobl yn cymysgu bob dydd. Rydyn ni hefyd yn rhoi cyngor cryf a chlir i helpu pobl i ddiogelu ei gilydd gartref a phan fyddan nhw’n cwrdd ag eraill.”
O Ddydd San Steffan ymlaen, bydd y mesurau lefel rhybudd 2 yn cynnwys:
- Gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob lleoliad sydd ar agor i’r cyhoedd ac ym mhob gweithle, pan fo hynny’n rhesymol.
- Bydd y rheol chwech o bobl mewn grym pan fydd pobl yn ymgynnull mewn lleoliadau a reoleiddir, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.
- Bydd angen i bob lleoliad trwyddedig gymryd mesurau ychwanegol i ddiogelu cwsmeriaid a staff, gan gynnwys gwasanaeth gweini wrth y bwrdd a chasglu manylion cyswllt.
- Bydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mewn lleoliadau lletygarwch bob amser heblaw pan fo pobl yn eistedd.
- Ni fydd digwyddiadau mawr yn cael eu caniatáu o dan do nac yn yr awyr agored. Y nifer mwyaf o bobl a fydd yn cael ymgynnull mewn digwyddiad o dan do fydd 30 a 50 yn yr awyr agored.
- Bydd yna eithriad ar gyfer chwaraeon tîm, gan ganiatáu hyd at 50 o wylwyr, ar ben y rhai sy’n cymryd rhan. Bydd yna eithriad hefyd ar gyfer digwyddiadau sy’n cynnwys plant.
Wythnos diwethaf, cyhoeddwyd mesurau newydd ar gyfer gweithleoedd a siopau – bydd y rhain nawr yn dod i rym Ddydd San Steffan. Yn ogystal, bydd clybiau nos yn cau Ddydd San Steffan.
Ni fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno rheolau newydd ynglŷn â chymysgu yng nghartrefi preifat pobl, gan gynnwys gerddi, mewn llety gwyliau nac wrth gwrdd yn yr awyr agored. Yn hytrach, bydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi i helpu pobl i ddiogelu ei gilydd.
I’ch helpu i ddiogelu eich hun yn eich cartref, rydym yn cynghori’n gryf fod pawb yn gwneud y pum peth canlynol:
- Cyfyngu nifer y bobl sy’n dod i’ch cartref.
- Os bydd pobl yn ymweld, sicrhau eu bod yn gwneud prawf llif unffordd yn y bore cyn yr ymweliad.
- Mae cwrdd yn yr awyr agored yn well nag o dan do. Os byddwch yn cwrdd o dan do, gadewch ddigon o awyr iach i mewn i’r ystafell.
- Gadael bwlch rhwng unrhyw ymweliadau.
- Cofio cadw pellter cymdeithasol a golchi’ch dwylo.
Bydd trosedd ar wahân am gynulliadau mawr – dros 30 o bobl o dan do neu 50 o bobl yn yr awyr agored – mewn cartrefi a gerddi preifat.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
“Y peth pwysicaf y gallwn ni gyd ei wneud i ddiogelu ein hunain rhag omicron yw cael ein brechu’n llawn – sy’n golygu cael y pigiad atgyfnerthu hefyd. Os ydych chi’n gymwys am bigiad atgyfnerthu, rwy’n erfyn arnoch i roi blaenoriaeth i’w gael yn yr wythnosau nesaf.
“Wrth inni dreulio gaeaf arall yn y pandemig, mae llawer iawn o bobl wedi’u brechu ac mae degau o filoedd o bigiadau atgyfnerthu ychwanegol yn cael eu rhoi bob dydd.
“Yn ogystal, mae’r profion llif unffordd cyflym ar gael i’n helpu ni gyd i ganfod arwyddion haint heb symptomau.
“Bydd y ddau beth hyn, ynghyd â phopeth rydyn ni wedi’i ddysgu yn y ddwy flynedd diwethaf, yn helpu i’n diogelu gartref heb yr angen am reolau a rheoliadau newydd ynglŷn â chymysgu gartref.”
Ar frys – Cais i Fusnesau Llety Gwyliau i ddarparu llety ar gyfer grwpiau bregus
Rydym yn gwneud cais brys i ddarparwyr llety gwyliau helpu drwy gynnig llety i bobl fregus.
Nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru wedi newid; dylai pawb fod â llety sy’n eu galluogi i ddilyn canllawiau iechyd y cyhoedd ar gadw pellter cymdeithasol, hylendid a hunan-ynysu os oes angen. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod gwasanaethau tai o dan bwysau mawr. Mewn rhai ardaloedd mae llety brys eisoes yn llawn ac mae’r pwysau’n parhau.
Rydym felly’n gofyn i fusnesau llety ledled Cymru a fyddai’n bosibl iddynt helpu Awdurdodau Lleol i ddarparu llety brys o safon.
Mae rhagor o gyllid ar gael i gefnogi Awdurdodau Lleol i sicrhau y llety hanfodol hwn ac i ddarparu’r staff cymorth sydd ei angen fel y gall y pobl hyn dderbyn cefnogaeth gofleidiol i fodloni eu hanghenion. Os ydych yn cefnogi’r gwaith hwn bydd busnesau yn llunio contract gyda’u Hawdurdod Lleol ar gyfer y costau uniongyrchol.
Os y gallwch helpu, cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol (ALl) ble rydym wedi darparu enw cyswllt a chyfeiriad e-bost. Rhowch fanylion y llety y gallech ei ddarparu i bobl fregus. Byddwn am gael manylion nifer yr ystafelloedd neu unedau, eu math, lleoliad a pha mor hir rydych yn rhagweld y bydd ar gael.
Rhowch enw cyswllt yn eich busnes a chyfeiriad e-bost a rhif ffôn cyswllt.
Mae angen brys am lety yn yr ardaloedd canlynol ac rydym wedi darparu ebost cyswllt yr ALl ichi, er mwyn ichi gysylltu â hwy yn uniongyrchol.
Diolch eto i'r busnesau hynny sydd wedi rhoi cymorth i ni o'r blaen - gobeithiwn sicrhau cymorth y diwydiant hwn unwaith eto ar gyfer y fenter bwysig hon.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|