Bwletin Newyddion: £120 miliwn o gymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan Omicron; Lefel rhybudd 2 (O 26 Rhagfyr ymlaen); Negeseuon atgoffa COVID-19; Cryfhau’r mesurau i ddiogelu Cymru wrth i don omicron daro; Sefydlu Cronfa Sefydlogrwydd Diwylliannol y Gaeaf gwerth £5.25m; Rhyddhad Ardrethi Annomestig i Fusnesau yn 2022-23; Lles ac Iechyd Meddwl.

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

23 Rhagfyr 2021


business support image

£120 miliwn o gymorth ariannol i fusnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan Omicron

Bydd busnesau yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan ledaeniad cyflym feirws Omicron yn gymwys i gael cymorth ariannol brys o dan becyn cymorth newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi manylion y £120 miliwn o gyllid a fydd ar gael ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a'u cadwyni cyflenwi yr effeithiwyd arnynt gan y symudiad i rybudd lefel dau, fel y cyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Mercher 22 Rhagfyr.

O dan y pecyn diweddaraf, bydd gan fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n talu Ardrethi Annomestig hawl i daliad o £2,000, £4,000 neu £6,000 yn dibynnu ar eu gwerth ardrethol. Bydd angen i fusnesau ailgofrestru eu manylion, drwy broses ar-lein gyflym a hawdd, gyda'u hawdurdod lleol er mwyn derbyn eu taliadau. Bydd cofrestru ar agor drwy wefannau awdurdodau lleol o'r wythnos sy’n cychwyn ar y 10fed o Ionawr.

Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymestyn y cymorth hwn i fanwerthu nad yw'n hanfodol fel y bydd siopau llai, a Chwmnïau Teithio yn cael eu cefnogi ac y gall ein stryd fawr barhau i ffynnu. Yn Lloegr, nid oes cymorth ar gael i fanwerthu nad yw'n hanfodol.

Hefyd, bydd busnesau lletygarwch a hamdden yr effeithir arnynt a'u cadwyni cyflenwi yn gallu gwneud cais am gyllid ychwanegol gan Gronfa Cadernid Economaidd newydd. Gall busnesau cymwys wneud cais am grantiau rhwng £2,500 - £25,000, gyda’r grantiau yn dibynnu ar faint y cwmni a nifer y gweithwyr. Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd yn agor yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn ar 17 Ionawr 2022 gyda thaliadau'n dechrau cyrraedd busnesau o fewn dyddiau.

Bydd Awdurdodau Lleol hefyd yn gweinyddu cronfa Ddewisol ar gyfer busnesau ac unig fasnachwyr nad ydynt yn talu ardrethi. Bydd y gronfa'n darparu £500 i unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd a £2,000 i fusnesau sy’n cyflogi mewn sectorau yr effeithir arnynt.  Mae rhagor o fanylion i ddilyn ar busnes.cymru.

Bydd gwiriwr cymhwysedd a fydd yn helpu busnesau i nodi faint y gallant ddisgwyl ei gael o dan y pecyn cymorth newydd ar gael ar wefan Busnes Cymru erbyn dechrau 2022.

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Rydym yn deall yn iawn yr heriau parhaus sy'n wynebu busnesau, ond rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru. Mae ton o heintiau a achosir gan yr amrywiolyn Omicron newydd, sy'n symud yn gyflym ac sy’n heintus iawn ar y ffordd atom, mae hyn yn golygu cymryd camau cynnar i geisio rheoli ei ledaeniad – a chyfyngu ar yr effaith ar fusnesau Cymru.

“Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi darparu dros £2.2bn o gymorth i fusnesau ledled Cymru i'w helpu i lywio eu ffordd drwy amgylchiadau anodd.

“Byddwn yn parhau i fonitro effaith lledaeniad Omicron ar fusnesau yng Nghymru, a byddwn yn ystyried a oes angen cyllid brys ychwanegol yn y flwyddyn newydd.”

Bydd Busnes Cymru yn cael ei ddiweddaru gyda manylion, cwestiynau cyffredin a chanllawiau cymorth.


Lefel rhybudd 2 (O 26 Rhagfyr ymlaen)

Y mesurau perthnasol ar gyfer lefel rhybudd 2

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 hefyd ar gael ar Llyw.Cymru.


NEGESEUON ATGOFFA COVID-19:

Diogelu Cymru – yn y gwaith

Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch gweithlu'n ddiogel yn y gwaith, ewch i wefan Busnes Cymru am ganllawiau manwl, enghreifftiau ac adnoddau.

Mesurau Rhesymol i Leihau’r Coronafeirws

Gallwch weld cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch mesurau rhesymol i’w cymryd i leihau risg y coronafeirws yma. Cardiau gweithredu mesurau rhesymol ar gyfer busnesau a sefydliadau: coronafeirws | LLYW.CYMRU.  Edrychwch yn ôl am fanylion wedi'u diweddaru ar gyfer newidiadau sy'n dod i rym am 6am ar 26 Rhagfyr 2021.

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am awyru, lleihau capasiti, atal torfeydd, glanweithdra, lefelau sain a helpu’r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo

Mae gwybodaeth am sut mae’n rhaid i fusnesau a threfnwyr digwyddiadau wirio statws COVID-19 eu cwsmeriaid i’w gweld yn Pàs COVID: canllawiau ar gyfer busnesau a digwyddiadau | LLYW.CYMRU.

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.


Cryfhau’r mesurau i ddiogelu Cymru wrth i don omicron daro

Bydd mesurau newydd yn cael eu cyflwyno o 6am Ddydd San Steffan ymlaen i helpu i ddiogelu Cymru.

Fersiwn ddiwygiedig o lefel rhybudd 2 yw’r mesurau er mwyn ymateb i’r amrywiolyn omicron newydd. Eu nod yw helpu i gadw busnesau ar agor a diogelu cwsmeriaid a staff.

Mae’r rheoliadau’n ailgyflwyno mesurau diogelu mewn busnesau lletygarwch, gan gynnwys lleoliadau trwyddedig, ac mewn sinemâu a theatrau pan fyddan nhw’n ailagor ar ôl cyfnod y Nadolig.

Bydd canllawiau cryfach yn cael eu cyhoeddi i helpu pobl i ddiogelu ei gilydd gartref a phan fyddan nhw’n cwrdd ag eraill.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Sefydlu Cronfa Sefydlogrwydd Diwylliannol y Gaeaf gwerth £5.25m

Mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod £5.25m ar gael i gynorthwyo sefydliadau celfyddydol, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a sinemâu annibynnol Cymru drwy fisoedd y gaeaf, mewn cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog Dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden (21 Rhagfyr).

Diben y gronfa hon yw cefnogi sefydliadau sydd mewn trafferthion gwirioneddol - sydd mewn perygl o gau neu y bydd swyddi'n cael eu colli - oni bai bod cymorth pellach yn cael ei ddarparu. Rhaid i'r risg hon fod o ganlyniad uniongyrchol i effaith barhaus Covid-19.

Bydd y gronfa, a fydd yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 1 Hydref 2021 a 31 Mawrth 2022, yn agor ar gyfer ceisiadau ddydd Mercher 12 Ionawr 2022 a bydd angen i ymgeiswyr fod wedi cyflwyno cais ar-lein erbyn y dyddiad cau o 5.00 pm ddydd Mercher 26 Ionawr 2022.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Rhyddhad Ardrethi Annomestig i Fusnesau yn 2022-23

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu pecyn ychwanegol, sy’n werth £116 miliwn, o ryddhad ardrethi annomestig i fusnesau yn y sectorau y mae pandemig Covid-19 yn effeithio’n fwyaf uniongyrchol arnynt.

Bydd talwyr ardrethi yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru yn cael rhyddhad ardrethi annomestig o 50% drwy gydol 2022-23. Yn yr un modd â’r cynllun a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, bydd cynllun Rhyddhad Ardrethi Llywodraeth Cymru ar gyfer y sectorau Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn rhoi cap o £110,000 ar y rhyddhad a roddir i fusnesau unigol arr draws Cymru. Mae hynny’n golygu y bydd busnesau yng Nghymru yn cael cymorth tebyg i'r hyn a ddarperir mewn rhannau eraill o'r DU.  

 Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar:


Lles ac Iechyd Meddwl

Mae ein cymdeithas yn wynebu dyddiau digynsail, ac os ydych yn hunangyflogedig neu’n berchen ar fusnes, bydd COVID-19 yn peri cryn ansicrwydd.

Mae canllawiau a gwybodaeth am Les ac Iechyd Meddwl ar gyfer y gymuned fusnes ar gael drwy wefan Busnes Cymru


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram