Cadw Cymru'n Ddiogel wrth i achosion omicron gynyddu
Mae prif feddyg Cymru wedi annog pawb i gymryd camau i amddiffyn eu hunain rhag Covid-19 gan fod cyfraddau achosion yn codi I’w lefelau uchaf yn y pandemig. Fe wnaeth Dr Chris Jones, dirprwy brif swyddog meddygol Cymru, annog pobl ledled Cymru i gael eu brechiad atgyfnerthu a dilyn mesurau i leihau lledaeniad y feirws. Cadw Cymru'n Ddiogel wrth i achosion omicron gynyddu | LLYW.CYMRU
Lefel rhybudd 2
Y mesurau perthnasol ar gyfer lefel rhybudd 2:
NEGESEUON ATGOFFA COVID-19:
Mesurau Rhesymol i Leihau’r Coronafeirws
Gallwch weld cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch mesurau rhesymol i’w cymryd i leihau risg y coronafeirws am Llyw.Cymru.
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am awyru, lleihau capasiti, atal torfeydd, glanweithdra, lefelau sain a helpu’r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.
Diogelu Cymru – yn y gwaith
Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch gweithlu'n ddiogel yn y gwaith, ewch i wefan Busnes Cymru am ganllawiau manwl, enghreifftiau ac adnoddau.
Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo
Mae gwybodaeth am sut mae’n rhaid i fusnesau a threfnwyr digwyddiadau wirio statws COVID-19 eu cwsmeriaid i’w gweld yn Llyw.Cymru.
Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|