Cyngor newydd i gadw Cymru'n ddiogel dros y Nadolig
Heddiw, bydd y Prif Weinidog yn nodi cynllun dau gam i ymateb i'r amrywiolyn delta presennol a'r amrywiolyn Omicron newydd, sy'n symud yn gyflym, ac y disgwylir iddo fod yn brif ffurf y feirws yn y DU erbyn diwedd y mis.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau cryf i gefnogi pobl ledled Cymru dros gyfnod y Nadolig.
Bydd Cymru wedyn yn cyflwyno cyfyngiadau newydd, gan gynnwys ar gyfer busnesau a gwasanaethau – a hynny o 27 Rhagfyr ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys rheol cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr mewn swyddfeydd a rhoi mesurau ychwanegol ar waith i ddiogelu cwsmeriaid a staff – ee, systemau unffordd a rhwystrau ffisegol.
Bydd clybiau nos yn cau hefyd. Mae angen y cyfyngiadau llymach hyn i helpu i reoli lledaeniad Omicron.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
"Delta fydd prif achos heintiau coronafeirws yng Nghymru hyd at y Nadolig. Ond rydym yn gweld achosion o Omicron yn cynyddu'n gyflym bob dydd yma yng Nghymru – ac ar draws y DU.
"Mae angen cynllun arnom i'n cadw ni'n ddiogel y Nadolig hwn ac mae angen mesurau cryfach arnom i'n hamddiffyn wedi hynny, wrth inni baratoi ar gyfer ton fawr o heintiau Omicron.
"Mae Omicron yn fygythiad newydd i'n iechyd a'n diogelwch. Dyma'r datblygiad mwyaf difrifol yn y pandemig hyd yma.
"Mae'n un y mae'n rhaid inni ei gymryd o ddifrif. Byddwn yn parhau i roi mesurau cymesur ar waith i ddiogelu bywydau pobl a’u bywoliaeth.
"Dyma feirws sy'n ffynnu ar gyswllt dynol. Mae pob cyswllt ag eraill yn gyfle inni ledaenu neu ddal y feirws.”
Heddiw, bydd y Prif Weinidog yn annog pawb i ddilyn pum cam syml ar gyfer Nadolig mwy diogel, gan bwysleisio bod cwrdd â nifer o bobl yn y cyfnod cyn y Nadolig yn creu mwy o gyfle i’r feirws ledaenu.
Bydd lleihau ein cyswllt ag eraill, yn enwedig os ydym yn cwrdd dros y Nadolig â phobl hŷn neu bobl agored i niwed, yn helpu i'w hamddiffyn nhw rhag y feirws.
Er mwyn cadw'n ddiogel yn y cyfnod cyn y Nadolig, mae Llywodraeth Cymru yn cynghori pawb yn gryf i ddilyn y pum mesur hyn i gadw'n ddiogel:
- Cael eich brechu – ac os ydych wedi cael apwyntiad i gael pigiad atgyfnerthu, ewch amdani.
- Os ydych yn mynd allan, yn mynd i siopa Nadolig neu'n ymweld â phobl – cyn gadael y tŷ, profwch da chi. Cymerwch brawf llif unffordd. Os yw'n bositif – arhoswch gartre.
- Mae cwrdd yn yr awyr agored yn well na chwrdd dan do. Os ydych yn cwrdd dan do, gwnewch yn siŵr fod yno ddigon o awyr iach.
- Cymdeithasu bob hyn a hyn – os ydych wedi trefnu digwyddiadau, gadewch o leiaf ddiwrnod rhyngddynt.
- A chofiwch gadw pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb a golchi'ch dwylo.
Bydd y rheoliadau hefyd yn cael eu newid i gynnwys gofyniad i weithio gartref lle bynnag y bo modd.
Ar ôl y Nadolig, ar 27 Rhagfyr bydd cyfyngiadau cyfreithiol newydd yn dod i rym, i helpu i ddiogelu rhag lledaeniad amrywiolyn Omicron.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd hyd at £60m ar gael i gefnogi busnesau a gaiff eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd.
Dywedodd y Prif Weinidog hefyd:
"Eleni, Nadolig llai fydd y Nadolig mwyaf diogel. Wrth gyfyngu ar nifer y bobol y byddwn yn cwrdd â nhw, byddwn yn llai tebygol o ddal neu drosglwyddo'r feirws.
"Mwynhewch y Nadolig gyda'ch anwyliaid – ac ystyriwch gwrdd â rhagor o ffrindiau a chydnabod pan fydd Omicron yn llai o fygythiad.
"Hoffwn ddiolch hefyd i'r miloedd lawer o bobl a fydd yn gweithio'r Nadolig hwn i'n cadw ni i gyd yn ddiogel – yn enwedig yr holl bobl sydd wedi canslo eu cynlluniau er mwyn gweithio yn y canolfannau brechu ledled Cymru, a hynny er mwyn ein diogelu ni i gyd rhag y feirws difrifol hwn."
NEGESEUON ATGOFFA COVID-19:
Diogelu Cymru – yn y gwaith
Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch gweithlu'n ddiogel yn y gwaith, ewch i wefan Busnes Cymru am ganllawiau manwl, enghreifftiau ac adnoddau.
Mesurau Rhesymol i Leihau’r Coronafeirws
Gallwch weld cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch mesurau rhesymol i’w cymryd i leihau risg y coronafeirws yma. Cardiau gweithredu mesurau rhesymol ar gyfer busnesau a sefydliadau: coronafeirws | LLYW.CYMRU.
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am awyru, lleihau capasiti, atal torfeydd, glanweithdra, lefelau sain a helpu’r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.
Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo
Mae gwybodaeth am sut mae’n rhaid i fusnesau a threfnwyr digwyddiadau wirio statws COVID-19 eu cwsmeriaid i’w gweld yn Pàs COVID: canllawiau ar gyfer busnesau a digwyddiadau | LLYW.CYMRU.
Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|