Bwletin Newyddion: Ar frys – Cais i Fusnesau Llety Gwyliau i ddarparu llety ar gyfer grwpiau bregus; Cyllideb i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

20 Rhagfyr 2021


corona

Ar frys – Cais i Fusnesau Llety Gwyliau i ddarparu llety ar gyfer grwpiau bregus 

Rydym yn gwneud cais brys i ddarparwyr llety gwyliau helpu drwy gynnig llety i bobl fregus. 

Yn ystod y cyfnod clo cenedlaethol, ac ers hynny, rydym wedi gweld gwaith anhygoel ledled Cymru i sicrhau nad oes neb heb le diogel a chefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Diolch yn fawr i bawb sydd wedi ac sy’n parhau i’n helpu gyda’r gwaith hwn – mae cael mynediad i lety addas yn ddi-os wedi helpu i gadw pobl yn ddiogel ac achub bywydau yn ystod y pandemig.

Nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru wedi newid; dylai pawb fod â llety sy’n eu galluogi i ddilyn canllawiau iechyd y cyhoedd ar gadw pellter cymdeithasol, hylendid a hunan-ynysu os oes angen.  Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod gwasanaethau tai o dan bwysau mawr.  Mewn rhai ardaloedd mae llety brys eisoes yn llawn ac mae’r pwysau’n parhau. 

Rydym felly’n gofyn i fusnesau llety ledled Cymru a fyddai’n bosibl iddynt helpu Awdurdodau Lleol i ddarparu llety brys o safon.  Mae rhai busnesau eisoes yn darparu llety ar gyfer grwpiau bregus, sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr.  Fodd bynnag, yr her bresennol yw i sicrhau digon o lety ar gyfer pobl, nifer ohonynt wedi gorfod symud o ganlyniad i’r pandemig – mae hyn yn cynnwys pobl ddi-gartref a’r rhai sydd o dan fygythiad o fod yn ddi-gartref, fel y bobl hynny nad oes modd iddynt bellach aros gyda theuluoedd neu ffrindiau, neu unigolion sydd â’u perthynas wedi chwalu. 

Mae rhagor o gyllid ar gael i gefnogi Awdurdodau Lleol i sicrhau y llety hanfodol hwn ac i ddarparu’r staff cymorth sydd ei angen fel y gall y pobl hyn dderbyn cefnogaeth gofleidiol i fodloni eu hanghenion. Os ydych yn cefnogi’r gwaith hwn bydd busnesau yn llunio contract gyda’u Hawdurdod Lleol ar gyfer y costau uniongyrchol.

Os y gallwch helpu, cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol (ALl) ble rydym wedi darparu enw cyswllt a chyfeiriad e-bost. Rhowch fanylion y llety y gallech ei ddarparu i bobl fregus. Byddwn am gael manylion nifer yr ystafelloedd neu unedau, eu math, lleoliad a pha mor hir rydych yn rhagweld y bydd ar gael.

Rhowch enw cyswllt yn eich busnes a chyfeiriad e-bost a rhif ffôn cyswllt.

Mae angen brys am lety yn yr ardaloedd canlynol ac rydym wedi darparu ebost cyswllt yr ALl ichi, er mwyn ichi gysylltu â hwy yn uniongyrchol.  

Diolch eto i'r busnesau hynny sydd wedi rhoi cymorth i ni o'r blaen - gobeithiwn sicrhau cymorth y diwydiant hwn unwaith eto ar gyfer y fenter bwysig hon.


Cyllideb i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach

Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru Rebecca Evans wedi cyhoeddi cyllideb ar gyfer y tair blynedd nesaf i “gefnogi Cymru heddiw ac i lunio Cymru yfory”.

Cefnogi’r Rhaglen Lywodraethu, ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ymateb i argyfyngau’r hinsawdd a natur a chreu Cymru decach – dyma’r mesurau sy’n sail i’r gyllideb.

Dros y tair blynedd nesaf, i’w alluogi i roi gofal iechyd sy’n effeithiol, o ansawdd uchel ac yn gynaliadwy, a’i helpu i barhau i ymateb i’r pandemig ac i ymadfer ohono, caiff £1.3bn o gyllid uniongyrchol ychwanegol ei neilltuo i GIG Cymru.

Bydd cenedlaethau’r dyfodol yn elwa hefyd ar £61m ychwanegol yn y Gwarant i Bobl Ifanc a chymorth cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru, prentisiaethau ac i ehangu’r Cyfrifon Dysgu Personol.

Bydd cymorth economaidd ychwanegol ar gael i fusnesau, gyda’r rheini yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael 50% o ryddhad o’u hardrethi annomestig yn 2022-23. Bydd y pecyn hwn o £116 miliwn o gymorth, o’i gyfuno â’r cynllun rhyddhad ardrethi parhaol presennol, yn sicrhau y bydd dros 85,000 eiddo yn cael eu cefnogi yn 2022-23. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £20m ar ben y cyllid canlyniadol a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU, ac mae’n dilyn y cymorth ardrethi busnes a roddwyd gan Lywodraeth Cymru sy’n fwy na’r hyn a gynigiwyd gan Lywodraeth y DU yn y flwyddyn ariannol hon. Mae £35m arall wedi’i gadarnhau i rewi lluosydd ardrethi annomestig 2022-23, gan sicrhau na fydd cynnydd yn yr ardrethi y bydd busnesau’n eu talu.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar:



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram