Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN: ‘Torri’r trosglwyddiad’ – Lansio’r ymgyrch Diogelu Cymru ddiweddaraf; Datganiad Ysgrifenedig: Ehangu rhaglen frechu COVID-19; Pob oedolyn cymwys yng Nghymru i gael cynnig brechiad atgyfnerthu erbyn diwedd mis Ionawr; Diogelu Cymru – yn y gwaith; Mesurau Rhesymol i Leihau’r Coronafeirws; Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo; Canllaw Lefel Rhybudd 0 (8 Rhag); Datganiad ysgrifenedig: Newidiadau i deithio rhyngwladol; Lleoedd ar gael ar gyfer Britain & Ireland Marketplace (BIM) 2022; Gallwch gofrestru nawr: Gweminar Diwydiant Teithio Rhyngwladol Cymru – 4pm, dydd Llun 20 Rhagfyr; Deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr; £500,000 i roi mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant; Pob cartref yng Nghymru i gael coeden am ddim i'w phlannu fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd
‘Torri’r trosglwyddiad’ – Lansio’r ymgyrch Diogelu Cymru ddiweddaraf
Nod lansio gweithgarwch diweddaraf ymgyrch Diogelu Cymru Llywodraeth Cymru (ddydd Llun 6 Rhagfyr), yw ‘torri’r trosglwyddiad’ er mwyn helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu.
Bydd hysbysebion ar y teledu a’r radio, yn y wasg ac mewn mannau cyhoeddus, yn ddigidol ac ar y cyfryngau cymdeithasol am y pum wythnos nesaf, er mwyn annog pobl i barhau i ddilyn y mesurau sydd ar waith i gadw pawb ohonom yn ddiogel.
Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar bwysigrwydd masgiau wyneb, brechiadau, profion, a hunanynysu, a bydd yn hyrwyddo negeseuon ychwanegol i bwysleisio pwysigrwydd awyru, a defnyddio profion llif unffordd cyn cymdeithasu. Mae deunyddiau’r ymgyrch yn cael eu rhannu ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid er mwyn iddynt eu defnyddio ar eu sianeli eu hunain ar y cyfrangau cymdeithasol.
Bydd negeseuon yr ymgyrch yn cael eu hyrwyddo mewn hysbysebion ar y teledu a’r radio, drwy Spotify ac ar bosteri digidol mewn canolfannau siopa a safleoedd bws, ac yn y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook, Instagram, TikTok, Snap Chat, Twitter, a YouTube, ochr yn ochr â hysbysebion ar y cyfryngau traddodiadol.
Mae’r ymgyrch Diogelu Cymru yn cyrraedd dros 91% o oedolion yng Nghymru.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Datganiad Ysgrifenedig: Ehangu rhaglen frechu COVID-19
Mae’r datganiad ysgrifenedig gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (7 Rhagfyr 2021) ar gael yn Datganiad Ysgrifenedig: Ehangu rhaglen frechu COVID-19 (7 Rhagfyr 2021) | LLYW.CYMRU.
Pob oedolyn cymwys yng Nghymru i gael cynnig brechiad atgyfnerthu erbyn diwedd mis Ionawr
Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cadarnhau (7 Rhagfyr 2021) bod pob oedolyn cymwys yn mynd i gael cynnig brechiad atgyfnerthu COVID-19 erbyn diwedd mis Ionawr.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
NEGESEUON ATGOFFA COVID-19:
Diogelu Cymru – yn y gwaith
Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch gweithlu'n ddiogel yn y gwaith, ewch i wefan Busnes Cymru am ganllawiau manwl, enghreifftiau ac adnoddau.
Mesurau Rhesymol i Leihau’r Coronafeirws
Gallwch weld cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch mesurau rhesymol i’w cymryd i leihau risg y coronafeirws yma. Cardiau gweithredu mesurau rhesymol ar gyfer busnesau a sefydliadau: coronafeirws | LLYW.CYMRU.
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am awyru, lleihau capasiti, atal torfeydd, glanweithdra, lefelau sain a helpu’r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.
Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo
Mae gwybodaeth am sut mae’n rhaid i fusnesau a threfnwyr digwyddiadau wirio statws COVID-19 eu cwsmeriaid i’w gweld yn Pàs COVID: canllawiau ar gyfer busnesau a digwyddiadau | LLYW.CYMRU.
Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.
Canllaw Lefel Rhybudd 0 (8 Rhag)
Lefel rhybudd 0: canllawiau i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau – dyma’r wybodaeth gyfredol sydd ei hangen ar fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau a chyrff eraill i’w helpu i gadw at ofynion y gyfraith a lleihau’r risg y daw pobl i gysylltiad â’r coronafeirws ar eu safle, a’i ledaenu.
Datganiad ysgrifenedig: Newidiadau i deithio rhyngwladol
Mae Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi nodi (5 Rhagfyr 2021).
Rydym yn gweithredu i symud Nigeria ar y rhestr goch ar gyfer teithio o 0400 dydd Llun 6 ed Rhagfyr ymlaen ar ôl canfod amrywiolyn newydd o’r coronafeirws, a allai o bosibl osgoi'r warchodaeth sy’n cael ei darparu gan frechlynnau.
Ni chaniateir i deithwyr o wledydd ar y rhestr goch ddod i mewn i Gymru, ond rhaid iddynt ddod i mewn drwy borth mynediad yn Lloegr a mynd i gyfleuster cwarantin a reolir am 10 diwrnod. Tra bod y teithiwr mewn cyfleuster cwarantin rhaid iddynt hefyd gael prawf PCR ar ôl cyrraedd ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8.
Rydym hefyd yn ailgyflwyno gofyniad Prawf 48 awr Cyn Gadael ar gyfer pob teithiwr. Mae hyn yn golygu y bydd angen i deithwyr gael prawf PCR neu LFD negatif mor agos â phosibl at eu hamser gadael cyn y gallant deithio.
Mae camau tebyg yn cael eu cymryd ledled y DU.
Cewch wybodaeth am deithio rhyngwladol yn: Teithio: coronafeirws | Is-bwnc | LLYW.CYMRU.
Lleoedd ar gael ar gyfer Britain & Ireland Marketplace (BIM) 2022
Mae BIM yn weithdy busnes-i-fusnes blynyddol a drefnir gan Gymdeithas Cwmnïau Teithio Ewrop (ETOA) ac UKinbound.
Bydd y digwyddiad deuddydd hwn yn cael ei gynnal:
Mae'n ddigwyddiad contractio busnes-i-fusnes blaenllaw sy'n ymroddedig i werthu cynnyrch twristiaeth y DU ac Iwerddon yn fyd-eang. Bydd dros 120 o brynwyr wyneb yn wyneb a 150 o brynwyr yn y digwyddiad rhithwir gyda'r cyfle i gael hyd at 32 o gyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw bob dydd.
Mae'r digwyddiad yn arbennig o addas ar gyfer y canlynol a rhaid i chi fod â diddordeb a gallu contractio / gwerthu drwy'r Diwydiant Teithio i gymryd rhan:
- Gwestai
- Atyniadau
- Cwmnïau ymweld
Mae Croeso Cymru wedi trefnu cyfradd arbennig o £100+TAW i nifer fach o gyflenwyr yng Nghymru fynd i'r ddau ddiwrnod.
Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru fydd 21 Rhagfyr 2021.
Ewch i wefan y diwydiant twristiaeth i gael rhagor o wybodaeth.
Gallwch gofrestru nawr: Gweminar Diwydiant Teithio Rhyngwladol Cymru – 4pm, dydd Llun 20 Rhagfyr
Cofrestrwch nawr ar gyfer gweminar Diwydiant Teithio Rhyngwladol Cymru, lle cewch gyfle i wrando ar Gymdeithas Gweithredwyr Teithiau Ewropeidd ac UKinbound, a hefyd ar weithredwyr teithiau blaenllaw a Chwmnïau Rheoli Cyrchfannau.
Deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i glywed eich barn am gynigion i ddiwygio'r system rheoli datblygu a pholisi cynllunio yng Nghymru er mwyn helpu awdurdodau cynllunio lleol i reoli ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 22 Chwefror 2022.
Am ragor o wybodaeth ewch i Deddfwriaeth a pholisi cynllunio ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr | LLYW.CYMRU.
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am ymgyngoriadau eraill.
£500,000 i roi mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd ym mlwyddyn ei chanmlwyddiant
I nodi dathliadau canmlwyddiant yr Urdd, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid felly bod mynediad i Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf am ddim, gyda'r nod o wneud yr eisteddfod yn hygyrch i bawb.
Bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal yn Ninbych rhwng 30 Mai a 4 Mehefin 2022 a dyma fydd y tro cyntaf i'r ŵyl lawn ddychwelyd ers 2019. Fe wnaeth gwyliau rhithiol, a adnabyddir fel 'Eisteddfod T', gymryd lle'r prif ddigwyddiad yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Pob cartref yng Nghymru i gael coeden am ddim i'w phlannu fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd
Bydd y polisi newydd beiddgar yn rhoi cyfle i bobl ddewis coeden eu hunain i’w phlannu neu ddewis cael coeden wedi ei phlannu ar eu rhan.
Gan siarad mewn ymweliad â phrosiect mawr creu coetiroedd Coed Cadw yng Nghastell-nedd yn ystod Wythnos Genedlaethol Coed, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fod Llywodraeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth â Coed Cadw i roi’r ymgyrch ar waith.
Bydd y coed cyntaf ar gael i'w casglu o fis Mawrth ymlaen, o un o bum canolfan gymunedol ranbarthol a fydd yn cael eu sefydlu. Nod Llywodraeth Cymru yw sefydlu 20 canolfan arall ledled Cymru erbyn mis Hydref 2022.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|