Pen-y-bont ar Ogwr yn anelu at Sero Net
Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno Strategaeth Datgarboneiddio 2030. Dysgwch sut y bydd eu cynllun Ynni Clyfar a naw prosiect arloesol yn helpu i gyflawni eu hamcanion datgarboneiddio drwy wylio yma
|
|
 |
 |
|
Helpu cwmnïau i fanteisio ar yr economi gylchol
Gall busnesau yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd bellach gael cymorth i'w helpu i fabwysiadu egwyddorion cylchol a cynaliadwy o fewn eu sefydliad. Darllenwch mwy am Economi Gylchol.
|
Y datblygiadau diweddaraf yn y Strategaeth Arloesi newydd i Gymru
Yn dilyn cyfres o weithgareddau wedi'u targedu ar gyfer rhanddeiliaid, datblygwyd model rhesymeg newydd sy'n tynnu sylw at feysydd allweddol sy'n rhan annatod o ddatblygu strategaeth. I ddarllen mwy ac i rannu eich safbwyntiau cliciwch yma neu cysylltwch â StrategaethArloesi@llyw.cymru
Cyllid ar gyfer eich prosiectau ymchwil a datblygu
A all eich sefydliad ddangos llwybr i’r farchnad ar gyfer ateb i fater sy’n ymwneud â’r sector cyhoeddus neu’r gymdeithas a wynebir gan ganolbarth Cymru? Mae ‘Launch Pads’ sydd wedi’u harwain gan her yn cynnig cyllid o 100% ar gyfer prosiectau llwyddiannus i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil a datblygu i fynd i'r afael â hyn. Mae rownd un, sy'n seiliedig ar yr amgylchedd a meysydd craidd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) bellach wedi agor.
Rhagor o wybodaeth yma
Diogelu eich eiddo Deallusol
Gallwn eich helpu i bwyso a mesur a diogelu eich holl eiddo deallusol. Cysylltwch â Llywodraeth Cymru i gael canllawiau diduedd ar bob math o eiddo deallusol o gytundebau hawlfraint a pheidio â datgelu i batentau a nodau masnach yn gwybodaeth.eiddo.deallusol@llyw.cymru
Cyfarfodydd Cymorth Cyllid Arloesi
Mae Cyfarfodydd Cymorth Arloesi yn cynnig y cyfle i gael gafael ar gyngor, arbenigedd ac adborth gan y gymuned cymorth busnes sydd wedi'u teilwra i'ch cwmni. Gall aelodau'r panel gynnig cipolwg ynghylch pa opsiynau ariannu sydd fwyaf addas i'ch busnes a phwy sydd orau i droi atynt.
I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon
Ceisiadau ar gyfer y rhaglen ‘Global Business Innovation’
Mae'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am y rhaglen ‘Global Business Innovation’ yn agosáu.
Cofrestrwch erbyn 6 Rhagfyr, 2021 i gael lle ar y rhaglen a chael gwybod mwy am ehangu busnes a chysylltu â phartneriaid yn Ne Korea.
Cliciwch ar y ddolen hon i gofrestru.
Digwyddiad Ymrwymiad Strategaeth Arloesedd
16 Rhagfyr 2021, 14:00 – 15:30
Yn dilyn cyfres o drafodaethau rhanddeiliaid, datblygwyd model rhesymeg ar gyfer y Strategaeth Arloesedd i Gymru newydd, drwy amlygu meysydd pwysig i ddatblygiad a gweithrediad y strategaeth. Bydd y digwyddiad yn darparu’r cyfle i drafod y model ac i ofyn unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau.
Cliciwch yma i gofrestru
Brecwast Busnes Arloesi gydag AMRC
16 Rhagfyr 2021, 09:00 – 10:30
Bydd Alan Mumby, arweinydd agweddau ym maes arloesi, yn gwneud cyflwyniad am yr heriau sy'n wynebu'r sector gweithgynhyrchu ym maes arloesi. Cefnogir y sesiwn gan dîm Arloesi Llywodraeth Cymru a fydd yn siarad am rai o'r pecynnau cymorth sydd ar gael i gefnogi arloesedd busnes.
Cofrestrwch yma ar gyfer y digwyddiad am ddim hwn.
Cyllid ymchwil a datblygu ar gyfer Technoleg Hinsawdd
12 Ionawr 2022, 10:00 – 17:00
Ydych chi'n gwmni sydd wedi'i leoli yng Nghymru sydd am gael gafael ar gyllid ymchwil a datblygu, rhedeg prosiectau ymchwil a datblygu mwy effeithiol a masnacheiddio'r canlyniadau? Er bod croeso i bob prosiect, mae Prosiectau sy'n Gysylltiedig â Thechnoleg Hinsawdd o ddiddordeb ar gyfer y Cyfarfod Cymorth ar-lein hwn. Cofrestrwch yma
Mae cyfarfodydd cymorth Llywodraeth Cymru yn cael eu cynnal ar y cyd ag Innovate UK a'r Knowledge Transfer Network.
Darganfyddwch mwy o gyfarfodydd cymorth
|