Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

2 Rhagfyr 2021


autumn colours

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Datganiad ysgrifenedig: newidiadau i deithio rhyngwladol; Nodyn Atgoffa - Pecyn hyrwyddo Pàs COVID y GIG, cardiau gweithredu mesurau rhesymol ar gyfer busnesau a sefydliadau; Cytundeb Cydweithio gael ei lofnodi; Lansio gweledigaeth newydd ar gyfer bwyd a diod wrth i'r Ffair Aeaf ddychwelyd; Cynllun Kickstart; Cymorth a rheoli anabledd ac iechyd yn y gwaith; Nodwch y dyddiad – Dydd Llun 20 Rhagfyr, 4pm: Gweminar Diwydiant Teithio Rhyngwladol Cymru; Byddwch yn Wych y Nadolig hwn; Cofnodi gwybodaeth Talu Wrth Ennill mewn amser real wrth dalu yn gynnar dros y Nadolig


Datganiad ysgrifenedig: newidiadau i deithio rhyngwladol

Mae Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi nodi (29 Tachwedd 2021):

Rydym yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor oni bai bod hynny’n hanfodol. Fodd bynnag, yn unol â'r newidiadau sy'n cael eu cyflwyno mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig i helpu i atal lledaeniad yr amrywiolyn coronafeirws newydd – omicron – i'r DU, rwyf heddiw'n cytuno ar reolau newydd ar gyfer pob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd nad ydynt ar y rhestr goch.

O 4am ddydd Mawrth 30 Tachwedd bydd angen i bob teithiwr sydd wedi'i frechu'n llawn sy'n cyrraedd Cymru, gan gynnwys y rhai o dan 18 oed, hunanynysu a chymryd prawf PCR ar ddiwrnod 2 neu cyn hynny. Rydym hefyd yn ystyried a fydd angen prawf PCR ar ddiwrnod 8.

Unwaith y byddant wedi cael canlyniad prawf negatif, gallant roi’r gorau i hunanynysu.  Os byddant yn cael canlyniad positif, bydd raid iddynt barhau i hunanynysu am 10 diwrnod o'r dyddiad y cymerwyd y prawf.

Cewch wybodaeth am deithio rhyngwladol yn: Teithio: coronafeirws | Is-bwnc | LLYW.CYMRU.


NODYN ATGOFFA - Pecyn hyrwyddo Pàs COVID y GIG; cardiau gweithredu mesurau rhesymol ar gyfer busnesau a sefydliadau 

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.

Gallwch weld cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch mesurau rhesymol i’w cymryd i leihau risg y coronafeirws yma. Cardiau gweithredu mesurau rhesymol ar gyfer busnesau a sefydliadau: coronafeirws | LLYW.CYMRU.


Cytundeb Cydweithio gael ei lofnodi

Llofnododd Prif Weinidog Cymru ac Arweinydd Plaid Cymru Gytundeb Cydweithio ar 1 Rhagfyr, gan nodi dechrau partneriaeth dros dair blynedd.

Mae’r Cytundeb yn ymdrin â 46 o feysydd polisi, gan gynnwys ehangu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ac ehangu’r ddarpariaeth gofal plant; creu gwasanaeth gofal cenedlaethol a gweithredu ar unwaith ac yn radical i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi.

Bydd Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu polisïau ar sail y Cytundeb Cydweithio ac i gadw trosolwg ar y cyd o’r gwaith o’u cyflawni.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Lansio gweledigaeth newydd ar gyfer bwyd a diod wrth i'r Ffair Aeaf ddychwelyd

Mae datblygu gwerth diwydiant bwyd a diod Cymru i £8.5bn a chynyddu nifer y gweithwyr yn y sector sy'n derbyn Cyflog Byw Cymru i 80%, erbyn 2025, wrth wraidd gweledigaeth newydd gan Lywodraeth Cymru.

Gwnaeth y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths y cyhoeddiad wrth iddi ymweld â Ffair Aeaf Frenhinol Cymru a ddychwelodd ar ôl cael ei chanslo y llynedd oherwydd y pandemig.

Mae'r Weledigaeth wedi'i hanelu at bob busnes yn y diwydiant o fanwerthu ac allforwyr i dwristiaeth, o fragwyr a phobyddion i weithgynhyrchwyr a phroseswyr.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cynllun Kickstart

Mae'r Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu swyddi newydd i bobl ifanc 16 i 24 oed ar Gredyd Cynhwysol sy'n wynebu risg o ddiweithdra hirdymor.

Gall cyflogwyr o bob maint wneud cais am gyllid hyd at 17 Rhagfyr 2021 sy'n cwmpasu:

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Cymorth a rheoli anabledd ac iechyd yn y gwaith 

Ar hyn o bryd mae llawer o gyflogwyr yn wynebu heriau wrth recriwtio’r bobl y maent eu hangen i helpu eu busnesau i ffynnu. Nid yw erioed wedi bod mor bwysig i’r cyflogwyr hynny gadw a datblygu’r bobl sydd ganddynt eisoes.

Felly, mae’n hanfodol bod gan fusnesau’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i atal absenoldeb hirdymor a cholli swyddi yn sgil salwch neu anabledd y gellid ei osgoi.

Mae Llywodraeth y DU yn profi gwasanaeth ar-lein newydd ar gyfer cyflogwyr sy’n darparu cyngor ac arweiniad ar reoli iechyd ac anabledd yn y gweithle. Mae’n egluro’ch rhwymedigaethau cyfreithiol ac arferion da.

Trwy gymryd rhan, byddwch yn derbyn gwybodaeth ac arweiniad ar faterion cyflogaeth sy’n gysylltiedig ag anabledd ac iechyd.

Noder mai’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adborth yw 13 Rhagfyr 2021.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Nodwch y dyddiad – Dydd Llun 20 Rhagfyr, 4pm: Gweminar Diwydiant Teithio Rhyngwladol Cymru

Cadwch y dyddiad ar gyfer gweminar Diwydiant Teithio Rhyngwladol Cymru, lle cewch gyfle i wrando ar Gymdeithas Gweithredwyr Teithiau Ewropeidd ac UKinbound, a hefyd ar weithredwyr teithiau blaenllaw a Chwmnïau Rheoli Cyrchfannau. Mwy o fanylion i ddilyn.


Byddwch yn Wych y Nadolig hwn

Mae'r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha yn ôl i annog pawb i ddal ati i ailgylchu y Nadolig hwn. rydym yn creu mwy o wastraff gyda'r bwyd ychwanegol rydyn ni'n ei fwyta a'r mynydd o ddeunydd pacio o anrhegion Nadolig rydyn ni'n eu rhoi neu'n eu derbyn.

Os hoffech gefnogi ein hymgyrch ar eich sianeli ar y Cyfryngau cymdeithasol anfonwch e-bost at walesrecycles@wrap.org.uk i weld asedau’r ymgyrch.

Mae cyfle hefyd i gymryd rhan mewn cystadleuaeth Nadolig i gael cyfle i ennill hamper Nadoligaidd. Dilynwch @WalesRecycles ar Twitter a Facebook.

I wybod mwy ewch i www.ByddWychAilgylcha.org.uk.


Cofnodi gwybodaeth Talu Wrth Ennill mewn amser real wrth dalu yn gynnar dros y Nadolig

Mae CThEM yn gwybod bod rhai cyflogwyr yn talu eu gweithwyr yn gynt na’r arfer dros y Nadolig, er enghraifft os yw’r busnes ar gau dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. Os ydych chi’n talu yn gynnar, cofnodwch eich dyddiad talu arferol ar eich Cyflwyniad Taliad Llawn (FPS).

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram