Bwletin Newyddion: Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020; Manteisiwch ar y pigiad atgyfnerthu i’ch diogelu rhag yr amrywiolyn newydd – Prif Weinidog; Negeseuon Atgoffa COVID-19

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

10 Rhagfyr 2021


corona

Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS wedi nodi (10 Rhagfyr):

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol cynnal adolygiad o'r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad diweddaraf i fod i gael ei gynnal erbyn 9 Rhagfyr. 

Mae cyfradd trosglwyddo’r coronafeirws yng Nghymru yn gyffredinol wedi parhau’n gymharol sefydlog ers yr adolygiad diwethaf o’r rheoliadau – mae’n parhau i fod yn uchel gyda thua 500 o achosion fesul 100,000 o bobl.

Ers inni adolygu’r rheoliadau ddiwethaf, mae’r amrywiolyn Omicron newydd wedi dod i’r amlwg. Dyma amrywiolyn o’r feirws sy’n lledaenu’n gyflym, gyda nifer o fwtaniadau – er bod gennym lawer i’w ddysgu eto am yr amrywiolyn hwn, mae’n ddatblygiad sy’n peri pryder yn y pandemig.

Mewn ychydig dros bythefnos, mae achosion o Omicron wedi cael eu nodi ar draws y byd, gan gynnwys yn y DU. Mae sawl ardal yn Lloegr a’r Alban yn adrodd am drosglwyddiad sylweddol yn y gymuned. Ar hyn o bryd, nifer bach o achosion sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru, ond mae’n rhaid inni fod yn barod i weld achosion yn cynyddu’n gyflym iawn.

Mae gan yr amrywiolyn hwn y potensial i heintio niferoedd mawr o bobl, a allai arwain at gynnydd mewn derbyniadau i'r ysbyty. Wrth inni wynebu cyfnod anoddaf y flwyddyn ar gyfer ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, byddai hyd yn oed cynnydd bach mewn derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn rhoi mwy o bwysau eto ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol, sydd eisoes dan bwysau.

Rydym yn cymryd y datblygiad hwn o ddifrif ac yn paratoi ar gyfer ton Omicron yn awr.

Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau. Rydym wedi ehangu’r rhaglen frechu, yn unol â’r cyngor diweddaraf gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a byddwn yn cynnig brechlyn atgyfnerthu i bawb dros 18 oed sy’n gymwys erbyn diwedd mis Ionawr.

Yn yr adolygiad tair wythnos hwn o’r rheoliadau, rydym wedi ystyried pa fesurau amddiffyn sydd eu hangen yn awr i ymateb i’r don Delta bresennol a darparu amddiffyniad yn erbyn yr amrywiolyn Omicron newydd, gan adeiladu ar y mesurau a gyflwynwyd gennym dros yr wythnosau diwethaf ynghylch hunanynysu a theithio rhyngwladol.

Byddwn yn cynghori pobl i:

  • Wneud prawf llif unffordd cyn mynd allan, ymweld â ffrindiau neu deulu, neu deithio. Os yw canlyniad y prawf yn bositif, dylai pobl aros gartref, hunanynysu a threfnu prawf PCR.
  • Gwisgo gorchudd wyneb ym mhob man cyhoeddus, gan gynnwys mewn sinemâu a theatrau, tafarndai a bwytai, ac eithrio pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.

Mae ein canllawiau ar gyfer y Pàs COVID wedi cael eu diwygio i gynghori y dylid gwneud prawf llif unffordd o fewn 24 awr, yn hytrach na 48 awr fel y nodwyd yn flaenorol.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi canllawiau i fyfyrwyr sy’n paratoi i adael y coleg a’r brifysgol ar gyfer y Nadolig, sy’n argymell eu bod yn gwneud prawf cyn teithio.

Mae ein grŵp arbenigol ar gyfarpar diogelu personol yn adolygu ar frys yr holl dystiolaeth sydd ar gael ynghylch trosglwyddiad drwy aerosol ar gyfer yr amrywiolyn Omicron a byddwn yn gweithredu ar unrhyw argymhellion ar gyfer newid.

Er mwyn gwarchod rhai o’r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, rydym yn ystyried sut i gefnogi ymweliadau mwy diogel â chartrefi gofal ac ysbytai yn sgil ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron sy’n lledaenu’n gyflym.

Rydym hefyd yn gwneud tri newid i’r rheoliadau i:

  • Egluro bod rhaid i bobl wisgo gorchudd wyneb mewn theatrau, sinemâu neu neuaddau cyngerdd (ac eithrio pan fyddant yn bwyta neu’n yfed neu pan fyddant mewn caffi neu far sy’n rhan o’r safleoedd hynny);
  • Ei gwneud yn ofynnol i bobl wisgo gorchudd wyneb mewn gwers yrru broffesiynol neu brawf ymarferol;
  • Dileu’r prawf o imiwnedd naturiol o’r fersiwn ddomestig o’r Pàs COVID.

Bydd y newidiadau o ran gorchuddion wyneb yn dod i rym ar ddydd Sadwrn 11 Rhagfyr a’u diben yw cael gwared ar unrhyw amwysedd yn y rheoliadau.

Bydd y newidiadau i’r Pàs COVID yn dod i rym ar ddydd Mercher 15 Rhagfyr, ar yr un pryd ag yn Lloegr. Bydd hyn yn sicrhau bod y gofynion yr un fath yn y ddwy wlad.

Am y tro, byddwn yn parhau ar lefel rhybudd sero. Byddwn yn monitro’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn agos iawn dros y diwrnodau nesaf a bydd Gweinidogion yn cyfarfod yn rheolaidd i ystyried a oes angen inni roi mesurau eraill ar waith i ddiogelu Cymru. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am unrhyw newidiadau.


Manteisiwch ar y pigiad atgyfnerthu i’ch diogelu rhag yr amrywiolyn newydd – Prif Weinidog

Mae'r Prif Weinidog wedi annog pawb i gael eu brechlyn atgyfnerthu COVID-19 wrth iddo rybuddio bod Cymru’n wynebu ton newydd o heintiau o ganlyniad i’r amrywiolyn Omicron.

Mae mwy na miliwn o bobl eisoes wedi cael eu pigiad atgyfnerthu yng Nghymru, ond mae’r rhaglen yn cael ei chyflymu’n dilyn ymddangosiad yr amrywiolyn hwn sy’n lledaenu’n gyflym.

Yn ei gynhadledd i’r wasg yn dilyn yr adolygiad 21 diwrnod, cynhaliwyd dydd Gwener 10 Rhagfyr, dywedodd y  Prif Weinidog er mai dim ond llond llaw o achosion sydd wedi’u cadarnhau yng Nghymru hyd yma, bod angen inni fod yn barod i weld achosion yn cynyddu’n gyflym iawn.

Cafodd yr achosion cyntaf o omicron eu darganfod yn Ne Affrica ychydig dros bythefnos yn ôl. Mae wedi lledaenu’n gyflym ar draws y byd, gan gynnwys i’r Deyrnas Unedig. Nawr mae’r amrywiolyn yn lledaenu yn y gymuned mewn sawl ardal yn Lloegr ac yn yr Alban.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae ymddangosiad yr amrywiolyn omicron yn ddatblygiad arall sy’n peri pryder i ni yn y pandemig hwn. Rydym yn bryderus am y cyflymder y mae’n lledaenu a’r potensial y gallai heintio niferoedd mawr o bobl. 

“Rydym yn rhoi’r pigiadau atgyfnerthu’n gyflymach mewn ymateb i’r amrywiolyn newydd. Rydym yn cynyddu nifer y clinigau ac yn ymestyn yr oriau agor.

“Mae pob dos o’r brechlyn a roddir i rywun yn fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn blaenoriaethu cael eich brechlyn neu’ch pigiad atgyfnerthu.

“Dyma’r anrheg Nadolig gorau y gallwch chi ei roi i chi eich hun a’ch teulu eleni.”

Mae sawl peth arall y gall pobl ei wneud i helpu i amddiffyn eu hunain rhag coronafeirws, gan gynnwys yr amrywiolyn omicron newydd.

Ychwanegodd y Prif Weinidog:

“Doedd dim un ohonom eisiau clywed y newyddion am yr amrywiolyn newydd hwn. Ar ôl bron i ddwy flynedd o bandemig, roeddem wedi gobeithio y byddem yn gallu rhoi’r coronafeirws y tu ôl i ni y Nadolig hwn.

“Ond rydym wedi wynebu sawl her yn ystod y pandemig. Ac rydym wedi dysgu gwersi bob tro. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn mynd yn ôl i’r dechrau.

“Gwnewch bopeth y gallwch i’ch diogelu eich hun a’ch anwyliaid. Dilynwch y cyngor a’r holl fesurau sydd wedi ein cadw’n ddiogel yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Gadewch inni gadw’n ddiogel ac yn iach y Nadolig hwn.”

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


NEGESEUON ATGOFFA COVID-19:

Diogelu Cymru – yn y gwaith

Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch gweithlu'n ddiogel yn y gwaith, ewch i wefan Busnes Cymru am ganllawiau manwl, enghreifftiau ac adnoddau.

Mesurau Rhesymol i Leihau’r Coronafeirws

Gallwch weld cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch mesurau rhesymol i’w cymryd i leihau risg y coronafeirws yma. Cardiau gweithredu mesurau rhesymol ar gyfer busnesau a sefydliadau: coronafeirws | LLYW.CYMRU.

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am awyru, lleihau capasiti, atal torfeydd, glanweithdra, lefelau sain a helpu’r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo

Mae gwybodaeth am sut mae’n rhaid i fusnesau a threfnwyr digwyddiadau wirio statws COVID-19 eu cwsmeriaid i’w gweld yn Pàs COVID: canllawiau ar gyfer busnesau a digwyddiadau | LLYW.CYMRU.

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.

Canllaw Lefel Rhybudd 0 

Lefel rhybudd 0: canllawiau i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau – dyma’r wybodaeth gyfredol sydd ei hangen ar fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau a chyrff eraill i’w helpu i gadw at ofynion y gyfraith a lleihau’r risg y daw pobl i gysylltiad â’r coronafeirws ar eu safle, a’i ledaenu.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram