Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN: Pecyn £45m i hyfforddi staff a helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i dyfu; Cadarnhau'r camau nesaf i fynd i'r afael ag effaith perchnogaeth ail gartrefi ar gymunedau Cymru; Cytundeb uchelgeisiol i sicrhau diwygio radical a newid; Dyfroedd ymdrochi Cymru yn cydymffurfio 100% am y bedwaredd flwyddyn yn olynol; Sgiliau a Recriwtio: Ymgyrch recriwtio / gyrfaoedd Twristiaeth a Lletygarwch - Ydych chi’n chwilio am staff ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd?; Cyfieithu am ddim i dy fusnes? Wel, Helo Blod; Mae newidiadau digidol gwesty Gŵyr yn cael pum seren gan gwsmeriaid; Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru; Lansio ymgyrch Working Minds; Plan It With Purpose: cyflawni’ch nodau cynaliadwyedd; Cronfa Newidiadau Cymunedol - De-orllewin Cymru; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.
Pecyn £45m i hyfforddi staff a helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i dyfu
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, becyn £45m o gyllid a fydd yn helpu busnesau bach ledled Cymru i dyfu a chefnogi miloedd o bobl i hyfforddi i weithio mewn sectorau allweddol.
Fel rhan o'r pecyn, bydd £35m yn helpu busnesau bach a chanolig (BBaCh) yng Nghymru i i ail-ddechrau, datblygu, datgarboneiddio a thyfu i helpu i sbarduno adferiad economaidd Cymru. Bydd y cyllid yn cefnogi mwy na 1,000 o fusnesau, yn helpu i greu 2,000 o swyddi newydd ac yn diogelu 4,000 o swyddi eraill.
Mewn menter ar y cyd rhwng Gweinidog yr Economi a'r Gweinidog Addysg a'r Gymraeg, Jeremy Miles, mae £10m ychwanegol ar gael i roi hwb i Gyfrifon Dysgu Personol poblogaidd Cymru. Bydd hyn yn galluogi colegau addysg bellach i ddarparu cyrsiau a chymwysterau ychwanegol a fydd yn helpu 2,000 o bobl i fanteisio ar ystod ehangach o gyfleoedd ar gyfer swyddi ac ennill cyflog mewn sectorau â blaenoriaeth sy'n wynebu prinder llafur.
Dywed gweinidogion y bydd y pecyn sylweddol yn helpu i gefnogi economi Cymru drwy fisoedd y gaeaf.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Cadarnhau'r camau nesaf i fynd i'r afael ag effaith perchnogaeth ail gartrefi ar gymunedau Cymru
Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi rannu manylion cynllun peilot i fynd i'r afael â'r effaith y mae perchenogaeth ail gartrefi yn ei chael ar rai cymunedau yng Nghymru.
Wrth siarad yn y Senedd, cadarnhaodd y Gweinidog y bydd y peilot yn dwyn ynghyd amrywiaeth o gamau ar gyfer mynd i'r afael â’r effeithiau y gall niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr eu cael ar gymuned.
Dywedodd y Gweinidog wrth Aelodau’r Senedd fod Dwyfor wedi cael ei ddewis ar gyfer cynllun peilot a fydd yn cael ei lansio ym mis Ionawr gyda chymorth Cyngor Gwynedd.
Hefyd, lansiodd y Gweinidog ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig ym maes cynllunio. Bydd hwn yn ceisio barn ar ddefnyddio 'gorchymyn dosbarthiadau' ym maes cynllunio a fyddai'n caniatáu i awdurdodau cynllunio lleol ei gwneud yn ofynnol gwneud ceisiadau cynllunio ar gyfer ail gartrefi ychwanegol a llety gwyliau tymor byr mewn ardaloedd lle maent yn achosi anawsterau sylweddol i gymunedau. Bydd yr ymgynghoriad yn llywio ail gam y peilot a allai olygu gwneud newidiadau i systemau cynllunio, trethu a thwristiaeth.
Yn ogystal, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, lansiad ymgynghoriad ar fesurau ychwanegol wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer y cymunedau hynny lle siaredir y Gymraeg yn helaeth. Bydd hyn yn sail i Gynllun Tai mewn Cymunedau Cymraeg Llywodraeth Cymru, a bydd yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gynnal cymunedau Cymraeg fel lleoedd y mae modd defnyddio'r iaith yn hwylus.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Cytundeb uchelgeisiol i sicrhau diwygio radical a newid
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford ac Arweinydd Plaid Cymru Adam Price wedi sôn am eu huchelgais i Gymru, wrth iddynt gyhoeddi’r Cytundeb Cydweithio.
Rhaglen bolisi ar y cyd yw’r cytundeb ac mae’n ymdrin â 46 o feysydd amrywiol. Yn eu plith y mae darparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd; ymrwymiad i gymryd camau radical ar fyrder i fynd i'r afael â’r argyfwng ail gartrefi; a diwygio’r Senedd yn y tymor hir.
Dyma fath newydd o drefniant gweithio gwleidyddol. Bydd y ddau bartner –Llywodraeth Cymru a Grŵp Senedd Plaid Cymru – yn cydweithio dros y tair blynedd nesaf i ddatblygu a goruchwylio'r gwaith o wireddu’r polisïau sy’n rhan o’r cytundeb.
Mae’r ymrwymiadau a amlinellir yn y cytundeb hwn yn cynnwys:
-
Ardollau twristiaeth lleol – Cyflwyno ardollau twristiaeth lleol gan ddefnyddio deddfwriaeth diwygio cyllid llywodraeth leol.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Dyfroedd ymdrochi Cymru yn cydymffurfio 100% am y bedwaredd flwyddyn yn olynol
O'r 105 o ddyfroedd ymdrochi a samplwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), cyrhaeddodd 85 y categori uchaf, sef ansawdd dŵr rhagorol. Roedd 14 yn dda a chwech yn ddigonol, gan sicrhau bod arfordiroedd Cymru yn parhau i fodloni rhai o'r safonau mwyaf llym yn Ewrop ar gyfer ansawdd dŵr.
Ansawdd dŵr rhagorol yw un o'r prif ofynion ar gyfer gwneud cais am wobr y Faner Las ar gyfer 2021.
Fel rhan o'i Rhaglen Lywodraethu, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio efelychu'r llwyddiant hwn pan fydd yn dechrau dynodi mwy o ddyfroedd mewndirol, er enghraifft, llynnoedd ac afonydd, yn ddyfroedd ymdrochi yng Nghymru.
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:
“Ry’n ni’n gwybod bod llawer o bobl wedi penderfynu aros yng Nghymru ar gyfer eu gwyliau eleni – a’u bod wedi darganfod yr hyn sydd gan ein harfordir anhygoel i'w gynnig. Mae'r canlyniadau hyn yn arwydd ardderchog o hyder yn ansawdd ein dŵr ymdrochi, ac yn yr ymdrech a wnaed gan gymunedau, rheoleiddwyr a phartneriaid eraill i weithio fel tîm er mwyn diogelu’n hasedau naturiol.”
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
SGILIAU A RECRIWTIO:
Ymgyrch recriwtio / gyrfaoedd Twristiaeth a Lletygarwch
Fel rhan o'r ymgyrch, mae pecyn cymorth bellach ar gael i helpu gyda recriwtio staff a chodi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gyrfa gwych ym maes twristiaeth a lletygarwch: Lawrlwythwch y pecyn cymorth a'r delweddau.
Cefnogwch yr ymgyrch drwy gadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio #CreuwyrProfiad mewn unrhyw swyddi neu negeseuon ar-lein. Am fanylion llawn yr ymgyrch ewch i wefan Cymru'n Gweithio.
Ydych chi’n chwilio am staff ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd?
Mae’r rhan fwyaf o golegau yn barod i gynnwys hysbysebion am swyddi gwag ar eu gwefannau – cewch ragor o wybodaeth ar ein tudalen sgiliau a recriwtio o dan ‘Postio swyddi gwag gyda darparwyr lleol’. Os nad yw eich coleg lleol wedi’i restru yma cysylltwch â nhw’n uniongyrchol neu ewch i’w gwefan.
I gael gwybodaeth am gymorth gyda recriwtio a hyfforddi staff, ewch i'n tudalennau Sgiliau a Recriwtio – sy’n cynnwys dolenni i'r Ganolfan Byd Gwaith, Cyfrifon Dysgu Personol a'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch
Cyfieithu am ddim i dy fusnes? Wel, Helo Blod
Mae Helo Blod yn wasanaeth cyflym a chyfeillgar sydd yma i dy gynghori di ar sut i ddefnyddio ychydig (neu lawer) o Gymraeg yn dy fusnes. Ac mae’r cwbl am ddim!
Gyda'n gilydd gallwn weithio ar ddefnyddio mwy o Gymraeg yn dy fusnes.
Gall hynny fod yn gyngor ymarferol ar sut i farchnata a hyrwyddo dy fusnes, neu help i wneud y Gymraeg yn fwy gweledol yn dy siop, caffi, gweithdy neu ar dy wefan – mae Helo Blod yma i dy helpu!
Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Mae newidiadau digidol gwesty Gŵyr yn cael pum seren gan gwsmeriaid
Yn debyg i lawer yn y sector lletygarwch, mae Oxwich Bay Hotel wedi gorfod delio â phroblemau o ran staff a llif arian yn ystod y pandemig. Darganfyddwch sut y darparodd digidol yr ateb a gafodd ei gymeradwyo gan gwsmeriaid, diolch i gyngor a chefnogaeth am ddim gan Cyflymu Cymru i Fusnesau.
Gwyliwch y fideo a chewch fwy o wybodaeth am gymorth digidol oddi wrth Cyflymu Cymru i Fusnesau.
Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am ymgyngoriadau eraill.
Lansio ymgyrch Working Minds
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn galw am newid diwylliant ledled gweithleoedd Prydain lle byddai cydnabod ac ymateb i arwyddion o straen yn dod mor naturiol â rheoli diogelwch yn y gweithle.
Straen sy’n gysylltiedig â gwaith yw prif achos absenoldeb salwch ymysg gweithwyr bellach, gyda ffactorau pwysig yn achosi straen cysylltiedig â gwaith, gan gynnwys pwysau llwyth gwaith – terfynau amser tynn, gormod o gyfrifoldeb a diffyg cymorth gan reolwyr. Nid yw cyflogwyr, yn enwedig rhai llai, yn ymwybodol o’u dyletswyddau cyfreithiol neu sut i adnabod arwyddion straen.
Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Plan It With Purpose: cyflawni’ch nodau cynaliadwyedd
Mae Enterprise Nation yn gweithio mewn partneriaeth ag Aviva a Smart Energy GB i helpu busnesau i weithredu arferion gorau cynaliadwy sy’n sicrhau effaith bositif ar y blaned, cymdeithas a’r economi.
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i gefnogi busnesau bach a chanolig a pherchnogion busnes drwy gynyddu eu dealltwriaeth o faterion amgylcheddol a chymdeithasol yn y DU, gan ddangos modelau rôl priodol, meithrin mentrau cynaliadwy ac annog newid drwy adnoddau, cynlluniau gweithredu ac argymhellion wedi’u teilwra.
Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Cronfa Newidiadau Cymunedol - De-orllewin Cymru
Mae Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Cysylltiedig De Orllewin Cymru wedi ail-lansio cronfa grant cymunedol i gefnogi cymunedau ar hyd y rheilffordd i wneud i newid ddigwydd yn eu lleoedd lleol.
Bydd y gronfa Newidiadau Cymunedol yn cefnogi grwpiau a sefydliadau sydd eisiau sbarduno newid lleol cadarnhaol yn uniongyrchol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw ar Ragfyr 23ain.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cysylltu De-orllewin Cymru.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|