Dathlu Cynhadledd Wledig 2022
Mae Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynllunio dychwelyd i normal gyda’r gynhadledd ‘gorfforol’ gyntaf ers 2019.
Ar 9 a 10 Mehefin 2022, bydd digwyddiad na welwyd ei debyg o’r blaen yn cael ei gynnal bydd digwyddiad na welwyd ei debyg o’r blaen yn cael ei gynnal yn Neuadd Fwyd Sioe Frenhinol Cymru ar Faes y Sioe yn Llanfair-ym-Muallt.
Bydd yn gynhadledd gyffrous a rhyngweithiol a fydd yn dathlu llwyddiannau’r hyn sydd wedi’i ariannu gan y Rhaglen Datblygu Gwledig.
Felly cadwch y dyddiad yn eich dyddiadur nawr!
Croeso i rifyn y mis hwn o’n cylchlythyr 'Dathlu Datblygu Gwledig' a’r mis hwn, rydyn ni’n edrych ar Ffermio ac Amaethyddiaeth yng Nghymru.
Yn y gorffennol, mae amaethyddiaeth yng Nghymru wedi bod yn rhan bwysig o economi Cymru. Oherwydd hinsawdd mwyn, wlyb Cymru, dim ond cyfran fach o arwynebedd y tir sy'n addas ar gyfer cnydio âr, ond mae digonedd o laswellt ar gyfer pori da byw.
Mae ffermio yn hanfodol i roi cartref i natur yng Nghymru – mae tua 80 y cant o dir Cymru yn cael ei reoli mewn un ffordd neu’i gilydd.
Mae ffermwyr Cymru'n frwd dros ddarparu amrywiaeth enfawr o fwyd Cymreig o ansawdd i bob un ohonom ei fwynhau. Ond mae llawer mwy i ffermio na thyfu bwyd gwych. Ffermio yng Nghymru yw conglfaen diwydiant bwyd a diod Cymru sydd werth £22.1 biliwn (2019).
Mae strwythur y diwydiant amaethyddol sy’n amrywio ledled y DU yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys hinsawdd, y tir a thraddodiad. Mae ei thopograffeg ucheldirol a mynyddig yn nodweddu Cymru ac mae ganddi hinsawdd wlypach na llawer o weddill y DU. O ganlyniad, ystyrir bod cyfran fawr o'r tir a ddefnyddir yn 'ardaloedd llai ffafriol' neu'n dir LFA. Mae amaethyddiaeth yng Nghymru yn canolbwyntio'n drwm ar bori da byw, yn benodol defaid, ar dir ardaloedd llai ffafriol mewn daliadau fferm cymharol fach sy'n gwneud incwm cymharol fach.
Mae sawl ffactor yn pennu’r patrwm ffermio yng Nghymru, ac mae’r rhai pwysicaf fel a ganlyn:
- Mae Cymru'n fwy mynyddig ac mae ganddi hinsawdd wlypach na llawer o'r DU felly mae cymaint o'r wlad yn cael ei hystyried yn ardaloedd llai ffafriol. Felly, mae'r tir yn fwy addas ar gyfer ffermio tir pori a da byw yn hytrach na chnydio tir âr;
- Mae'r ucheldiroedd eang yn fwy addas i ddefaid, yn benodol defaid Mynydd Cymreig cryf.
- Mae'r diwydiant llaeth a ffermio tir âr wedi'u cyfyngu i'r ardaloedd mwy cynhyrchiol. Mae'r rhain yn bennaf mewn ardaloedd tir isel yn y de-ddwyrain, y gogledd-ddwyrain, rhanbarthau arfordirol a chymoedd afonydd.
Yn ogystal â'r heriau yn yr hinsawdd a'r brwydrau a wynebir weithiau oherwydd tirwedd Cymru, credir bod y lefelau dirwasgiad yn y diwydiant ffermio yn cynyddu ac mae cyfraddau hunanladdiad, yn enwedig i ddynion o dan 40 oed, ymhlith yr uchaf mewn unrhyw grŵp galwedigaethol.
 |
|
Does dim amser gwell i edrych ar lwyddiannau'r sector Ffermio ac Amaethyddol a ariennir gan y Rhaglen Datblygu Gwledig nag yn ystod y mis y bydd y Ffair Aeaf lawn yn dychwelyd i Faes y Sioe Frenhinol - 29 - 30 Tachwedd.
|
 |
|
Y Grant Busnes i Ffermydd - Cyfraniad ariannol at fuddsoddi cyfalaf mewn offer a pheiriannau ar y fferm.
Glastir - Mae Glastir yn gynllun ar gyfer rheoli tir fferm gyfan yn gynaliadwy.
Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) Cymru - Cymorth ariannol i brosiectau sy'n annog cydweithio rhwng ymchwilwyr ac ymarferwyr.
Cyswllt Ffermio - Mae ein rhaglen yn cynnig cefnogaeth sy’n trawsnewid rhagolygon busnes miloedd o ffermwyr a choedwigwyr.
LEADER - Meithrin trosglwyddo gwybodaeth ac arloesi ym maes amaethyddiaeth, coedwigaeth ac ardaloedd gwledig; Gwneud pob math o amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol a gwneud ffermydd yn fwy hyfyw; Hyrwyddo trefniadaeth y gadwyn fwyd a rheoli risgiau mewn amaethyddiaeth; Adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth; Hyrwyddo defnydd effeithiol ar adnoddau a chefnogi’r symudiad at economi carbon isel sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd yn y sector amaethyddiaeth, y sector bwyd a’r sector coedwigaeth.
RPW Ar-lein
|
 |
|
Mae defaid Damara yn tarddu o Affrica a'r Dwyrain Canol ac yn nodedig oherwydd eu cynffonau a'u marciau unigryw. Mae’r epil cyntaf a aned yn gynharach yn 2020 wedi addasu’n dda i dywydd Ynys Môn.
|
 |
|
Ers iddo gael ei lansio gyntaf yn 2016, mae EIP (Partneriaeth Arloesi Ewrop) yng Nghymru wedi galluogi mwy na 200 o unigolion sy'n gweithio ar lawr gwlad y diwydiant amaethyddol i elwa o'r technolegau diweddaraf a chanlyniadau gwyddonol gan arbenigwyr academaidd a gwyddonol ledled y byd.
|
 |
|
Cymeradwyodd Conwy Cynhaliol brosiect cydweithredu gyda’r Community Farming Network (FCN) a chynhyrchodd lyfryn dwyieithog a fyddai'n targedu ffermwyr a oedd yn gweithio ar eu pennau eu hunain. Bydd y llyfryn dwyieithog a ddosbarthwyd i bob fferm yng Nghonwy yn ceisio gwella iechyd, lles a hunan-barch ffermwyr sy'n byw yn ardaloedd gwledig Conwy.
|
 |
|
Mewn ymgais i hybu ymwybyddiaeth o iechyd meddwl mewn cymunedau gwledig, a mynd i'r afael â'r stigma sy'n gysylltiedig â'r mater sensitif hwn.
|
Llinellau Cymorth/Cefnogaeth
Cronfa Addington 01926 620135 www.addingtonfund.org.uk
Sefydliad DPJ 0800 587 4262 www.thedpjfoundation.com/
FCN (Y Rhwydwaith Cymunedol Fferm) 03000 111 999 www.fcn.org.uk/
RABI (Sefydliad Brenhinol dros Les Amaethyddol) 0800 188 4444 www.rabi.org.uk
Tir Dewi (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro) 0800 121 4722 www.tirdewi.co.uk
|