Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

19 Tachwedd 2021


hilltop

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Dim newidiadau i’r rheolau COVID wrth i'r Prif Weinidog ddiolch i bobl Cymru am eu help i dorri cyfraddau achosion; Nodyn Atgoffa - Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo; Rhaglen Sgiliau Hyblyg ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch; Lansio Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc yn swyddogol; Arolwg tracio teimladau defnyddwyr COVID-19 y DU; Hysbyseb ar gyfer Tendr Strategaeth Digwyddiad Cymru; Ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru – Diwygiadau i hawliau datblygu a ganiateir; Eich cyfle i lywio dyfodol economaidd Cymru; Cyfreithiau newydd a chod i ddatrys dyledion rhent masnachol yn sgil COVID-19; Neges@Home – Ateb Cymreig i Hello Fresh; Wythnos Cyflog Byw 2021; 


Dim newidiadau i’r rheolau COVID wrth i'r Prif Weinidog ddiolch i bobl Cymru am eu help i dorri cyfraddau achosion

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi diolch i bobl ym mhob cwr o Gymru am eu gwaith caled i helpu i leihau cyfraddau achosion o’r coronafeirws – cyfraddau a oedd wedi cyrraedd lefelau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen – dros y tair wythnos ddiwethaf.

Mae ef wedi cadarnhau (18 Tachwedd) na fydd unrhyw newidiadau i reolau’r coronafeirws yn dilyn yr adolygiad 21 o ddiwrnodau diweddaraf.

Bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero, sy'n golygu bod pob busnes yn gallu bod ar agor a masnachu.  Ni fydd y Pàs COVID yn cael ei ymestyn ychwaith i leoliadau lletygarwch yn ystod y cylch tair wythnos hwn.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Nodyn Atgoffa - Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.


Sgiliau a recriwtio:

Rhaglen Sgiliau Hyblyg ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch

Mae cyllid ar gael o hyd i gefnogi gweithwyr busnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru i fynychu cyrsiau hyfforddi sy'n berthnasol i'r sector.  Gall hyn gynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb, neu ar-lein.

Nid yw'n ofynnol defnyddio unrhyw gwmni hyfforddi penodol - gall yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig. Rhaid achredu'r hyfforddiant a gefnogir ar y rhaglen hon i safon gydnabyddedig yn y diwydiant.  Gall Llywodraeth Cymru gyfrannu 50% o gost yr hyfforddiant.

Hyd yma, mae busnesau twristiaeth wedi llwyddo i gael gafael ar y cyllid hwn ar gyfer hyfforddiant mewn TGCh a sgiliau digidol/cyfryngau cymdeithasol, strategaethau cynaliadwy, sgiliau hyfforddwyr antur awyr agored, gwasanaeth cwsmeriaid a hyfforddiant bwyd a diod arbenigol.

Dysgwch fwy a chwblhewch ddatganiad o ddiddordeb syml drwy edrych ar Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Porth Sgiliau Busnes Cymru (llyw.cymru).

 

Lansio Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc yn swyddogol 

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio Gwarant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc – sy’n cynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb o dan 25 oed ar 15 Tachwedd.

Bydd y rhaglen uchelgeisiol yn helpu i sicrhau na fydd yna genhedlaeth goll yng Nghymru yn dilyn pandemig COVID-19.

Mae’r Gwarant i Bobl Ifanc yn un o ymrwymiadau allweddol Rhaglen Lywodraethu bum mlynedd Llywodraeth Cymru.

Mae’r pecyn cynhwysfawr yn tynnu ynghyd raglenni sydd wedi’u cynllunio i ddarparu’r gefnogaeth iawn ar yr amser iawn yn ôl anghenion amrywiol pobl ifanc ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau hwylus newydd i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i gyfleoedd yn haws.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Arolwg tracio teimladau defnyddwyr COVID-19 y DU

Mae adroddiad diweddaraf tracio teimladau defnyddwyr y DU wedi'i gyhoeddi ar wefan VisitBritain. 

Mae canfyddiadau allweddol y gwaith maes a wnaed 4-11 Tachwedd yn dangos bod teimladau cyhoedd y DU yn parhau i wella ac mae lefelau cyfforddusrwydd ar gyfer defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ymweld â chanolfannau siopa ac ymweld ag atyniadau ar y lefel uchaf ers i'r arolwg ddechrau ym mis Mai 2020.  Bwyta allan, ymweld ag ardaloedd awyr agored a cherdded yw'r gweithgareddau hamdden mwyaf poblogaidd dros y mis nesaf, ond mae diddordeb uwch hefyd mewn nifer o weithgareddau dan do.  Fodd bynnag, mae llai o gynlluniau i ymgymryd â gweithgareddau hamdden yn ystod y mis nesaf.  Mae tua 1 o bob 3 o bobl yn disgwyl cymryd mwy o deithiau dros nos domestig yn y DU yn ystod y 12 mis nesaf nag a wnaethant yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, o'i gymharu ag 1 o bob 5 o bobl sy'n disgwyl cymryd mwy o deithiau tramor, ond mae cyfran uchel yn parhau i fod yn ansicr am gynlluniau teithio tramor.


Hysbyseb ar gyfer Tendr Strategaeth Digwyddiad Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi manyleb ar gyfer cynhyrchu strategaeth newydd ar gyfer Digwyddiad Cymru 2022-2030.

Bydd yn ofynnol i'r contractwr llwyddiannus ymchwilio, paratoi a chyflwyno Strategaeth Ddigwyddiadau ddrafft ar gyfer 2022-2030 sy'n pennu'r cyfeiriad strategol hyd at 2030, gan ystyried yr adolygiad diweddar o Ddigwyddiad Cymru, barn rhanddeiliaid yn fewnol ac allanol, arferion gorau ar draws y byd ac uchelgeisiau ehangach Llywodraeth Cymru. Mae'r manylion llawn ar gael ar GwerthwchiGymru.

Os oes gennych ddiddordeb gwneud cais i wneud y gwaith hwn, bydd angen i chi gofrestru ar GwerthwchiGymru i wneud cais, sy'n rhad ac am ddim ac yn hawdd i'w wneud. Noder mai'r dyddiad cau ar gyfer ymatebion i'r hysbyseb yw 10am ar 3 Rhagfyr 2021.

Felly, os gwelwch yn dda;

1. Sicrhewch eich bod wedi cwblhau'r cofrestriad am ddim ar GwerthwchiGymru.

2. Ar ôl cofrestru anfonwch e-bost at Julie.Perkins@llyw.cymru gyda chais i ddyfynnu ar gyfer Hysbyseb Strategaeth Digwyddiad Cymru a darparu: Enw'r Cwmni, Enw cyswllt, E-bost cyswllt (sicrhewch mai dyma'r un rydych wedi ei gofrestru ar GwerthwchiGymru)

3. Unwaith y byddwch wedi derbyn y gwahoddiad i ddyfynnu ynghyd â'r amserlen ymateb a phrisiau ITQ, sicrhewch eich bod yn cyflwyno eich ymateb ar GwerthwchiGymru erbyn 10am ar 3 Rhagfyr 2021.  

Os ydych yn ymwybodol o bobl eraill a allai fod â diddordeb tendro, anfonwch yr e-bost hwn ymlaen cyn gynted â phosibl er mwyn caniatáu digon o amser i ymateb i'r dyddiad cau ar gyfer hysbysebu.


Ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru – Diwygiadau i hawliau datblygu a ganiateir

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd sylwadau ar ddiwygiadau arfaethedig i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995. Mae hyn yn cynnwys cadw hawliau datblygu a ganiateir sy’n gysylltiedig â COVID-19; defnydd dros dro o gysgodfeydd a darpariaeth ar gyfer priffyrdd at ddibenion lletygarwch.

Cyfnod yr ymgynghoriad: 16/11/21 – 15/02/22.

Mynegwch eich barn ynghylch y Diwygiadau i hawliau datblygu a ganiateir ac ewch I gwefan Llywodraeth Cymru i gael gwybodaeth am ymgyngoriadau eraill.


Eich cyfle i lywio dyfodol economaidd Cymru

Hoffech chi ein helpu i lywio dyfodol economaidd Cymru? Mae Llywodraeth Cymru bellach yn chwilio am ystod eang o bobl gydag amrywiaeth o gefndiroedd a phrofiadau gwahanol i fod yn rhan o fwrdd a fydd yn cynghori Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Mae COVID-19 wedi effeithio’n sylweddol ar Gymru, ynghyd â gweddill y byd. Mae’r pandemig wedi newid y ffordd rydym i gyd yn byw ac yn gweithio, yn ogystal â’r ffordd y mae ein busnesau’n gweithredu. Ochr yn ochr â hyn, mae Cymru’n wynebu heriau newydd a chanlyniadau sy’n deillio o’r DU yn gadael yr UE, ac mae argyfwng hinsawdd byd-eang wedi cyrraedd trobwynt.

Fel rhan o’i waith i symud economi Cymru ymlaen, mae Gweinidog yr Economi’n edrych am wynebau newydd er mwyn helpu i gynnig a datblygu syniadau newydd.

I ddatblygu hyn mae Llywodraeth Cymru’n edrych am ystod eang o bobl gyda phrofiadau gwahanol i ymuno â’i Fwrdd Cynghori’r Gweinidogion ar Bolisïau Economaidd.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y cyfle cyffrous hwn ewch i Llyw.Cymru.


Cyfreithiau newydd a chod i ddatrys dyledion rhent masnachol yn sgil COVID-19

Mae cyfreithiau newydd a Chod Ymarfer yn cael eu cyflwyno i ddatrys y dyledion rhent masnachol sydd ar ôl yn sgil y pandemig.

Mae’r Cod yn nodi y dylai tenantiaid nad ydynt yn gallu talu yn llawn drafod gyda’u landlord yn y lle cyntaf gyda’r disgwyliad y bydd y landlord yn hepgor rhywfaint neu’r holl ôl-ddyledion rhent os ydyw’n gallu gwneud hynny.

O 25 Mawrth 2022, bydd cyfreithiau newydd a gyflwynwyd yn y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) yn sefydlu proses cyflafareddu sy’n rhwymol-gyfreithiol ar gyfer landlordiaid a thenantiaid masnachol nad ydynt wedi dod i gytundeb, gan ddilyn egwyddorion y Cod Ymarfer.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion


Neges@Home – Ateb Cymreig i Hello Fresh

Gyda chynnydd sylweddol yn y niferoedd o bobl sydd wedi bod yn mynd ar wyliau lleol dros y cyfnod diweddar, mae cynllun newydd wedi ei lansio er mwyn annog ymwelwyr i wario mwy ar fwyd lleol yn ystod eu harhosiad.

Cynllun Neges@Home, Menter Môn yw’r ateb i gadw gwariant ymwelwyr ar fwyd a diod yn lleol. 

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Wythnos Cyflog Byw 2021

Bydd wythnos cyflog byw, sef dathliad blynyddol y mudiad Cyflog Byw yn y DU, yn cael ei chynnal rhwng 15 Tachwedd a 21 Tachwedd 2021. Mae'r mudiad yn cynnwys cyflogwyr, arbenigwyr, sefydliadau a phobl sy’n credu bod diwrnod caled o waith yn haeddu tâl teg.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram