Bwletin Newyddion: Ehangu’r defnydd o Bàs COVID y GIG i helpu cadw Cymru ar agor dros y gaeaf; Nodyn Atgoffa - Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo.

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

15 Tachwedd 2021


cu

Ehangu’r defnydd o Bàs COVID y GIG i helpu cadw Cymru ar agor dros y gaeaf

Yn dechrau heddiw bydd angen Pàs COVID y GIG mewn sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yng Nghymru.

Mae ymestyn y Pàs COVID yn un o nifer o fesurau sydd wedi’u cryfhau i helpu i gadw pobl yn ddiogel a busnesau ar agor tra bod Cymru'n parhau i fod ar lefel rhybudd sero er bod achosion o coronafeirws yn uchel iawn.

Mae'r canllawiau ar hunanynysu hefyd wedi'u newid ac mae pobl yn cael eu hannog i weithio gartref i helpu i ddod â'r feirws dan reolaeth.

Cafodd estyniad y Pàs ei gymeradwyo gan Aelodau'r Senedd mewn pleidlais ar 9 Tachwedd.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

“Mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yng Nghymru yn uchel iawn ar hyn o bryd ac mae angen i bob un ohonom weithio gyda’n gilydd i ddod â’r niferoedd dan reolaeth.

"Mae ehangu’r defnydd o Bàs COVID y GIG i sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd yn ffordd arall o gryfhau’r mesurau sydd gennym ar waith i’n diogelu ni i gyd.

“Rwy’n deall yr heriau y mae’r sector hwn wedi’i wynebu yn ystod y pandemig. Serch hynny, nod y mesurau yw cadw’r busnesau hyn ar agor yn ystod misoedd anodd yr hydref a’r gaeaf sydd o’n blaenau. Rydyn ni am wneud popeth y gallwn ni i gadw Cymru ar agor ac yn ddiogel a rhoi hyder i bobl barhau i allu mynd i’r lleoliadau hyn unwaith eto."

Mae’r sinemâu, y theatrau a’r neuaddau cyngerdd yn lleoliadau o dan do lle mae niferoedd mawr o bobl yn treulio cyfnodau hir o amser yn agos at eu gilydd.

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

“Cyflwynwyd y Pàs COVID ychydig dros fis yn ôl ar gyfer mynediad i glybiau nos a digwyddiadau dan do ac awyr agored mwy. Mae'r adborth a gawsom yn awgrymu bod y system yn gweithio'n dda. 

“Byddwn yn parhau i weithio gyda'r sectorau sy'n cyflwyno'r Pàs i'w cefnogi.”

Cael eich pàs COVID y GIG.


Nodyn Atgoffa - Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram