‘Torri’r trosglwyddiad’ – Lansio’r ymgyrch Diogelu Cymru ddiweddaraf
Nod lansio gweithgarwch diweddaraf ymgyrch Diogelu Cymru Llywodraeth Cymru, heddiw (ddydd Llun 6 Rhagfyr), yw ‘torri’r trosglwyddiad’ er mwyn helpu i atal COVID-19 rhag lledaenu.
Bydd hysbysebion ar y teledu a’r radio, yn y wasg ac mewn mannau cyhoeddus, yn ddigidol ac ar y cyfryngau cymdeithasol am y pum wythnos nesaf, er mwyn annog pobl i barhau i ddilyn y mesurau sydd ar waith i gadw pawb ohonom yn ddiogel.
Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar bwysigrwydd masgiau wyneb, brechiadau, profion, a hunanynysu, a bydd yn hyrwyddo negeseuon ychwanegol i bwysleisio pwysigrwydd awyru, a defnyddio profion llif unffordd cyn cymdeithasu. Mae deunyddiau’r ymgyrch yn cael eu rhannu ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid er mwyn iddynt eu defnyddio ar eu sianeli eu hunain ar y cyfrangau cymdeithasol.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:
"Nod gweithgarwch diweddaraf yr ymgyrch Diogelu Cymru yw annog pobl Cymru i barhau i ddilyn mesurau i atal COVID-19 rhag lledaenu, gan nad yw’r feirws wedi mynd i ffwrdd.
"Gyda lefelau uchel o’r amrywiolyn Delta yn y gymuned, ac ar ôl i’r amrywiolyn Omicron ymddangos, mae’n bwysig iawn ein bod yn parhau i gofio pa mor beryglus yw’r coronafeirws, ac rydyn ni wedi rhoi mesurau ar waith i ddiogelu iechyd pobl ac i arafu lledaeniad y feirws.
"Hoffem ddiolch i bawb am helpu drwy gadw eu hunain a’u hanwyliaid yn ddiogel drwy wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, cael y brechlyn, a chael profion, gan hunanynysu os bydd prawf yn bositif.
"Os byddwn ni i gyd yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu, bydd cyfle i edrych ymlaen at flwyddyn newydd iachach a mwy llewyrchus."
Bydd negeseuon yr ymgyrch yn cael eu hyrwyddo mewn hysbysebion ar y teledu a’r radio, drwy Spotify ac ar bosteri digidol mewn canolfannau siopa a safleoedd bws, ac yn y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys Facebook, Instagram, TikTok, Snap Chat, Twitter, a YouTube, ochr yn ochr â hysbysebion ar y cyfryngau traddodiadol.
Mae’r ymgyrch Diogelu Cymru yn cyrraedd dros 91% o oedolion yng Nghymru.
Hefyd bydd taflen yn cael ei hanfon i 1.4 miliwn o gartrefi, a bydd ar gael mewn 35 o ieithoedd, mewn fformat hawdd ei ddeall, Braille, print bras, a BSL.
Datganiad ysgrifenedig: Newidiadau i deithio rhyngwladol
Mae Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi nodi (5 Rhagfyr 2021).
Rydym yn gweithredu i symud Nigeria ar y rhestr goch ar gyfer teithio o 0400 dydd Llun 6 ed Rhagfyr ymlaen ar ôl canfod amrywiolyn newydd o’r coronafeirws, a allai o bosibl osgoi'r warchodaeth sy’n cael ei darparu gan frechlynnau.
Ni chaniateir i deithwyr o wledydd ar y rhestr goch ddod i mewn i Gymru, ond rhaid iddynt ddod i mewn drwy borth mynediad yn Lloegr a mynd i gyfleuster cwarantin a reolir am 10 diwrnod. Tra bod y teithiwr mewn cyfleuster cwarantin rhaid iddynt hefyd gael prawf PCR ar ôl cyrraedd ar ddiwrnod 2 a diwrnod 8.
Rydym hefyd yn ailgyflwyno gofyniad Prawf 48 awr Cyn Gadael ar gyfer pob teithiwr. Mae hyn yn golygu y bydd angen i deithwyr gael prawf PCR neu LFD negatif mor agos â phosibl at eu hamser gadael cyn y gallant deithio.
Mae camau tebyg yn cael eu cymryd ledled y DU.
Cewch wybodaeth am deithio rhyngwladol yn: Teithio: coronafeirws | Is-bwnc | LLYW.CYMRU.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|