Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

04 Tachwedd 2021


elan

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: NODYN ATGOFFA - Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo; Datganiad Llafar: Diweddariad ar COVID-19, Strategaeth Net-Sero, Economi Wyrddach; Y Prif Weinidog yn teithio i COP26 i gwrdd ag arweinwyr y byd; Tax policy framework update; Gall awyru da helpu i leihau lledaeniad COVID-19 yn y gweithle; Ymgynghoriad Ystadegau Teithio a Thwristiaeth SYG – Gweminarau Defnyddwyr; Arolwg Teithwyr Rhyngwladol: data dros dro ar gyfer C2 2021; Covid 19 Arolwg tracio teimladau defnyddwyr y DU


NODYN ATGOFFA - Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG. 


Datganiad Llafar: Diweddariad ar COVID-19; Strategaeth Net-Sero; Economi Wyrddach

Mae Datganiadau Llafar wedi eu gwneud yn y Senedd ar 2 Tachwedd 2021 fel a ganlyn –


Y Prif Weinidog yn teithio i COP26 i gwrdd ag arweinwyr y byd

Aeth y Prif Weinidog Mark Drakeford ar drên o Gaerdydd i Glasgow (dydd Llun 1 Tachwedd) gan ymuno ag arweinwyr y byd ar gyfer Uwchgynhadledd Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig yn yr Alban.

Ei neges i bobl yng Nghymru yw pŵer gweithredu ar y cyd. Gall gwledydd llai, fel Cymru, gyflawni pethau gwych pan fydd pawb yn gweithio gyda'i gilydd - a dyna'r gwahaniaeth sydd ei angen ar y byd nawr i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd ym mis Ebrill 2019 ac ers hynny mae wedi gwneud y canlynol:

  • Cyhoeddi cynllun sero net yn datgan degawd o weithredu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
  • Dechrau adolygiad ffyrdd o brosiectau ffyrdd newydd yng Nghymru, gan gydnabod yr angen am symud oddi wrth wario arian ar brosiectau sy'n annog mwy o bobl i yrru, ac yn hytrach ailgyfeirio cyllid tuag at gynnal a chadw ffyrdd presennol a buddsoddi mewn dewisiadau amgen gwirioneddol yn lle trafnidiaeth breifat, fel trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.
  • Ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi carbon isel o ansawdd uchel i'w rhentu yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Mae Cymru yn rhagori ar yr holl ddisgwyliadau o ran ailgylchu ac mae’n falch o fod ar y blaen ymhlith gwledydd y DU ar gyfer ailgylchu cartrefi; yr ail orau yn Ewrop a'r drydedd orau yn y byd.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Y diweddariad ar y fframwaith polisi trethi

Mae polisi trethi Cymru wedi’i ddiweddaru er mwyn nodi dull Llywodraeth Cymru o ddatblygu polisi trethi, ei hamcanion strategol a sut y caiff y rhain eu datblygu.

Fe welwch fod ein blaenoriaethau yn gyson ag amcanion strategol Llywodraeth Cymru ac yn adlewyrchu ei hymrwymiad i greu Cymru decach, sy’n fwy cyfartal a gwyrdd. Mae’r blaenoriaethau hyn yn cynnwys ymgynghori ar ddeddfwriaeth sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth.

Mwy o wybodaeth ar Llyw.Cymru.


Gall awyru da helpu i leihau lledaeniad COVID-19 yn y gweithle

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn parhau i ddiweddaru ei ganllawiau ar awyru gan annog pob gweithle i ddal ati i weithio’n ddiogel.

Wrth i fwy o bobl ddychwelyd i’r gweithle, gall defnyddio awyru da helpu i leihau faint o feirws sydd yn yr aer.

Mae hyn yn helpu i leihau’r risg o drosglwyddo aerosol a lledaeniad COVID-19 yn y gweithle.

Mae’r canllawiau wedi’u diweddaru ar eu gwefan i gynnwys ein crynodeb syml newydd sy’n esbonio sut mae awyru da yn helpu i leihau lledaeniad COVID-19.

Gyda’r gaeaf ar gyrraedd, mae canllawiau diwygiedig ar gydbwyso awyru gyda chadw'n gynnes.

Mae cyfres o fideos canllaw newydd hefyd ar awyru ar sianel YouTube yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Ymgynghoriad Ystadegau Teithio a Thwristiaeth SYG – Gweminarau Defnyddwyr

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn arwain adolygiad o ystadegau teithio a thwristiaeth sy'n cwmpasu teithio mewnol, allanol a domestig yn y DU.  Mae'r adolygiad yn cynnwys gwybodaeth a gasglwyd gan yr Arolwg Teithwyr Rhyngwladol, Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr, arolwg ymweliadau Diwrnod Prydain Fawr yn ogystal â'r cyfle i gasglu gwybodaeth o ffynonellau data amgen newydd. Mae'r gwaith hwn yn ceisio cael dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion defnyddwyr, ac i edrych ar y ffordd orau o'u diwallu mewn amgylchedd sy'n newid.

Mae'r SYG wedi lansio ymgynghoriad ac mae ganddo ddiddordeb derbyn barn pob sector o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru sy'n defnyddio ystadegau teithio a thwristiaeth. Cyflwynwch eich ymateb: Ymgynghoriad - dull arfaethedig yn y dyfodol o fesur ystadegau teithio a thwristiaeth - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol - Gofod Dinasyddion.

Bydd SYG yn cynnal dau ddigwyddiad defnyddwyr ar-lein i rannu rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad ac ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan ddefnyddwyr ar yr ymgynghoriad neu sut i ymateb.  I gofrestru anfonwch e-bost at travel.and.tourism@ons.gov.uk gan nodi pa sesiwn yr hoffech ei mynychu (bydd y ddolen gweminar a deunyddiau cyflwyno yn cael eu hanfon atoch ymlaen llaw):

- Dydd Mawrth 16 Tachwedd 2.30pm-3.30pm

- Dydd Mawrth 23 Tachwedd 2.30pm- 3.30pm


Arolwg Teithwyr Rhyngwladol: data dros dro ar gyfer C2 2021

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi canlyniadau dros dro Ch2 2021 yr Arolwg Teithwyr Rhyngwladol (IPS). Roedd yr arolwg IPS yn weithredol ym meysydd awyr y DU ond nid ym mhorthladdoedd y môr neu dwnelau, felly mae'r amcangyfrifon hyn yn seiliedig ar ddata hedfan yn unig.  Mae'r data'n cael ei gyhoeddi bob chwarter ar gyfer y DU (nid ar gyfer Cymru) ar safle VisitBritain ynghyd â manylion ychwanegol am ffigurau o flwyddyn i flwyddyn.

Mae data'n dangos bod teithiau mewnol i'r DU wedi gostwng -97% a theithiau allan o'r DU i lawr -95% ar gyfer C2 2021, o'i gymharu â ffigurau teithwyr awyr yn yr un cyfnod yn 2019. 

Fodd bynnag, mae data diweddar am archebu teithiau hedfan gan VisitBritain yn dangos bod mwy o deithiau wedi’u gwneud yn ystod Ch3 2021 gyda llacio'r cyfyngiadau teithio a'u rhagolygon senario canolog diweddaraf ar gyfer teithio i'r DU yn 2021 ar gyfer 7.4 miliwn o ymweliadau a gwariant o £5.3 biliwn.


Covid 19 Arolwg tracio teimladau defnyddwyr y DU

Ar ôl oedi byr, mae cynlluniau bellach ar waith ar gyfer cam 4 arolwg teithio defnyddwyr y DU.  Bydd hyn yn awr yn symud i adroddiadau misol, yn rhedeg o fis Tachwedd 2021 i fis Ebrill 2022 a bydd yn cwmpasu'r cyfnod cynllunio hanfodol ar gyfer gwyliau'r DU y flwyddyn nesaf. Bydd adroddiadau'n parhau i gael eu cyhoeddi'n fisol ar wefan VisitBritain.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram