 |
|
Cwmni’n datblygu prawf Antigen cyflym
Mae Cotton Mouton Diagnostics Ltd, gyda chymorth ariannol Arloesi Llywodraeth Cymru, wedi datblygu prawf antigen cludadwy sy’n gallu rhoi canlyniad mewn amser real i chi y tu allan i labordy. Mae’r ddyfais yn gallu synhwyro antigenau’r Coronafeirws mewn poer mewn llai na 10 munud.
I weld yr astudiaeth achos yn llawn, cliciwch yma
|
Croesawu aelodau newydd y Cyngor Cynghorol ar Arloesi
Wrth ddiolch i aelodau’r Cyngor sy’n ffarwelio â ni, dyma groeso cynnes i wynebau newydd o’r byd academaidd, y trydydd sector a diwydiant. Mae’r cyngor yn cynghori ar amrywiaeth o bynciau arloesi ac yn helpu i ddatblygu a chynnal Strategaeth Arloesi newydd Cymru.
I gwrdd â’r cyngor newydd, cliciwch yma
|
|
 |
Agor cystadleuaeth am ymchwil i gerbydau carbon sero!
Mae hyd at £35,000 ar gael i fusnesau bach a chanolig sy’n ymchwilio i dechnolegau arloesol ar gyfer cerbydau ffyrdd carbon sero yn y DU.
Dyddiad cau: 25 Hydref 2021
I ddysgu mwy, cliciwch yma
Cyfle olaf i wneud cais i gronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford
Daw’r cyfle i wneud cais am £1.8 miliwn cronfa trawsnewid Ford i ben ar 1 Tachwedd 2021! Diben y gronfa yw annog busnesau i newid o gynhyrchu injans cyffredin i gynhyrchu technolegau ar gyfer cerbydau carbon isel.
I wneud cais, cliciwch yma
Ail Rownd Cystadleuaeth Catalydd Biofeddygol 2021
Ydych chi’n fusnes yn y DU sydd â syniad arloesol ym maes technoleg, prosesau neu gynnyrch Gofal Iechyd? Mae cyfran o hyd at £12 miliwn ar gael i’ch helpu i ddatblygu’ch syniad trwy gystadleuaeth y Catalydd Biofeddygol.
Dyddiad cau: 1 Rhagfyr 2021
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
CRISP21 – Cyfarfod Cymorth ar Gystadlu am Gronfeydd Arbed Ynni ac Adnoddau mewn Diwydiant
2 Tachwedd 2021, 14:00-17:00
Cofrestrwch am y cyfarfod cymorth i ddysgu mwy am gyfleoedd am nawdd o fewn y sector Ynni Diwydiannol.
Cliciwch yma
CRISP21 – Cyfarfod Cymorth ar Arloesi
10 Tachwedd 2021, 10:00 – 17:00
Cyfarfod Cymorth ar Arian ar gyfer Arloesi i helpu cwmnïau o Gymru i fentro i farchnadoedd newydd, i gael hyfforddiant ar sut i gael hyd i gyllid a manteisio ar ymchwil a datblygu Rhwydwaith y Catapult.
Cliciwch yma i fwcio lle
CRISP21 – Cyfarfod Cymorth Cyllid Arloesi Ar-lein
24 Tachwedd 2021, 10:00 – 17:00
Ydych chi’n gwmni o Gymru sy’n chwilio am arian ar gyfer ymchwil a datblygu ac sydd am gynnal prosiectau ymchwil a datblygu mwy effeithiol a masnacholi’r canlyniadau?
Cofrestrwch yma am y cyfarfod cymorth hwn
|