Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

22 Hydref 2021


cas

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Symud Economi Cymru Ymlaen: "Adferiad Tîm Cymru, a adeiladwyd gan bob un ohonom", Gweinidog yr Economi; Cynhadledd Twristiaeth a Lletygarwch y Canolbarth; Diwrnod Mentora Cenedlaethol 2021; GALWAD; 


Symud Economi Cymru Ymlaen: "Adferiad Tîm Cymru, a adeiladwyd gan bob un ohonom", Gweinidog yr Economi

Bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn polisi economaidd blaengar sy'n canolbwyntio ar well swyddi, gan leihau'r rhaniad sgiliau a mynd i'r afael â thlodi, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething.

Mewn Uwchgynhadledd Economaidd hybrid, mae'r Gweinidog wedi gwahodd busnesau, undebau llafur ac arweinwyr llywodraeth leol i drafod sut y gall Cymru greu dyfodol economaidd cryfach, tecach a gwyrddach.

Wrth nodi ei weledigaeth i symud economi Cymru yn ei blaen, mae’r Gweinidog yn ymrwymo i ymestyn model Tîm Cymru i gynnig 'cymaint o sicrwydd â phosibl' i fusnesau sy'n wynebu adferiad cyfnewidiol.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cynhadledd Twristiaeth a Lletygarwch y Canolbarth – 9 Tachwedd 2021 – Archebwch eich tocynnau

Mae’r gynhadledd twristiaeth a lletygarwch gyntaf i’w chynnal yng Nghymru ers dechrau pandemig Covid-19 y llynedd yn cael ei chynnal yn Llandrindod ym mis Tachwedd.

Mae’n cael ei threfnu gan MWT Cymru, ei noddi gan Croeso Cymru a’r Cambrian Training Company a’i chynnal yng Ngwesty’r Metropol ar 9 Tachwedd o 9.45am tan 3.3pm.

Pwnc cynhadledd eleni yw edrych sut y gall busnesau, cymunedau a mudiadau unigol gydweithio â’i gilydd ac ailadeiladu wrth i ni fynd yn ein blaenau i 2022 a thu hwnt.  Mae’r gynhadledd yn gyfle i ystyried materion sydd o ddiddordeb i fusnesau twristiaeth a lletygarwch ac mae’n ddigwyddiad na ddylech ei cholli, p’un a ydych yn fusnes bach neu’n fusnes mawr.

Ymhlith y siaradwyr bydd Lucy von Weber, Pennaeth Marchnata Croeso Cymru; Suzy Davies, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru; York Membery, newyddiadurwr ac sgrifennwr am wyliau; yr arbenigwr bwyd, Nerys Howell, i enwi ond ychydig.

“Diben y gynhadledd yw rhoi syniad clir i fusnesau o’r hyn sy’n digwydd, beth sy’n newid a beth y gallwn ni i gyd ei wneud i weithio’n well gyda’n gilydd i gadw’r Canolbarth ym mlaen meddyliau pobl,” meddai Val Hawkins, Prif Weithredwr MWT.

Bydd cynrychiolwyr yn cael gwrando ar arbenigwyr yn eu meysydd ac yn cael cyfle i rwydweithio â phobl eraill sy’n gweithio ym maes twristiaeth a lletygawch, arweinwyr y diwydiant a chyrff helpu busnesau.

I ddysgu mwy ac i archebu tocynnau, cliciwch ar Cynhadledd Twristiaeth a Busnes y Canolbarth 2021.


Diwrnod Mentora Cenedlaethol 2021

Cafodd y Diwrnod Mentora Cenedlaethol ei sefydlu er mwyn cydnabod manteision sylweddol mentora ar draws y DU ac mae’n cael ei gynnal ar 27 Hydref bob blwyddyn. Mae mentora yn golygu bod un person yn rhoi cymorth i’r llall, a gall wneud gwahaniaeth sylweddol i wybodaeth, gwaith, a ffordd o feddwl y sawl sy’n cael ei fentora.

Mae pawb - unigolion, cwmnïau, ysgolion, cymunedau, prifysgolion a llywodraethau, yn cael eu hannog i rannu eu straeon am lwyddiant ac astudiaethau achos wrth fentora. Mae pawb hefyd yn cael eu hannog i ddefnyddio’r diwrnod hwn i godi ymwybyddiaeth am fentora, am y cynlluniau mentora sydd ar gael, ac i hyrwyddo manteision mentora.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


GALWAD: cymunedau cymru’n ateb yr alwad i adeiladu byd y dyfodol fel cyfraniad cymru at raglen ddiwylliannol fawr yn 2022

Mae Cymru Greadigol a Casgliad Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi sefydlu GALWAD ar gyfer UNBOXED: Creativity in the UK, 2022.

A hwythau wedi’i hysbrydoli gan y posibiliadau byd-eang o ran amodau cymdeithasol, technolegol a hinsoddol y deng mlynedd ar hugain nesaf, mae cymunedau ledled Cymru wedi bod yn dychmygu sut le fydd Cymru yn 2052, gan greu ‘byd stori’ ar gyfer digwyddiad diwylliannol mawr ym mis Medi 2022.

Dyma fydd wrth wraidd GALWAD: sef math newydd o stori aml-lwyfan, amlieithog a fydd yn datblygu ar draws drama deledu, llwyfannau digidol a digwyddiadau byw am wythnos ym mis Medi 2022.

Bydd rhagor o wybodaeth am y prosiect a chyfleoedd i gymryd rhan yn GALWAD yn cael eu rhyddhau ar draws y cyfryngau cymdeithasol ac ar y wefan GALWAD Cymru.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Blwyddyn y Trefi SMART

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru becyn o gefnogaeth i adfywio canol trefi Cymru. Y nod yw galluogi busnesau i gynllunio prosiectau sy'n arwain at dwf economaidd ynghyd â'u helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg ddigidol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio data i helpu cwmnïau ddeall sylfaen a thueddiadau eu cwsmeriaid yn well, er mwyn cefnogi busnesau yn eu gweithgareddau cynllunio a marchnata yn y dyfodol.

Cyflawnir hyn drwy ‘Blwyddyn y Trefi SMART’ ac mae wedi’i alinio’n agos ag agenda Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a chyllid ehangach ar gyfer canol trefi.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram