Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

15 Hydref 2021


lighthouse

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Cymru’n cyflwyno Pàs COVID-19 ar gyfer digwyddiadau a chlybiau nos; Gallai hapwiriadau COVID-19 arwain at erlyniad; Ymgyrch recriwtio / gyrfaoedd Twristiaeth a Lletygarwch; Cynllun Kickstart; Recriwtio Pobl sy’n Gadael Carchar: Uwchgynhadledd Cyflogwyr 2021; Guardians of Grub: Becoming a Champion 2021-22; Diweddariad marchnata hydref/gaeaf Croeso Cymru – gwybodaeth am sesiwn ar-lein; Gofyniad i gyflogwyr rannu unrhyw gildwrn â gweithwyr; Arolwg Twristiaeth ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr; Ymgynghori ar Ystadegau Teithio a Thwristiaeth ONS; Sir Benfro yn datgelu ei brand newydd; Llythyr y Prif Weinidog am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE


Cymru’n cyflwyno Pàs COVID-19 ar gyfer digwyddiadau a chlybiau nos

O 11 Hydref 2021 ymlaen, rhaid i bobl yng Nghymru ddangos Pàs COVID neu eu statws COVID-19 bellach i fynd i glybiau nos a digwyddiadau mawr.

Mae cyflwyno’r Pàs COVID yn adeiladu ar y mesurau sydd ar waith i helpu i ddiogelu Cymru a’i chadw ar agor yn ystod y pandemig.

Mae’r gyfraith wedi newid i’w gwneud yn ofynnol bellach i oedolion dros 18 oed ddangos Pàs COVID y GIG neu brawf COVID-19 negatif i fynd i leoliadau penodol:

  • clybiau nos a lleoliadau tebyg
  • digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl
  • digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl
  • unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy’n cynnwys mwy na 10,000 o bobl

Gall pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yng Nghymru eisoes lawrlwytho Pàs COVID y GIG i ddangos a rhannu eu statws brechu yn ddiogel. Mae hefyd yn caniatáu i bobl ddangos eu bod wedi cael canlyniad prawf llif unffordd negatif o fewn y 48 awr ddiwethaf.

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r trefniadau gorfodi presennol i fonitro cydymffurfiaeth. Golyga hyn fod angen i fusnesau a digwyddiadau sicrhau bod eu trefniadau arfaethedig i gydymffurfio â rheoliadau’r Pàs COVID yn cael eu cynnwys yn eu hasesiadau risg, a’u bod yn rhoi mesurau rhesymol ar waith i gydymffurfio â’r gofynion.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.

Efallai y bydd busnesau sydd â gwesteion yn aros gyda nhw i fynd i ddigwyddiadau mawr am dynnu eu sylw at y canllawiau sydd ar gael ar ddefnyddio Pas Covid y GIG ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gall busnesau lawrlwytho a defnyddio Asedau Pàs COVID y GIG o wefan Llywodraeth Cymru.


Gallai hapwiriadau COVID-19 arwain at erlyniad

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn parhau i gynnal hapwiriadau ac arolygiadau ar bob math o fusnesau, ym mhob ardal, er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio’n ddiogel i leihau’r risg o COVID.

Yn ystod yr hapwiriadau, bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu cyngor ac arweiniad i reoli risg a diogelu gweithwyr, cwsmeriaid ac ymwelwyr. Fodd bynnag, lle nad yw rhai busnesau’n llwyddo i wneud hyn, bydd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn gweithredu ar unwaith.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Sgiliau a Recriwtio

Ymgyrch recriwtio / gyrfaoedd Twristiaeth a Lletygarwch

Fel rhan o'r ymgyrch, mae pecyn cymorth bellach ar gael i helpu gyda recriwtio staff a chodi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gyrfa gwych ym maes twristiaeth a lletygarwch: Lawrlwythwch y pecyn cymorth a'r delweddau.

Cefnogwch yr ymgyrch drwy gadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio #CreuwyrProfiad. Am fanylion llawn yr ymgyrch ewch i wefan Cymru'n Gweithio.

Rhagor o wybodaeth am sgiliau a recriwtio.

 

Cynllun Kickstart

Mae'r Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu swyddi newydd i bobl ifanc 16 i 24 oed ar Gredyd Cynhwysol sy'n wynebu risg o ddiweithdra hirdymor.

Gall cyflogwyr o bob maint wneud cais am gyllid hyd at 17 Rhagfyr 2021 sy'n cwmpasu:

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.

 

Recriwtio Pobl sy’n Gadael Carchar: Uwchgynhadledd Cyflogwyr 2021

Bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cynnal digwyddiad rhithwir rhyngweithiol am ddim i gefnogi busnesau o bob sector sydd â diddordeb mewn recriwtio pobl sy’n gadael carchar.

Cewch gyfle i glywed gan fusnesau blaenllaw sydd eisoes yn cael budd o recriwtio pobl sy’n gadael carchar, yn cynnwys Timpson, Greene King a Greggs.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.

 

Guardians of Grub: Becoming a Champion 2021-22

Cwrs e-ddysgu newydd Guardians of Grub, ‘Becoming a Champion’, yw eich cyfle i ymuno â chymuned sy’n tyfu o weithwyr proffesiynol yn y Diwydiant Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd sy’n cael eu hadnabod fel Hyrwyddwyr, ac sy’n arwain yr ymgyrch i arbed arian i’w busnesau ac achub y blaned.

Mae’r cwrs wedi’i lunio’n arbennig ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n brin o amser – gan roi mynediad cyflym i chi at yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithredu i leihau gwastraff bwyd.

Rhagor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Diweddariad marchnata hydref/gaeaf Croeso Cymru – gwybodaeth am sesiwn ar-lein

Ar 23 Medi 2021, cynhaliodd Croeso Cymru sesiwn ar-lein cyn cyfnod gwyliau'r hydref/gaeaf.  Gwnaethom rannu gwybodaeth am

  • gyfeiriad ein gwaith marchnata yn yr hydref/gaeaf
  • pwysigrwydd dewis y cynnwys cywir a negeseuon cyfrifol

Rhoesom hefyd drosolwg o gynulleidfaoedd sy'n cael eu targedu.

Mae’r recordiad a’r cyflwyniadau o’r sesiwn i’w gweld yma.


Gofyniad i gyflogwyr rannu unrhyw gildwrn â gweithwyr

Bydd pob cildwrn yn cael ei roi i staff dan gynlluniau newydd i weddnewid arferion rhoi cildwrn gan Lywodraeth y DU.

Mae’r rhan fwyaf o weithwyr lletygarwch – llawer ohonynt yn ennill yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol – yn dibynnu ar arian cildwrn i ategu eu hincwm. Ond dengys ymchwil bod llawer o fusnesau sy’n ychwanegu tâl gwasanaeth dewisol ar filiau cwsmeriaid yn cadw rhan o’r taliadau gwasanaeth hyn, yn hytrach na’u rhoi i’r staff.

Bydd Llywodraeth y DU yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr gadw unrhyw gildwrn yn hytrach na’i roi i weithwyr.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Arolwg Twristiaeth ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr

Mae Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr (GBTS) ac Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr (GBDVS) yn mesur maint a gwerth teithiau twristiaeth dros nos domestig a theithiau undydd domestig a gymerwyd gan drigolion Prydain Fawr. Amharodd pandemig COVID-19 ar yr arolygon dros dro yn 2020 a dechrau 2021.

Cyhoeddwyd diweddariad o'r ystadegau hyn, gan gynnwys crynodeb o'r newidiadau diweddar i ddull yr arolwg a'r mathau o wybodaeth newydd sy'n cael ei chasglu. Y nod yw dechrau cyhoeddi data ar gyfer 2021 yn gynnar yn 2022, yn dilyn sicrwydd ansawdd.

 

Ymgynghori ar Ystadegau Teithio a Thwristiaeth ONS

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn arwain adolygiad o ystadegau teithio a thwristiaeth sy'n ymwneud â theithio mewnol, allanol a domestig yn y DU.

Mae'r adolygiad yn cynnwys gwybodaeth a gasglwyd gan yr Arolwg Teithwyr Rhyngwladol, Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr, arolwg ymweliadau Undydd Prydain Fawr, yn ogystal â'r cyfle i gasglu gwybodaeth o ffynonellau data amgen newydd. Mae'r gwaith hwn yn ceisio meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion defnyddwyr ac archwilio'r ffordd orau o'u diwallu mewn amgylchedd sy'n newid.

Maent wedi lansio ymgynghoriad ac mae ganddynt ddiddordeb mewn derbyn barn pob sector o'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru sy'n defnyddio ystadegau teithio a thwristiaeth. Gallwch gyflwyno eich ymateb i'r ymgynghoriad yma.


Sir Benfro yn datgelu ei brand newydd

Mae Croeso Sir Benfro wedi lansio ei brand newydd ar gyfer Sir Benfro. Wedi'i gynllunio i greu ymwybyddiaeth, bydd y brand yn cefnogi nod y Sefydliadau Marchnata Cyrchfan i ddatblygu twristiaeth yn y dull mwyaf cyfrifol a chynaliadwy posibl.

Mae logo newydd sy'n cyd-fynd â'r newid brand wedi'i ysbrydoli gan hanfod lleol creadigol a chelfyddydol Sir Benfro ac mae'n adlewyrchu personoliaeth unigryw y brand. Mae'r lliwiau'n adleisio'r tymhorau, ac mae y môr, y llanw a'r awyr hefyd wedi'i gynrychioli o fewn y 'cwlwm' brand newydd: cyfeiriad at gysylltiadau Celtaidd cryf y rhanbarth.

'Sir Benfro' yn unig yw'r brandio newydd (nid yw 'ymweld' yn rhan o'r logo mwyach), i adlewyrchu sut mae'r gyrchfan yn cynnig mwy nag ymweliad sydyn yn unig – mae'n cynnig profiad cyflawn, trochol sy'n gallu gwella bywyd i'r rhai sy'n chwilio amdano. Mae ffont porffor/llwyd y gair 'Sir Benfro' yn talu teyrnged i'r llechen leol, deunydd naturiol, rhan o'r amgylchedd, sydd i'w weld ledled y rhan fwyaf o'r sir.

Gellir lawrlwytho'r logo mewn fformatau Cymraeg, Saesneg a dwyieithog ac mae fideo wedi'i animeiddio sy'n dangos lleoliadau a phrofiadau pwysig Sir Benfro.

Bydd busnesau a sefydliadau ledled Sir Benfro yn cael eu hannog i ddefnyddio'r brand a'u llyfrgell delweddau a'u pecyn cymorth brand sy'n rhoi arweiniad ar werthoedd brand, negeseuon, teipograffeg a phaletau lliw.

I gael rhagor o fanylion neu i ddod yn aelod o Croeso Sir Benfro, ewch i wefan Croeso Sir Benfro.


Llythyr y Prif Weinidog am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

"Yn dilyn fy llythyr agored blaenorol at ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir) yng Nghymru, hoffwn ailadrodd fy neges o gefnogaeth i’r unigolion hynny sy’n byw yma yng Nghymru ac sydd am barhau i wneud hynny.

“Er bod y dyddiad cau i wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE bellach wedi pasio, mae holl ddinasyddion yr UE a oedd yn byw yng Nghymru cyn 31 Rhagfyr 2020, neu unrhyw aelodau o’u teulu sydd wedi ymuno â nhw ers hynny, yn dal i allu gwneud cais hwyr ar sail resymol. Gall plant dinasyddion yr UE wneud cais hwyr, neu gellir gwneud cais hwyr ar eu rhan, yn ddiderfyn.”

Darllenwch yn llawn ar Llyw.Cymru.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram