Cymru Iachach - Newyddion Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 13/10/21

13/10/2021

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Nurse with vaccine

‘Brechlynnau yw'r ffordd orau o helpu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol cyn y gaeaf heriol'

Mae Strategaeth Frechu COVID-19 wedi cael ei chyhoeddi ar ei newydd wedd. Yn y Strategaeth, mae Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd, yn cadarnhau y bydd y rhan fwyaf o’r rheini sy'n gymwys yn cael cynnig eu brechiad atgyfnerthu erbyn 31 Rhagfyr 2021.

Keep Wales Safe

Ymgyrch Diogelu Cymru

Drwy gydol y pandemig, mae’r ymgyrch Diogelu Cymru wedi bod yn annog pobl i ymddwyn mewn ffordd sy’n atal lledaeniad COVID-19, a niweidiau o ganlyniad i’r feirws. Mae’r ymgyrch wedi defnyddio ystod eang o ddulliau cyfathrebu i gyrraedd cymaint o bobl â phosibl. Mae hyn wedi cynnwys hysbysebu yn ogystal â gweithio gyda dylanwadwyr a brandiau mawr i rannu negeseuon allweddol gyda’u cynulleidfaoedd. Gallwch weld hysbyseb diweddaraf Diogelu Cymru yma.
Mae’r holl ddeunyddiau sy’n cael eu cynhyrchu ar gael i bartneriaid a rhanddeiliaid eu defnyddio ar eu sianelau. Cysylltwch â HSSComms@llyw.cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Mother and child

Y gwaith o ddarparu’r brechlyn COVID i blant 12 i 15 oed yn cyflymu yng Nghymru

Wrth i unigolion 12 i 15 oed ar draws Cymru ddechrau derbyn eu brechlynnau COVID-19, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd y bydd pob un ohonynt yn cael cynnig brechlyn erbyn diwedd hanner tymor mis Hydref.

Judith Paget

Penodiad newydd i swydd Prif Weithredwr GIG Cymru a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Judith Paget sydd wedi'i phenodi'n Brif Weithredwr GIG Cymru ac yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Consultation

Ymateb deddfwriaethol Gweinidogion Cymru i bandemig y coronafeirws

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar ei hymateb deddfwriaethol i bandemig y coronafeirws.

PPE

Biliwn o eitemau o PPE yn cael eu rhoi i gadw staff y GIG a staff gofal cymdeithasol yn ddiogel

Mae mwy na biliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol (PPE) wedi’u rhoi am ddim i’r GIG a’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ers dechrau’r pandemig.

CET Scanner

Llywodraeth Cymru i fuddsoddi bron i £25m mewn pedwar sganiwr digidol newydd i leihau amseroedd aros a chwrdd â’r galw am wasanaethau

Bydd y pedwar sganiwr PET-CT newydd yn helpu i wella mynediad at y dechnoleg ddiagnostig ddiweddaraf hon ar draws Cymru.

Wg Green logo

Optimeiddio Rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru

Sgrinio Coluddion Cymru yw un o’n rhaglenni sgrinio cenedlaethol ac mae’n cynnig prawf sgrinio bob dwy flynedd i ddynion a menywod rhwng 60 a 74 oed ar hyn o bryd.

Deputy Minister With Walking Group

“Rwyf eisiau i Gymru fod yn genedl sy’n dathlu oed”

Bydd rôl ganolog pobl hŷn yn ein cymunedau’n cael ei chydnabod wrth i Gymru ddod yn genedl sydd o blaid pobl hŷn. Dyna gyhoeddiad Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Darllen mwy am hyn llyw.cymru/iechydagofalcymdeithasol

 
 

AMDANOM NI

Gwybodaeth berthnasol i'r rhai sy'n gweithio o fewn y sector iechyd a gwasanaethau cymdeithasol

Rhagor o wybodaeth ar y we:

http://llyw.cymru/iechydagofalcymdeithasol

Dilyn ar-lein:

@LlCIechydGofal

@CMOWales

#CymruIachach