Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

7 Hydref 2021


m

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Profi COVID-19 yn y gweithle; Rheolau ar gyfer teithio rhyngwladol i ac o Gymru: coronafeirws; Dychwelyd at Asesiadau Graddio Ansawdd; Cyfleoedd: Digwyddiadau Hamdden y Diwydiant Teithio a Busnes – diddordeb yn uchel a lleoedd cyfyngedig; Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru; Gweminar: Canlyniadau Arolwg Tracio Defnyddwyr Rhyngwladol – Cam 3; Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 10 Hydref 2021; Llywodraeth Cymru’n ymestyn y cynllun cymhellion i fusnesau ar gyfer recriwtio prentisiaid gan Lywodraeth Cymru; Datganiad Ysgrifenedig: Ymateb deddfwriaethol Gweinidogion Cymru i bandemig y coronafeirws


Profi COVID-19 yn y gweithle

Bydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brofion asymptomatig rheolaidd mewn gweithleoedd yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn canolbwyntio ar weithleoedd sydd â mwy na 10 o weithwyr nad ydynt yn gallu gweithio gartref.

Mae'r rhaglen profi yn y gweithle wedi'i chynllunio i'w defnyddio fel offeryn gwyliadwriaeth i gefnogi profion asymptomatig rheolaidd. Dylid gwneud hyn ddwywaith yr wythnos ar gyfer y staff hynny sy'n dymuno cymryd rhan. Gall hyn fod yn unrhyw x2 ddiwrnod o'r wythnos o'ch dewis yn unol â'ch anghenion busnes unigol / sifftiau staff neu rota. Mae'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP) yn amlinellu'r profion yn y gweithle dan oruchwyliaeth a'r modelau casglu yn y gweithle (lle byddai staff yn profi gartref ac yn adrodd drwy borth y llywodraeth ar-lein). 

Mae cymorth ar gael i sefydliadau yng Nghymru gyflwyno cynllun profi. Cewch ragor o fanylion ar Llyw.Cymru.

Buddion profi yn y gweithle

  • Darparu dull seiliedig ar risg iechyd y cyhoedd a arweinir gan y gweithle gan ddefnyddio gwybodaeth am y gweithlu i leihau lledaeniad y feirws.
  • Cyflwyno capasiti profi asymptomatig rheolaidd yn y gweithle yn seiliedig ar fodel hybrid sy'n cynnig safleoedd profi dan oruchwyliaeth a phecynnau hunan-brawf.
  • Darparu profion rheolaidd ar gyflogeion i ganfod ac ynysu achosion cadarnhaol yn gyflym ac atal trosglwyddo pellach, mae hyn fel arfer yn cynnwys y gweithlu sy'n cael ei brofi unwaith neu ddwywaith yr wythnos.
  • Nodi achosion gan unigolion sy'n dangos dim symptomau ac yn eu tynnu o'r gweithle ac atal trosglwyddo pellach.
  • Yn rhoi sicrwydd ychwanegol i'r gweithlu nad yw'n gallu gweithio gartref.

I gael rhagor o wybodaeth am fframwaith profi yn y gweithle COVID-19 ac os oes gennych unrhyw gwestiynau am y fframwaith neu os hoffech drafod ymhellach, cysylltwch â: COVID19.ProfiYnYGweithle@llyw.cymru.


Rheolau ar gyfer teithio rhyngwladol i ac o Gymru: coronafeirws

Mae'r rheolau sy'n llywodraethu'r hyn y mae'n rhaid i chi ei wneud wrth gyrraedd Cymru o dramor wedi newid o 4am ar 4 Hydref 2021.

O 4 Hydref rydych yn gymwys fel rhywun sydd wedi eich brechu'n llawn os cewch eich brechu:

  • o dan raglen frechu gymeradwy yn y DU, Ewrop, UDA neu raglen frechu'r DU dramor
  • gyda chwrs llawn o frechlynnau Rhydychen/AstraZeneca, Pfizer BioNTech, Moderna neu Janssen gan gorff iechyd cyhoeddus perthnasol yn Awstralia, Antigua a Barbuda, Barbados, Bahrain, Brunei, Canada, Dominica, Israel, Japan, Kuwait, Malaysia, Seland Newydd, Qatar, Saudi Arabia, Singapore, De Korea, Taiwan neu'r Emiradau Arabaidd Unedig (UAE)

Mae'n rhaid eich bod wedi cael cwrs cyflawn o frechlyn cymeradwy o leiaf 14 diwrnod cyn i chi gyrraedd Cymru.

Rhaid i bobl sy'n cyrraedd Cymru, o wlad nad yw ar y rhestr goch, sydd wedi'u brechu'n llawn:

  • llenwi ffurflen lleoli teithwyr
  • cymryd prawf ôl-gyrraedd ar ddiwrnod 2 (nid oes ei angen ar gyfer plant o dan 5 oed)
  • nid oes angen iddynt ynysu am 10 diwrnod

Fe'ch cynghorir i wirio'r canllawiau diweddaraf cyn teithio.


Dychwelyd at Asesiadau Graddio Ansawdd

Ar ôl atal ymweliadau graddio oherwydd pandemig COVID-19, bydd y tîm Sicrhau Ansawdd yn ailddechrau eu dyletswyddau dros yr wythnosau nesaf.

Mae llawer o ystyriaeth wedi'i rhoi i sut y gallwn ddychwelyd i asesu eiddo mor ddiogel â phosibl nid yn unig i'r tîm Graddio Ansawdd ond hefyd i'r busnes twristiaeth.

Fel y byddwch yn gwerthfawrogi, bydd gan y Cynghorwyr Ansawdd gryn dipyn o ôl-groniad o alwadau ffôn i'w gwneud, ac oherwydd hyn, teimlir mai'r ffordd orau o symud ymlaen ac ail-ddechrau'r broses raddio yw, ar sail 'prawf' gychwynnol, i gysylltu â'r busnesau hynny sydd wedi gwneud cais am raddio ansawdd am y tro cyntaf erioed. Fodd bynnag, cofiwch, y byddwn yn dod allan i ymweld â phob eiddo maes o law.

Rydym yn deall yn iawn mai dyma'r cyfnod mwyaf digynsail i bob busnes twristiaeth yng Nghymru, ond byddem yn ddiolchgar iawn am eich amynedd a'ch cydweithrediad ar hyn o bryd wrth inni edrych ymlaen at ddod i ymweld â'ch busnesau unwaith eto yn y dyfodol.

Er mwyn cefnogi busnesau wrth i ni barhau i wella o bandemig COVID-19, ni chodir tâl am gymryd rhan yn ein cynlluniau ansawdd hyd y gellir rhagweld (ar wahân i ble y bydd angen i'r busnes dalu'r costau ar gyfer ymweliadau graddio dros nos a ffioedd mynediad, defnyddio siopau bwyd a diod, ac ati ar gyfer asesiadau atyniadau twristiaeth).

Os ydych yn fusnes newydd neu os cawsoch eich graddio'n flaenorol ac os hoffech gymryd rhan mewn graddio ansawdd unwaith eto, anfonwch e-bost at quality.tourism@llyw.cymru.


Cyfleoedd: Digwyddiadau Hamdden y Diwydiant Teithio a Busnes – diddordeb yn uchel a lleoedd cyfyngedig

ITB Berlin 2022, 9-13 Mawrth 2022; Cofrestru ar agor

Ymunwch â Stondin VisitBritain yn ITB Berlin - ffair fasnach deithio fwyaf y byd - a llwyfan effeithiol i gwrdd ag ystod gynhwysfawr o fusnesau byd-eang ac ymgysylltu â defnyddwyr.

Cofrestrwch nawr ar gyfer ITB Berlin 2022, a fydd yn cynnig y cyfle i gyfarfod yn bersonol a dod i gysylltiad â phrynwyr o'r Almaen. (£1,000 yw Pecyn Cyd-Arddangoswr VisitBritain)

 

ExploreGB Virtual, 21-24 Mawrth 2022: Ceisiadau ar Agor

Cymerwch ran yn y digwyddiad masnachu hamdden blaenllaw hwn a fydd yn arddangos yn rhithwir dros 350 o brynwyr rhyngwladol allweddol a ddewiswyd yn arbennig.

Bydd gan bob un sy'n bresennol fynediad i dri diwrnod llawn a hyblyg o apwyntiadau rhithwir wedi eu dewis eu hunain ar 22-24 Mawrth, digonedd o adnoddau digidol ac i’w lawrlwytho a'r cyfle i greu bythau adnoddau arddangoswyr pwrpasol. Mae ExploreGB hefyd yn cynnwys diwrnod pwrpasol (ar 21 Mawrth) i chi gwrdd yn bersonol a chael cymorth gan ein cynrychiolwyr yn y farchnad, timau Cysylltiadau Cyhoeddus a Chymorth Busnes. Mae'r digwyddiad am ddim i bawb sy'n gymwys i fynychu. Rhagor o wybodaeth a chyflwyno'ch cais.

 

IBTM World 2021, 30 Tachwedd–2 Rhagfyr 2021: Cofrestrwch eich diddordeb

Yn cael ei gynnal yn y Fira Barcelona Gran Via yn Barcelona ar 30 Tachwedd i 2 Rhagfyr, mae IBTM World wedi hen ennill ei blwyf fel un o'r prif sioeau masnach ar gyfer y diwydiant cyfarfodydd, cymhellion, cynadleddau, digwyddiadau a theithio busnes.

Dysgwch fwy a chofrestrwch eich diddordeb i fod yn bartner stondin ar stondin MeetEngland.

 

MeetGB Rhithwir 2022, 15 a 17 Chwefror 2022: Cofrestriadau ar agor ganol mis Hydref

Mae MeetGB Virtual 2022 wedi cael ei drawsnewid a'i ail-gynllunio i addysgu cynllunwyr cyfarfodydd a digwyddiadau rhyngwladol am ddigwyddiadau busnes helaeth y DU.

Bydd cyflenwyr yn y DU yn gallu cwrdd yn rhithwir â phrynwyr rhyngwladol drwy leoliadau un-i-un ar lwyfan digidol pwrpasol.

Bydd y gynhadledd ar-lein yn cael ei rhannu ar draws dau ddiwrnod i ddarparu ar gyfer gwahanol barthau amser, gan ddechrau gyda phrynwyr o Ewrop a'r DU ar 15 Chwefror ac yna prynwyr Gogledd America ar 17 Chwefror.

Bydd cofrestriadau'n agor ganol mis Hydref. Dysgwch fwy.


Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru

Mae Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru yn rhoi 'cipolwg' ar berfformiad y diwydiant ar ôl pwyntiau pwysig yn y calendr twristiaeth.

Mae canfyddiadau ar gyfer cyfnod yr haf 2021 bellach ar gael sy'n dangos:

  • Mae tua hanner (48%) y gweithredwyr wedi cael mwy o gwsmeriaid o gymharu â haf arferol (cyn COVID), mae tua traean (31%) wedi cael yr un faint, ac mae 21% wedi cael llai.
  • Mae pob un o bedwar rhanbarth Cymru wedi bod yn brysurach nag arfer (cyn COVID) yr haf hwn, ond de-orllewin Cymru yn arbennig felly. Mae 56% o fusnesau yn y rhanbarth hwn wedi cael mwy o gwsmeriaid yr haf hwn o'i gymharu â'r hyn sy’n arferol.
  • Mae bron pob busnes (97%) yn dewis cynnal rhai mesurau diogelwch yn wirfoddol nad yw'n ofynnol iddynt eu cynnal yn ôl y gyfraith mwyach. Mae llawer o fathau o fesurau yn cael eu cynnal – glanweithyddion dwylo (87% o'r rhai sy'n cynnal mesurau), glanhau ychwanegol (65%) a phellter cymdeithasol (54%). Mae ymdeimlad cyffredinol o weithredwyr yn dal i fod eisiau gwneud yr hyn a allant i gadw COVID i ffwrdd, hyd yn oed os yw'n effeithio ar elw.
  • Mae tri o bob pump (60%) yn dweud bod COVID wedi eu hysgogi i wneud newidiadau parhaol yn y ffordd y maent yn rhedeg eu busnes, gyda 22% arall heb wybod eto. Y newidiadau mwyaf cyffredin yw glanhau dwfn parhaus (29%) a pharhau i dderbyn archebion ymlaen llaw (15%).
  • Mae gan tua hanner (48%) y busnesau fwy o archebion ymlaen llaw ar gyfer gweddill 2021 nag a fyddai ganddynt fel arfer ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ac mae gan 35% yr un lefel.

Gweminar: Canlyniadau Arolwg Tracio Defnyddwyr Rhyngwladol – Cam 3

Ymunwch â ni ddydd Mercher 13 Hydref 11.00am-12.30pm ar gyfer sesiwn yn adolygu'r data diweddaraf ar deimladau defnyddwyr rhyngwladol o'r arolwg tracio defnyddwyr rhyngwladol a gynhaliwyd gan Visit Britain a Croeso Cymru ym mis Awst a mis Medi. Bydd y sesiwn hon yn rhoi gwybodaeth ichi gan ganolbwyntio ar farchnadoedd ac adferiad mewnol.  Cofrestrwch nawr ar wefan VisitBritain.


Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 10 Hydref 2021

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn dathlu ymwybyddiaeth i'r gymuned fyd-eang mewn ffordd empathig, gyda llais sy'n uno, gan helpu unigolion i deimlo'n obeithiol trwy eu grymuso i weithredu ac i greu newid parhaol.

Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un, unrhyw ddiwrnod o'r flwyddyn, ond mae 10 Hydref yn ddiwrnod gwych i ddangos eich cefnogaeth i well iechyd meddwl a dechrau gofalu am eich lles eich hun.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Llywodraeth Cymru’n ymestyn y cynllun cymhellion i fusnesau ar gyfer recriwtio prentisiaid gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y cynllun cymhellion i fusnesau ar gyfer recriwtio prentisiaid yng Nghymru tan fis Chwefror 2022.

Mae’r Cynllun Cymhellion Cyflogwyr i Brentisiaid yn rhan allweddol o Ymrwymiad Covid Llywodraeth Cymru i gynorthwyo busnesau a gweithwyr i wella o effeithiau’r coronafeirws.

Rhoddwyd cyfanswm o £18.7m i gefnogi'r cynllun yn 2021 i 2022.

Rhagor o wybodaeth Llyw.Cymru.


Datganiad Ysgrifenedig: Ymateb deddfwriaethol Gweinidogion Cymru i bandemig y coronafeirws

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad am ei hymateb deddfwriaethol i bandemig coronafeirws. Mae’n cynnwys y cyfnod rhwng 10 Awst 2020 a 31 Awst 2021.  Gweler Deddfwriaeth pandemig y coronafeirws: 10 Awst 2020 hyd 31 Awst 2021 | LLYW.CYMRU

Rhagor o wybodaeth Llyw.Cymru.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram