Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

30 Medi 2021


forest walk

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Datganiad Ysgrifenedig: Adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) 2020; Tyfu twristiaeth er lles Cymru; Llywodraeth Cymru yn cadarnhau newidiadau i deithio rhyngwladol ac yn galw i gadw profion PCR; Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2021; Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 y DU - adroddiad proffil Cymru; Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: Ebrill i Fehefin 2021; Ailddatblygu Amgueddfa Llandudno yn hwb i’r dref ac i ymwelwyr; Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl; Y Cynllun Hyderus o ran Anabledd; Bydd awyru da yn helpu i leihau’r perygl o drosglwyddo COVID yn y gweithle; Gwybodaeth am ddeddfwriaeth newydd a fydd yn dod i rym ym mis Mawrth 2022; Arolwg Ffermwyr a Thirfeddianwyr – Ein Llwybrau Byw; Dyddiad cau ar gyfer tâl salwch Covid-19 


Datganiad Ysgrifenedig: Adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) 2020

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol bod adolygiad o gyfyngiadau'r coronafeirws yn cael ei gynnal bob tair wythnos. Cynhaliwyd yr adolygiad diweddaraf ar 16 Medi.

Mae Rheoliadau diwygiedig drafft wedi'u gosod heddiw a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl ddangos pàs COVID y GIG i fynd i ddigwyddiadau mawr a sefydliadau risg uchel, megis clybiau nos, o 11 Hydref ymlaen. Caiff hyn ei drafod gan aelodau'r Senedd ar 5 Hydref

Defnyddiwyd y Pàs COVID yng Nghymru ar gyfer rhai digwyddiadau dros yr haf, ac mae rhai safleoedd eisoes yn mynnu bod y pàs yn cael ei ddangos fel amod i gael mynediad. Mae'r pàs yn caniatáu i bobl brofi eu bod naill ai wedi cael eu brechu'n llawn neu i ddarparu tystiolaeth o brawf llif unffordd negyddol.

Nid ar chwarae bach yr ydym yn cyflwyno mesurau o'r fath: rydym am gefnogi lleoliadau i aros ar agor a galluogi digwyddiadau i barhau drwy fisoedd yr hydref a’r gaeaf a allai fod yn gyfnod anodd.

Wrth inni symud i gyfnod y gaeaf, mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd i ddiogelu Cymru, ac rwy'n annog yr aelodau i gefnogi hyn ar 5 Hydref.

Darllenwch y cyhoeddiad ar Llyw.Cymru.


Tyfu twristiaeth er lles Cymru

Ar Ddiwrnod Twristiaeth y Byd, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, ei fod am dyfu twristiaeth Cymru mewn ffordd sy'n cefnogi cymunedau, tir a phobl Cymru.

Ar ddydd Llun 27 Medi nodwyd Diwrnod Twristiaeth y Byd, sef diwrnod sy'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ar draws y byd o werth cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd twristiaeth.

Eleni, gwnaeth UNWTO (Sefydliad Twristiaeth y Byd) ddynodi Diwrnod Twristiaeth y Byd fel diwrnod i ganolbwyntio ar Dwristiaeth er budd Twf Cynhwysol. Dyma gyfle i ddathlu gallu unigryw twristiaeth i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl ac i edrych i'r dyfodol.

Mae'r cynllun a rennir ar gyfer adfer yr economi ymwelwyr yn nodi sut mae heriau'r pandemig hefyd yn cynnig cyfleoedd i fynd i'r afael â llawer o'r rhwystrau hirsefydlog i'r diwydiant megis, cyfyngiadau tymhorol, prinder staff a sgiliau.

Cyn bo hir, bydd Croeso Cymru yn lansio ymgyrch newydd ar gyfer yr hydref a'r gaeaf.

Mwy ar Llyw.Cymru.


Llywodraeth Cymru yn cadarnhau newidiadau i deithio rhyngwladol ac yn galw i gadw profion PCR

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn uno’r rhestrau teithio gwyrdd ac oren ac yn dileu’r gofyniad am brawf cyn ymadael i’r rhai sydd wedi’u brechu’n llawn.

Mae’n bwriadu gwneud y newidiadau erbyn 4 Hydref yn unol â system newydd Llywodraeth y DU.

Nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto ynglŷn â pheidio â defnyddio profion PCR ar gyfer teithwyr ond mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn glir ei bod yn gwrthwynebu’r newid. Mae’n galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei phenderfyniad.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried i ba wledydd y bydd yn estyn y system adnabod tystysgrifau brechu yn ystod yr wythnosau nesaf.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2021

Mae Gwobrau Twristiaeth Go North Wales yn ôl ar gyfer 2021 ac mae bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.

Diben y gwobrau yw dathlu a chydnabod rhagoriaeth yn sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth.  

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 10 Hydref 2021.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 y DU - adroddiad proffil Cymru

Bydd yr adroddiad diweddaraf i dracio barn ac i ddeall bwriad i gymeryd gwyliau o farchnad y DU, sy'n canolbwyntio ar preswylwyr o Gymru, ymwelwyr ac ymwelwyr arfaethedig, ar gael o 1 Hydref ar wefan Llywodraeth Cymru - yn adrodd ar waith maes a wnaed rhwng 9 Awst a 10 Medi 2021: Mae tri o bob deg o drigolion y DU yn bwriadu mynd ar daith yr hydref neu'r gaeaf hwn a Chymru yw'r seithfed cyrchfan fwyaf ffafriol,  gyda phob cyfnod-bywyd yn debygol o archebu eu taith dros nos nesaf yn nes at y dyddiad na'r arfer.

Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: Ebrill i Fehefin 2021

Mae’r adroddiad diweddaraf ar deiliadaeth a pherfformiad llety twristiaeth yn ystod ail chwarter 2021 ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.


Ailddatblygu Amgueddfa Llandudno yn hwb i’r dref ac i ymwelwyr

Ar ôl i Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru, ymweld ag Amgueddfa Llandudno sydd newydd ailagor dywedodd y bydd yn hwb pellach i'r dref.

Ailagorodd yr Amgueddfa yn gynharach y mis hwn yn dilyn prosiect ailddatblygu mawr.  

Ariannwyd yr ailddatblygiad gan gronfa Dreftadaeth y Loteri gydag arian cyfatebol gan nifer o sefydliadau. Darparodd Llywodraeth Cymru dros £350,000 o gyllid grant tuag at y datblygiad.

Mwy ar Llyw.Cymru.


Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl 

Hoffech chi gael cyngor ymarferol ar sut i ddenu, recriwtio, datblygu a chadw gweithwyr anabl? Gall Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru gynnig cymorth i helpu cyflogwyr i greu gweithlu cynrychiadol y gall unrhyw un ymuno ag ef.

Gall creu gweithlu amrywiol:

  • Gynyddu nifer yr ymgeiswyr o safon uchel
  • Cyflwyno sgiliau ychwanegol i’r busnes
  • Creu gweithlu sy’n adlewyrchu ystod amrywiol y cwsmeriaid y mae’n eu gwasanaethu

Dewch i wybod mwy am Cyflogaeth Pobl Anabl | Busnes Cymru Porth Sgiliau.

Y Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae sefydliadau sy’n rhan o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o newid agweddau er gwell. Maent yn newid ymddygiad a diwylliannau yn eu busnesau, rhwydweithiau a’u cymunedau eu hunain, ac yn elwa i’r eithaf ar arferion recriwtio cynhwysol.

Mae’r cynllun yn helpu cyflogwyr i recriwtio a chadw pobl wych, ac yn:

  • Manteisio ar ddewis eang iawn o bobl ddawnus
  • Sicrhau staff o’r radd flaenaf sy’n fedrus, yn ffyddlon ac yn barod i weithio’n galed
  • Gwella morâl staff a’u hymroddiad drwy ddangos eich bod yn trin pob gweithiwr yn deg

Mae hefyd yn helpu cwsmeriaid a busnesau eraill i bennu’r gweithwyr hynny sydd wedi ymrwymo i gydraddoldeb yn y gweithle.

Mwy am y cynllun Hyderus o ran Anabledd.


Bydd awyru da yn helpu i leihau’r perygl o drosglwyddo COVID yn y gweithle

Bydd canllawiau diweddaraf yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn eich helpu i sylwi ar awyru gwael yn y gweithle a chymryd camau ymarferol i wella hynny. Gall hyn helpu i leihau'r risg o ledaenu COVID-19 yn eich gweithle.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.

Hefyd, ceir rhai enghreifftiau o sut mae busnesau wedi gwella awyru er mwyn lleihau'r perygl o drosglwyddo COVID-19 yn y gweithle.


Gwybodaeth am ddeddfwriaeth newydd a fydd yn dod i rym ym mis Mawrth 2022

O 21 Mawrth 2022 bydd hi’n anghyfreithlon i gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru.

Bydd y gyfraith newydd yn berthnasol i bawb – rhieni neu unrhyw un sy’n gyfrifol am blentyn tra bo’r rhieni yn absennol. Yn yr un modd â chyfreithiau eraill bydd hefyd yn berthnasol i ymwelwyr â Chymru.

Er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r newid yn y gyfraith, mae ymgyrch ar waith ar y teledu, y radio ac ar lwyfannau digidol. Gwyliwch hysbyseb Sound of Change ar gyfer y teledu.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Stopio cosbi corfforol i blant.


Arolwg Ffermwyr a Thirfeddianwyr – Ein Llwybrau Byw

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Gwynedd, wedi lansio prosiect 'Ein Llwybrau Byw' / ‘Our Living Trails’ yn ddiweddar a’i nod hirdymor yw hyrwyddo ac adfer bioamrywiaeth ar hyd coridor Llwybr Arfordir Cymru.

Rydyn ni’n awyddus i glywed eich barn am fioamrywiaeth ar eich tir ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Byddem yn hoffi dysgu o'ch profiad.

Rydyn ni’n gofyn i dirfeddianwyr a ffermwyr yng Nghymru a chanddynt dir sy’n dilyn neu sy’n agos at Lwybr Arfordir Cymru, gwblhau'r arolwg byr ‘aml ddewis’ hwn sy’n cynnwys 20 o gwestiynau erbyn: Dydd Gwener, 15 Hydref 2021. Bydd eu hatebion yn sail i argymhellion y prosiect.

Gallwch ddysgu mwy am y prosiect drwy wylio'r fideo yma.


Dyddiad cau ar gyfer tâl salwch Covid-19

Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru ei chanllawiau ar gyfer hawliadau a wnaed o dan Gynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol y Coronafeirws. Gall cyflogwyr ddim ond hawlio ad-daliad ar dâl salwch statudol a dalwyd i weithwyr cyflogedig oherwydd Covid-19 a oedd i ffwrdd o'r gwaith ar neu cyn 30 Medi 2021.

Bydd Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol y Coronafeirws yn ad-dalu i gyflogwyr y Tâl Salwch Statudol a dalwyd i weithwyr cyflogedig presennol neu gyn-weithwyr cyflogedig.

Mae'r cynllun hwn ar gyfer cyflogwyr. 

Rhaid i chi gyflwyno neu ddiwygio hawliadau ar neu cyn 31 Rhagfyr 2021

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram