Bwletin Newyddion: Cynllun newydd i gadw Cymru ar agor ac yn ddiogel yn ystod y gaeaf “heriol” sydd o’n blaenau; Cyflwyno’r Pàs COVID y GIG o 11 Hydref

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

8 Hydref 2021


corona update

Cynllun newydd i gadw Cymru ar agor ac yn ddiogel yn ystod y gaeaf “heriol” sydd o’n blaenau

Heddiw, mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi cynlluniau newydd i gadw Cymru ar agor ac yn ddiogel yn ystod y misoedd anodd sydd o’n blaenau dros yr hydref a’r gaeaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar ei newydd wedd. Yn y Cynllun, rhoddir manylion bras y camau gweithredu allweddol a allai gael eu rhoi ar waith i reoli lledaeniad y feirws.

Ar gyfer y tair wythnos nesaf, yn dilyn yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau coronafeirws, bydd Cymru yn parhau ar lefel rhybudd sero. Felly, bydd pob busnes ar agor a bydd y lefel isaf o gyfyngiadau ar waith yng Nghymru.

Darllenwch y datganiad


Cyflwyno’r Pàs COVID y GIG o 11 Hydref

Bydd hi’n orfodol defnyddio Pàs COVID y GIG mewn rhai lleoliadau o 07:00 ddydd Llun 11 Hydref.

Bydd y rheolau newydd yn golygu y bydd angen i bobl dros 18 oed yng Nghymru ddangos eu bod wedi'u brechu'n llawn neu wedi cael prawf llif ochrol negyddol o fewn 48 awr i fynychu'r lleoliadau neu'r digwyddiadau canlynol:

  • clybiau nos a lleoliadau tebyg lle darperir cerddoriaeth ar gyfer dawnsio - ond dim ond os ydynt yn gweini alcohol ac ar agor rhwng hanner nos a 5am;
  • tafarn neu fwyty sydd fel arfer yn aros ar agor heibio hanner nos, gyda cherddoriaeth, alcohol a dawnsio;
  • lleoliadau dan do gyda mwy na 500 o bobl yn y gynulleidfa lle nad yw rhai neu'r cyfan o'r gynulleidfa yn eistedd;
  • unrhyw leoliadau awyr agored neu dan do gyda thros 4,000 yn y gynulleidfa, lle nad yw rhai neu'r cyfan o'r gynulleidfa yn eistedd;
  • unrhyw ddigwyddiad, o unrhyw natur, ble mae mwy na 10,000 o bobl yn bresennol.

I gael gwybod sut y gallai hyn effeithio ar eich busnes, dylech ystyried y canllawiau llawn ar y Pàs COVID y GIG ar gyfer Busnesau a Digwyddiadau, a fydd ar gael yn fuan.  


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram