Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Hydref 2021

Hydref 2021 • Rhifyn 020

 
 

Newyddion

Cig Oen Mynyddoedd Cambria yn derbyn Statws Dynodiad Daearyddol y DU

Cig Oen Mynydd Cambrian

Cig Oen Mynyddoedd Cambria yw'r ail gynnyrch Cymreig newydd i ennill statws Dynodiad Daearyddol y DU (GI y DU), yn dilyn Cig Oen Morfa Heli Gŵyr a enillodd y wobr fis diwethaf.

Andy Richardson

Nodyn gan Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru - Medi 2021

Mae’r 18 mis diwethaf wedi bod ymysg y misoedd mwyaf heriol ers cenhedlaeth. Mae gwydnwch a phenderfyniad Busnesau Bwyd a Diod Cymru wedi cael eu profi i’r eithaf, ac mae'n dyst gwirioneddol i bawb yn ein diwydiant ein bod mewn sefyllfa i geisio symud ymlaen wrth i’r hydref agosáu. 

Gweinidog CEA

Gweledigaeth newydd i helpu i gynyddu tyfu bwyd arloesol yng Nghymru

Nod prosbectws newydd Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd Reoledig (CEA) yw gweld twf yn nifer y busnesau sy'n defnyddio technoleg i ddarparu systemau cynaliadwy o dyfu bwyd lle mae paramedrau ac amodau fel dŵr a golau yn cael eu rheoli'n dynn.

Allforio

Gweinidog yr Economi yn lansio rhaglen newydd i helpu i hybu allforion Cymru

Mae'r Rhaglen Clwstwr Allforio yn un o gyfres o fentrau cymorth newydd sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru fel rhan o Gynllun Gweithredu Allforio Cymru, sy'n anelu at greu sector allforio cryf, bywiog a chynaliadwy i helpu i gryfhau'r economi, diogelu swyddi a chyfleoedd newydd i bobl yng Nghymru.

Allforio Clwstwr

Mae DEFRA yn trefnu sesiynau sector-benodol ar ganllawiau wedi'u diweddaru ynghylch Rheolau Tarddiad wrth fasnachu gyda'r UE.  Bydd y cylch hwn o ganllawiau hefyd yn mynd i'r afael â chanllawiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar ddatganiadau cyflenwyr a chynhyrchu annigonol (Saesneg yn unig)(y mae rhwyddineb ar eu cyfer ar hyn o bryd tan 31 Rhagfyr 2021). 

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynychu un o'r sesiynau hyn (dyddiadau amrywiol ym mis Hydref) cliciwch ar y ffurflen hon (Saesneg yn unig) lle gallwch gofrestru eich diddordeb ar gyfer y sector sydd fwyaf addas i chi.  Yna bydd gwahoddiadau'n cael eu hanfon i bob sesiwn yn seiliedig ar y cofrestriadau hyn. 

Gwobr y Llywodraeth

Gwobrau Llywodraeth Cymru 2021: Cyhoeddi’r enillwyr!

Yn ein seremoni wobrwyo rithwir gyntaf a gynhaliwyd ddydd Gwener 17 Medi cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Parhaol a’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol enillwyr Gwobrau Llywodraeth Cymru 2021.

Llongyfarchiadau i Dîm Busnes yr Is-adran Fwyd am ddod yn enillwyr ar y cyd ar gyfer y Gwobr Cydnerthedd ac Ymateb gyda'r Tîm ‘Gwarchod COVID’ Dros Dro, Tîm y Rhaglen Warchod a Steve Marshall a Thîm KAS. 

Decarbonisation Fund

Grant Newydd yn Berthnasol i’r Sector Bwyd a Diod Cymreig (Saesneg yn unig)

Bwriad Cronfa Her Ddatgarboneiddio a Covid yw i ariannu prosiectau cydweithredol a all ddarparu atebion arloesol mewn perthynas â'r agenda datgarboneiddio, gan helpu i adfer sector bwyd a diod Cymru sydd wedi cael ei effeithio’n andwyol gan y pandemig. 

Mae cyfanswm o £2,400,000 ar gael drwy ddwy ffrwd ariannu:

  • Cronfa Her i Fusnesau Micro a Busnesau Bach - cyfanswm y cyllid grant sydd ar gael: £600,000. Uchafswm y grant sydd ar gael fesul prosiect / cais yw £50,000, gan gynnwys unrhyw TAW perthnasol. Nid oes angen arian cyfatebol os ydych yn gwneud cais am y gronfa hon.
  • Prif Gronfa’r Her - cyfanswm y cyllid grant sydd ar gael yw £1,800,000. Uchafswm y cyllid grant sydd ar gael fesul prosiect / cais yw £100,000 gan gynnwys unrhyw TAW perthnasol. Mae angen arian cyfatebol o 20% felly dylai cyfanswm cost y prosiect fod o leiaf £125,000. Mae angen i arian cyfatebol fod yn 50% arian parod o leiaf. Gall y gweddill fod ar ffurf cyfraniad o fath arall, h.y. bydd angen i arian cyfatebol o £25,000 fod yn £12,500 arian parod o leiaf.

Bydd Gweminar ynghylch a’r Gronfa Her yn cael ei gynnal ar y 30ain o Fedi, cofrestrwch eich lle yma.

Adam Henson

Y ffermwr a chyflwynydd teledu Adam Henson i brofi Blas Cymru

Bydd y digwyddiad yn gyfle i feddwl am ddiogelu diwydiant bwyd a diod Cymru ar gyfer cenhedlaethau’r dyfodol.

Mis nesaf bydd digwyddiad bwyd a diod rhyngwladol mwyaf Cymru BlasCymru/TasteWales yn ôl, gan ddod â chynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd ynghyd i arddangos cynnyrch o safon fyd-eang er mwyn agor cyfleoedd masnach newydd.

Gulfood

Cwmnïau bwyd a diod o Gymru yn troi eu golygon at farchnadoedd newydd y Gwlff

Mae ymweliad datblygu masnach rhithwir diweddaraf Llywodraeth Cymru yn gobeithio adeiladu ar y buddsoddiad a wnaed eisoes yn rhanbarth y Dwyrain Canol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’n cynnwys nid un wlad ond pedair, Sawdi-Arabia, Kuwait, Oman a Bahrain.

Do Goodly Dips

Do Goodly Yn Gwneud Yn Dda – Cynhyrchydd Dipiau Yn Cyrraedd Yr Archfarchnadoedd

Dim ond blwyddyn ers lansio’u busnes, mae’r cynhyrchydd bwyd Cymreig sy’n seiliedig ar blanhigion, Do Goodly Dips, wedi sicrhau eu rhestriad cenedlaethol cyntaf gyda manwerthwr mawr.

Mae dipiau Do Goodly bellach ar gael mewn 60 o siopau Morrisons yng Nghymru a De Orllewin Lloegr, a ledled y wlad drwy’r archfarchnad ar-lein Ocado.

Maggie

Llyfr ryseitiau Ethnig Cymreig yn cael ei enwebu am wobr fawreddog

Er mai dim ond chwe mis yn ôl y cafodd ei ryddhau, mae'r llyfr ryseitiau o wahanol wledydd sy'n dathlu amrywiaeth bwyd yng nghymuned Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) Cymru, 'The Melting Pot' gan Maggie Ogunbanwo, wedi'i enwebu ar gyfer Gwobr fawreddog Gourmand World Cookbook yn y categori mudwyr ar gyfer 2022.

FSA

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi adnoddau newydd er mwyn cefnogi busnesau bwyd sy’n paratoi ar gyfer newidiadau labelu alergenau

Ar 1 Hydref 2021, bydd y gyfraith o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) yn newid. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw fusnesau bwyd sy’n gwerthu bwyd PPDS gynnwys rhestr gynhwysion lawn ar label y cynnyrch gyda chynhwysion alergenaidd wedi’u pwysleisio yn y rhestr honno.

Gwobr Aur

Blas ar lwyddiant: Caerdydd yn dathlu ar ôl ennill Gwobr Arian Lleoedd Bwyd Cynaliadwy

Dros yr haf, fe gyhoeddwyd bod Caerdydd wedi ennill gwobr Arian Lleodd Bwyd Cynaliadwy / Sustainable Food Places, y lle cyntaf yng Nghymru ac un o ddim ond chwe lle yn y DU i gyflawni'r gamp hon, gan gydnabod gwaith arloesol y ddinas wrth hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy.

Mae'r gwaith yng Nghaerdydd yn cael ei gydlynu gan Bwyd Caerdydd, partneriaeth fwyd y ddinas sy'n prysur dyfu ac sydd wedi esblygu i fod yn rhwydwaith deinamig, cryf a chynhwysol o ymgyrchwyr dros fwyd da. Mae Bwyd Caerdydd, sy'n cael ei letya gan Dîm Iechyd y Cyhoedd Caerdydd a'r Fro, bellach yn cynnwys 127 o unigolion ar draws 74 o sefydliadau ac mae ganddo fwrdd strategaeth sy'n cynnwys ystod o aelodau, gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Wrap Cymru, Riverside Real Food, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái a llu o sefydliadau eraill.

Horticulture 01

Arallgyfeirio i Arddwriaeth - Hydref 2021 

Ar ôl llwyddiant ei chyfres gychwynnol yng Ngwanwyn 2021, mae Tyfu Cymru yn cyflwyno'r Rhaglen Arallgyfeirio i Arddwriaeth am yr eildro. Bwriad y rhaglen yw cynnig cymorth i ffermwyr, sy'n ystyried arallgyfeirio i gynhyrchu planhigion a llysiau. Mae hefyd yn agored i dyfwyr a busnesau garddwriaeth cyfredol sy'n chwilio am gyfleoedd newydd neu'r rhai sy'n ystyried model busnes gwahanol. Gwyliwch y stori am sut y gwnaeth Vale PYO arallgyfeirio o amaethyddiaeth i arddwriaeth gyda chefnogaeth Tyfu Cymru yma. (Saesneg yn unig)

Bydd y rhaglen yn dechrau ddydd Mawrth 15 Tachwedd gyda sesiwn i ffermwyr a thyfwyr sy'n chwilio am dir i ddechrau neu ehangu menter garddwriaeth. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma. (Saesneg yn unig)

Bydd sesiynau pellach yn canolbwyntio ar fodelau busnes a llwybrau i'r farchnad a manteisio ar dwristiaeth garddwriaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Tyfu Cymru.

Horticulture 02

Pembrokeshire Chilli Farm: O dŷ gwyrdd bach i dros 2.5 tunnell o tsilis y flwyddyn

Mae Pembrokeshire Chilli Farm, sydd wedi'i lleoli ger Neyland, yn tyfu amrywiaeth eang o tsilis, er mwyn eu prosesu fel rhan o’u cynhyrchion eu hunain e.e. sawsiau ac ar gyfer cynhyrchwyr eraill.

Dechreuodd y busnes yn 2017 gydag Owen a Michelle Rosser yn tyfu tsilis mewn tŷ gwydr bach yn eu gardd gefn ond buan y sylweddolon nhw fod marchnad lawer mwy allan fan’na ac roedd angen iddyn nhw wella’u hymdrechion. Maen nhw bellach yn cynhyrchu dros 2.5 tunnell fetrig o tsilis y flwyddyn. Ar hyn o bryd mae ganddyn nhw gynlluniau i cynyddu allbwn cnydau a chynyddu eu hystod o gynhyrchion tsili gwerth ychwanegol.

Mae Pembrokeshire Chilli Farm wedi cael cymorth hyfforddi wedi'i ariannu 100% trwy Tyfu Cymru. Mae Owen Rosser yn siarad â ni am y gefnogaeth a gawsant a'r effaith y mae wedi'i chael ar eu busnes yma neu Gwyliwch Owen yn trafod y gefnogaeth gan Tyfu Cymru yma. (Saesneg yn unig)

NGT Food

National Geographic Traveller WALEScyntaf i unrhyw genedl o'r DU 

Mae ‘National Geographic Traveller Wales’ bellach yn cael eu ddosbarthu'n eang i'w gwerthu ledled y DU ac fel atodiad rhyngwladol mewn manwerthwyr, asiantau newyddion arbenigol a meysydd awyr. 

Digwyddiadau

BlasCymru/TasteWales - Bwyd a Diod i Genhedlaeth y Dyfodol

Blas Cymru

Y mis hwn bydd digwyddiad bwyd a diod ryngwladol fwyaf Cymru BlasCymru/TasteWales yn ôl, gan ddod â chynhyrchwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd ynghyd i arddangos cynnyrch o safon fyd-eang er mwyn agor cyfleoedd masnach newydd. Dyma un o’r cyfleoedd cyntaf yng nghalendr diwydiant bwyd Cymru i groesawu prynwyr yn ôl yn ddiogel a hynny yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd ar 27 a 28 Hydref 2021, i glywed am y datblygiadau diweddaraf yn niwydiant bwyd a diod Cymru.

Un o brif atyniadau’r digwyddiad yw’r gynhadledd, ‘Bwyd a Diod ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol’. Bydd arbenigwyr cynaliadwyedd a newid hinsawdd amlwg yn anelu i ysbrydoli cynrychiolwyr i weithredu yn eu sefydliadau a'u bywydau bob dydd i fynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil newid hinsawdd. Prif siaradwyr gwadd y gynhadledd yw’r ffermwr a chyflwynydd teledu adnabyddus, Adam Henson, a’r arbenigwr ar gynaliadwyedd ac ôl troed carbon, Mike Berners-Lee.

Archebwch eich tocyn heddiw!

BLASCYMRU / TASTEWALES 2021 – COVID SECURE ADMISSION POLICY – BlasCymru/TasteWales 2021  (Saesneg yn unig)

AMRC Cymru

AMRC Cymru yn cynnal Arddangosfa Ffatri Ddigidol ar 7fed Hydref

Mae Prifysgol Sheffield AMRC Cymru yn cynnal Arddangosfa Ffatri Ddigidol i arddangos ei cynnyrch newydd, Gweithrediad Cynnyrch Gwireddiad (GCG) wedi ei ariannu gan Aerospace Technology Group (ATI).

CIW HWW

Cymru Iach ar Waith: Digwyddiad Canmoliaeth COVID-19

#CymruIachArWaith

Mae’n bleser gan y rhaglen Cymru Iach ar Waith (HWW), a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, gyhoeddi eu rhith ddigwyddiad canmoliaeth Covid-19 i'w gynnal ar ddydd Mercher 8 Rhagfyr 2021. Bydd y digwyddiad yn dathlu cyflogwyr ar draws Cymru, sydd wedi arddangos arloesedd, creadigrwydd ac ymroddiad i lesiant eu staff mewn ymateb i'r pandemig COVID-19.

Bydd y digwyddiad yn lle ble gall busnesau ddysgu gan ei gilydd ac arddangos eu cyflawniadau yn ystod y cyfnod heriol hwn.  

Mae chwe chategori i ymgeisio amdanynt:

  • Menter Iechyd Meddwl Gorau
  • Menter Llesiant Corfforol Gorau
  • Ymateb Gorau Cwmni i Covid-19
  • Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol – cefnogi'r gymuned neu gwsmeriaid/defnyddwyr gwasanaeth
  • Cynaliadwyedd - Cymeradwyaeth Gweledydd ar gyfer Cynaliadwyedd
  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 

Mae’r porth ymgeisio wedi agor i dderbyn ceisiadau ysgrifenedig neu fideo.

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau: Dydd Gwener 15 Hydref 2021

Cyflwynwch eich cais nawr [https://bit.ly/3CjSKpi]

Gall unrhyw fusnes yng Nghymru gofrestru i fynychu'r rhith ddigwyddiad, a gynhelir o 10:00am ar ddydd Mercher 8 Rhagfyr i ddathlu llwyddiannau sefydliadau, dysgu o’u harferion arloesol a dulliau unigryw i ddelio â’r heriau a achoswyd gan Covid-19 ac i rwydweithio gyda chwmnïau eraill o bob rhan o Gymru. Cofrestrwch i fynychu nawr [https://bit.ly/3CjSKpi]

WRAP

Digwyddiad Rhithwir: YR ARWR CUDD: Sut y gellir darparu system fwyd Net Zero er budd pobl a'r blaned? (Saesneg yn unig)

Mae gwledydd eisoes yn paratoi ar gyfer Cynhadledd Newid yn yr Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig COP26 gyda thargedau uchelgeisiol ar gyfer lleihau allyriadau 2030 sy'n cyd-fynd â chyrraedd Net Zero erbyn canol y ganrif. Wrth i'r System Fwyd Fyd-eang gyfrannu tua 30% o'r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr, bydd newid y ffordd rydym yn tyfu, prosesu a bwyta bwyd yn elfen ganolog o ddarparu dyfodol Net Zero. 

WRAP

Gweminar: MYND I'R AFAEL Â'R BWLCH CYLLIDO GWASTRAFF BWYD: Ariannu atal gwastraff bwyd i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd (Saesneg yn unig)

Wedi'i gyd-gynnal gan Raglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig (UNEP), Partneriaethau P4G a WRAP, bydd y digwyddiad ar-lein hwn yn adeiladu ar adroddiad Mynegai Gwastraff Bwyd UNEP i ddangos bod gwastraff bwyd yn fater byd-eang.

Cardiff and Vale College

Coginio Proffesiynol (CDP)

Mae Diploma Lefel 4 yn canolbwyntio’n gryf ar safon a’r cymhlethdodau uwch sy’n ofynnol ar lefel uwch gogydd. Yn ogystal â’r pynciau coginio allweddol, mae’r cwricwlwm yn ymdrin â chynllunio a chyllidebu bwydlenni, diogelwch bwyd a sgiliau cegin broffesiynol eraill. Asesir yr unedau hyn trwy gyfrwng aseiniadau. Dylai dysgwyr sy’n astudio ar gyfer y Diploma Lefel 4 fod â rhywfaint o brofiad cogydd eisoes.

Cardiff and Vale College

Rheoli Lletygarwch (CPD)

Pwrpas uwch gymwysterau BTEC mewn Rheoli Lletygarwch yw datblygu myfyrwyr fel unigolion proffesiynol, hunan-adlewyrchol sy’n gallu cwrdd â gofynion cyflogwyr mewn Rheolaeth Lletygarwch ac addasu i fyd sy’n newid o hyd. Nod y cymwysterau yw ehangu mynediad i addysg uwch a gwella rhagolygon gyrfa’r rhai sy’n ymgymryd â hwy.

 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN


E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@BwydaDiodCymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

Bwyd_a_Diod_Cymru

 

Dilynwch ni ar Facebook:

@bwydadiodcymru