|
|
Model yr Economi Gylchol Ar Waith
Mae Techlan, gyda chymorth ac arian clyfar, wedi mabwysiadu model yr economi gylchol trwy ailgylchu’r gwastraff a ddaw trwy ei broses gynhyrchu. Gwyliwch sut y mae wedi datblygu technolegau cynhyrchu gwyrdd, hawdd eu hehangu
|
Llwyddiant i dair partneriaeth o Gymru
Mae Biocatalysts Ltd gyda Choleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Metropolitan Caerdydd mewn partneriaeth â So Modular a Chymdeithas Blant Dewi Sant ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd wedi cyrraedd rownd derfynol gwobrau’r Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP). Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cyfraniad o 75% i fusnesau cymwys mewn Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth. Darllenwch am wneud cais yma
|
|
|
|
|
COP Cymru
Mae Llywodraeth Cymru’n trefnu rhaglen o ddigwyddiadau ‘COP Cymru’, gan gynnwys lansio cynllun Sero-Net newydd Cymru, parthau gwyrdd rhanbarthol a digwyddiadau ‘Wythnos Hinsawdd Cymru’.
Gweithredwch nawr a gwnewch adduned dros yr hinsawdd yma
|
Hwyluso Eiddo Deallusol
Sut gall Eiddo Deallusol helpu’ch busnes i dyfu?
Mae’r swyddfa Eiddo Deallusol wedi creu cyfres o fideos byr i’ch helpu i ddeall yr hanfodion. Cliciwch i wylio.
Troi Llinell 5 Metro Hanoi yn ddigidol, Fiet-nam:
Dyma gyfle fel rhan o fenter SBRI i gystadlu am gyfran o £300,000 i gynnal astudiaeth o ymarferoldeb troi metro Hanoi yn Fiet-nam yn ddigidol.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth
CRISP 21- Gweminar am Ddylunio ar gyfer Heneiddio
29 Medi 2021, 10:00 – 11:00
Mae Llywodraeth Cymru ar y cyd â KTN ac Innovate UK yn cynnal sesiwn briffio cyn y Gystadleuaeth Dylunio ar gyfer Heneiddio. Mae’n gystadleuaeth am gyllid ar gyfer y prosiect ‘arloesi ar gyfer heneiddio’ gorau.
I ddysgu mwy a chael cyfle i holi cwestiynau, cofrestrwch yma
Sioe Diwydiant Meddygaeth Fanwl Arbenigedd SMART
29 Medi 2021, 13:00-15:30
Cofrestrwch ar gyfer Sioe Diwydiant Meddygaeth Fanwl Arbenigedd SMART i ddysgu am fanteision, heriau a chyfleoedd cymryd rhan mewn partneriaethau academaidd mawr â diwydiant.
Cofrestrwch yma
Cynhadledd Ranbarthol Menter Vanguard
06 Hydref 2021, 09:30 – 11:30
Mae Menter Vanguard yn dod â thros 30 o ranbarthau Ewropeaidd ynghyd sydd wedi ymrwymo i gydweithio â’i gilydd, yn unol â’u strategaethau Arbenigo Clyfar.
Mae’r digwyddiad yn croesawu’r holl ranbarthau sy’n perthyn i Fenter Vanguard. Croesewir hefyd lunwyr polisïau a rhanddeiliaid o bob cwr o Ewrop, gan gynnwys cynrychiolwyr cwmnïau, clystyrau a’r byd academaidd sy’n gysylltiedig ag arloesi, ymchwilio ac arbenigo clyfar.
Bwciwch yma
Cynhadledd COP26
31 Hydref - 12 Tachwedd 2021
Y DU sy’n cynnal 26ain Gynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd yn Glasgow.
Dysgwch fwy yma
|