Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN: Cofrestru ar agor - Diweddariad ar farchnata gan Croeso Cymru (sesiwn ar-lein) 23 Medi 2021; Cyfle ar gyfer atyniadau - ymgyrch Diwrnod Allan y Loteri Genedlaethol; Y Diwrnod Lletygarwch Cenedlaethol 18 Medi 2021; Dyddiadau newydd ar gyfer gweminarau i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i fynd yn ddigidol; Yn dechrau’r wythnos nesaf: Hyfforddiant ar gyfer Llysgenhadon Gwastatiroedd Gwent – Pecyn Cymorth Ymdeimlad o Le; Ffair Aeaf Cymru 2021; Cynllun cerdded cynhwysol yn ceisio mynd i’r afael ag unigrwydd drwy hybu pobl i symud; Cymorth i helpu i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn dilyn y pandemig; Wythnos Ailgylchu 2021; Diweddariadau a chyngor ar goronafeirws gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch; Newidiadau treth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.
Cofrestru ar agor: Diweddariad ar farchnata gan Croeso Cymru (sesiwn ar-lein) – 23 Medi 2021
Efallai eich bod wedi gweld y neges "Cadwch y dyddiad" ar gyfer yr uchod yn ein cylchlythyrau diweddar – mae cofrestru bellach ar agor.
Yn dilyn gweminar Cadw'n Ddiogel yn y diwydiant awyr agored a gynhaliwyd yr haf hwn, mae Croeso Cymru yn falch o gynnal sesiwn ar-lein arall ar 23 Medi am 2:00 pm tan 3:00 pm. Byddwn yn siarad am gyfeiriad ein gwaith marchnata yn yr hydref/gaeaf, pwysigrwydd dewis y cynnwys cywir a'r negeseuon cyfrifol, a hefyd yn rhoi trosolwg o gynulleidfaoedd sy'n cael eu targedu. Bydd busnesau'n cael cyfle i godi cwestiynau drwy'r cyfleuster bar sgwrsio ar Teams yn ystod sesiwn Holi ac Ateb fer. Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar Microsoft Teams.
I ymuno â ni, archebwch eich lle erbyn 2pm, dydd Mercher 22 Medi. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin a bydd pawb sy'n bresennol yn derbyn cyswllt ymuno ar fore'r digwyddiad.
Cyfle ar gyfer atyniadau - ymgyrch Diwrnod Allan y Loteri Genedlaethol
Mae Visit Britain yn cydlynu ymgyrch newydd (ar ran Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon). Mae ymgyrch Diwrnodau Allan y Loteri Genedlaethol yn benodol i atyniadau ac os ar gronfa ddata Barod Amdani, dylai eich busnes fod eisoes wedi derbyn e-bost yn rhoi rhagor o wybodaeth a'r cyfle i optio i mewn i'r gweithgaredd.
Mae rhagor o wybodaeth am y fenter ar gael ar y ddolen hon: Join the National Lottery Days Out campaign | VisitBritain. Mae Cwestiynau Cyffredin yr Ymgyrch yn cynnwys y broses o ymuno â'r ymgyrch a'r llwyfan sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r cynllun talebau. Ar ôl darllen yr uchod, os ydych yn dymuno cymryd rhan, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw mynegi diddordeb drwy e-bostio daysoutcampaign@visitbritain.org.
I grynhoi, gall unrhyw atyniad yng Nghymru sydd â thâl mynediad wneud cais i gymryd rhan ond bydd angen:
- Gallu archebu ar-lein (neu fod yn awyddus i wneud)
- Bod ar gael yn ystod cyfnod yr ymgyrch o fis Hydref i ddechrau 2022
- Cytuno i delerau ac amodau TXGB a VisitBritainShop
- Cael eich cofrestru i safon diwydiant COVID-19 'Barod Amdani'
Mae'r elfen TXGB yn golygu bod atyniadau a phrofiadau o Gymru yn cael y cyfle i dreialu platfform TXGB tra bod Croeso Cymru yn edrych ar fynediad trwyddedu i bob busnes (mae VisitBritain yn gwneud eithriad ar gyfer atyniadau drwy gydol yr ymgyrch hon yn unig).
Y Diwrnod Lletygarwch Cenedlaethol – 18 Medi 2021
Mae’r Diwrnod Lletygarwch Cenedlaethol yn dathlu bwytai, gwestai, tafarnau a bariau rhagorol a phenderfynol, a’r cyflenwyr sy’n eu cefnogi. Ewch i wefan Busnes Cymru i weld sut y gallwch gymryd rhan.
Dyddiadau newydd ar gyfer gweminarau i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i fynd yn ddigidol
Mae Cylfymu Cymru i Fusnesau wedi ychwanegu dyddiadau newydd at eu cyfres gweminarau Twristiaeth a Lletygarwch.
Bydd Cyflymu Cymru i Fusnesau yn dangos i chi sut i osod eich busnes ar wahân ar-lein, ymgysylltu â chwsmeriaid newydd, manteisio ar adolygiadau, yn ogystal â defnyddio offer digidol megis platfformau archebu ar-lein i redeg eich busnes yn llwyddiannus.
- 6 Hydref 2021 (1pm – 3pm) - Rhan 1: Y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y maes twristiaeth a lletygarwch
- 7 Hydref 2021 (1pm – 3pm) - Rhan 2: rhedeg eich busnes twristiaeth a lletygarwch ar-lein
Cofrestrwch ar gyfer y gweminarau yma a darganfod mwy am gefnogaeth un i un am ddim.
Yn dechrau’r wythnos nesaf: Hyfforddiant ar gyfer Llysgenhadon Gwastatiroedd Gwent – Pecyn Cymorth Ymdeimlad o Le
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf mae Partneriaeth Lefelau Byw wedi bod yn gweithio ar amrywiaeth enfawr o brosiectau i adfer a dathlu tirwedd Gwastatiroedd Gwent. Fel gwaddol ar gyfer rhaglen Lefelau Byw, ac i helpu sefydliadau i ffynnu yn dilyn COVID, mae Partneriaeth Lefelau Byw yn cynnig digwyddiadau hyfforddi yn rhad ac am ddim ym mis Medi a mis Hydref i arddangos Pecyn Cymorth Ymdeimlad o Le newydd ar gyfer Gwastatiroedd Gwent, ac i ddangos y ffordd orau o’i ddefnyddio gyda’ch staff, eich gwirfoddolwyr a’ch ymwelwyr. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn derbyn copi caled o’r pecyn cymorth.
Mae’r pecyn cymorth yn darparu gwybodaeth, awgrymiadau, delweddau a dolenni i helpu’r rhai sy’n byw ac yn gweithio yng Ngwastatiroedd Gwent a’r rheini sy’n ymweld â nhw i fanteisio i’r eithaf ar y dirwedd, ei threftadaeth a’r gymuned. Mae’n dod â phopeth sydd wedi cael ei ddatblygu, ei gynhyrchu a’i osod fel rhan o Bartneriaeth Lefelau Byw ynghyd.
I weld manylion digwyddiadau hyfforddi, ac i gael mynediad at y pecynnau cymorth digidol, ewch i wefan Partneriaeth Lefelau Byw.
E-bostiwch Ed Drewitt, arweinydd y prosiect, i gael rhagor o wybodaeth. Bydd esboniad wedi’i recordio a chanllaw ar y pecyn cymorth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os hoffech wrando ar y recordiad Cymraeg cysylltwch ag Ed Drewitt.
Ffair Aeaf Cymru 2021
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (RWAS) wedi cyhoeddi y bydd y Ffair Aeaf yn dychwelyd i Faes y Sioe Llanelwedd eleni fel digwyddiad deuddydd ar 29 a 30 Tachwedd 2021. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Cynllun cerdded cynhwysol yn ceisio mynd i’r afael ag unigrwydd drwy hybu pobl i symud
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Parciau Cenedlaethol wedi bod ar flaen y gad fel esiamplau o les, gan gynnig cyfle i bobl ailgysylltu â byd natur a’i gilydd. Mae cynllun peilot newydd a gaiff ei gynnal gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ceisio adeiladu ar hyn, a manteisio ar arbenigedd lleol i ddatblygu prosiect cerdded cwbl gynhwysol.
Nod y prosiect fydd cefnogi’r rheini sydd mewn perygl o gael eu hynysu a rhoi sgiliau a hyder i bobl o bob gallu fwynhau tirwedd ysblennydd y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys pobl sy’n defnyddio cadeiriau olwyn. Mae wedi dechrau drwy dreialu cyfres o deithiau cerdded yn ystod misoedd yr hydref.
Mae Awdurdod y Parc nawr yn galw ar unigolion, defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i gymryd rhan a helpu i lywio’r rhaglen newydd.
Cynhaliwyd y daith gerdded gyntaf ar ddydd Mercher 8 Medi, ac mae eraill ar y gweill ar gyfer dydd Mercher 13 Hydref a dydd Mercher 10 Tachwedd. Dylai unrhyw unigolion neu sefydliadau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect hwn ymweld â gwefan Parc Cenedlaethol Sir Benfro.
I gael rhagor o wybodaeth am deithiau cerdded, traethau a golygfannau hygyrch ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i Mynediad i Bawb - Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Cymorth i helpu i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn dilyn y pandemig
Bydd £2.4m o gyllid adfer yn sgil Covid yn cael ei roi ar gyfer gwaith i gefnogi sgiliau Cymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg, er mwyn helpu i gadw Cymru ar ei llwybr i ddyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050. Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Wythnos Ailgylchu 2021
Cynhelir Wythnos Ailgylchu rhwng 20 a 26 Medi 2021, a dyma’r ymgyrch ailgylchu flynyddol genedlaethol fwyaf, nawr yn ei ddeunawfed flwyddyn!
Mae gan ailgylchu rôl hanfodol wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd. Defnyddir 95% yn llai o ynni i wneud cynhyrchion o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu na defnyddio deunyddiau crai. Mae’n rhywbeth syml y gall pawb ei wneud i wneud gwahaniaeth go iawn. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.
Diweddariadau a chyngor ar goronafeirws gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi ystod o ganllawiau a chyngor, i helpu i wneud eich gweithle yn lle mwy diogel. Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.
Newidiadau treth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cynyddu o 1.25% am flwyddyn yn unig i weithwyr, cyflogwyr a’r hunangyflogedig o fis Ebrill 2022.
Bydd hyn yn berthnasol i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (gweithwyr a chyflogwyr), Dosbarth 1A a 1B a Dosbarth 4 (hunangyflogedig). Ni fydd pobl hŷn nag Oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael eu heffeithio gan newidiadau mis Ebrill 2022. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|