Dathlu Llwyddiant Datblygu Gwledig - Rhifyn 02 Sector Bwyd a Diod Cymru

Rhannu Llwyddiant - Rhifyn 02 Sector Bwyd a Diod Cymru

 
 

Croeso i ail rifyn ein cylchlythyr 'Dathlu Datblygu Gwledig'.

Mae'r cylchlythyr hwn yn edrych yn ôl ar rai o lwyddiannau'r rhaglen dros y blynyddoedd ac yn dathlu'r gwahaniaeth y mae'r cyllid wedi'i wneud i fusnesau gwledig, cymunedau gwledig a'r economi wledig yng Nghymru.

Rydym yn canolbwyntio ar gynllun gwahanol bob mis a'r mis hwn rydym yn edrych ar y cyfleoedd y mae'r Rhaglen Datblygu Gwledig wedi'u cynnig i Sector Bwyd a Diod Cymru.

Rydym yn croesawu astudiaethau achos a straeon ar gyfer cyhoeddiadau yn y dyfodol. Anfonwch e-bost at ruralnetwork@gov.cymru gydag unrhyw gyfraniadau.

desserts

Cynlluniau Cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig

Mae llawer o wahanol Gynlluniau a Phrosiectau'r Cynllun Datblygu Gwledig sydd wedi cefnogi'r sector, wedi helpu cwmnïau a sefydliadau i dyfu ac arallgyfeirio, wedi rhoi llwyfan i gynhyrchion a chwmnïau newydd i ddatblygu ac wedi darparu cyfleoedd heb eu hail i hyrwyddo cynnyrch.

  • Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd – Yn canolbwyntio ar wella cynhyrchiant busnesau a'r gadwyn gyflenwi, cydnerthedd busnes a rheoli risg drwy fuddsoddi sydd wedi'i dargedu mewn pobl a thechnoleg.
  • Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig - Bwyd - Cymorth ariannol i broseswyr a gweithgynhyrchwyr bwyd a diod bach.
  • CSDS – (Twristiaeth Bwyd) – Yn anelu at roi hwb i economi bwyd ac ymwelwyr Cymru drwy annog cydweithredu rhwng gweithredwyr ym maes ffermio, bwyd a thwristiaeth a thrwy gefnogi unigolion o fewn y sector lletygarwch a gwasanaeth bwyd.
  • Cynllun Trosglwyddo Gwybodaeth ac Arloesi -

Straeon Llwyddiant o fewn y Sector ac Astudiaethau Achos

curry

Cynllun manwerthu newydd i helpu busnesau i efelychu llwyddiant Authentic Curries a World Foods

Derbyniodd yr Authentic Curry Company (ACC) Gyllid Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd i ehangu'r cyfleusterau cynhyrchu.

Yn dilyn yr ehangu, llwyddodd ACC i drefnu bod eu cynnyrch yn cael eu gwerthu yn siopau Tesco, Morrisons, Asda, Co-op a Sainsbury ledled Cymru.

Ym mis Gorffennaf, ymwelodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd Lesley Griffiths ag ACC fel rhan o'r cyhoeddiad am Gynllun Manwerthu Bwyd a Diod newydd Llywodraeth Cymru.

honey

Llwyddiant ar gyfer Cynhyrchwr Mêl yng Ngwobrau Dewi Sant

Trwy’r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd roedd cwmni Hilltop Honey wedi gallu prynu adeilad ac offer at ddibenion ehangu.

Yn dilyn yr ehangu, llwyddodd Hilltop Honey i ychwanegu at ei restr o leoliadau manwerthu, ac mae bellach yn cyflenwi Asda, Sainsbury's, Morrisons a Tesco.

Sefydlodd Scott Hilltop Honey fel 'hobi' yn 2011 yng ngardd gefn tŷ ei rieni yng Nghanolbarth Cymru ac yn 2019 gwnaeth ei 'hobi' dalu ar ei ganfed pan enillodd Wobr Menter yng Ngwobrau Dewi Sant.

Hilltop Honey, Ein Taith Hyd yma (Saesneg yn Unig)

cheese

Cywain - busnesau'n cydweithio er elw

Bydd y prosiect hwn yn cynnig darpariaeth ddi-dor ar gyfer busnesau bwyd a diod sy'n canolbwyntio ar dwf, gan ddwyn ynghyd ac adeiladu ar lwyddiannau rhaglen bresennol Cywain a'r peilot Clystyrau Bwyd a Diod Da.

O ddefnyddio peiriant godro i’r peiriant gwerthu - Mae peiriannau gwerthu llaeth hunan-wasanaeth yn dod yn fwy poblogaidd, a gyda chymorth Cywain, mae nifer o ffermydd llaeth yng Nghymru yn dewis defnyddio’r dechnoleg - gan ddarparu agwedd fodern ar werthiannau cynnyrch fferm traddodiadol.

Map Cywain yn cyfeirio siopwyr at fwyd a diod o Gymru - Mae adnodd newydd wedi cael ei lansio gan Cywain i helpu siopwyr sydd wedi’u cyfyngu gan bandemig y coronafeirws i gael mynediad at fwyd a diod gwych o Gymru drwy glicio botwm.

Cymorth gan Cywain i’r gwyliau bwyd a diod ar-lein - Pan roedd pandemig y Coronafeirws ar ei waethaf yn 2020, a phan nad oedd modd cynnal y digwyddiadau bwyd traddodiadol, cynigiodd Cywain ddigwyddiadau bwyd amgen – rhai 'rhithwir'.

cemtres

Prosiect HELIX

Bydd Prosiect HELIX yn ceisio datblygu a darparu gweithgarwch trosglwyddo gwybodaeth sy'n canolbwyntio ar arloesi, strategaeth fwyd ac effeithlonrwydd a fydd yn cynyddu cynhyrchiant ac yn lleihau gwastraff yn y gadwyn fwyd.

Bydd y prosiect hwn yn rhan o ddarpariaeth Arloesi Bwyd Cymru sy'n hyrwyddo darpariaeth Cymru gyfan.

Bydd Prosiect HELIX yn casglu gwybodaeth am bob cwr o'r byd ac yn trosglwyddo'r wybodaeth i gwmnïau Cymreig.

Bydd Prosiect HELIX yn cael effaith sylweddol ar greu swyddi, cadw swyddi, lleihau gwastraff, a datblygu busnes newydd.

Mae 3 Canolfannau Bwyd yn rhan o Brosiect Helix -

Mae Canolfan y Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd - yn darparu cefnogaeth dechnegol, weithredol a masnachol i fusnesau bwyd er mwyn eu galluogi i gystadlu'n fwy effeithiol.

Mae Canolfan Bwyd Cymru - yn ganolfan technoleg bwyd bwrpasol sy’n cynnig cyngor, gwasanaethau technegol a hyfforddiant i fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig a chynhyrchwyr bwyd sydd eisoes ar waith.

Mae'r Ganolfan Technoleg Bwyd Llangefni - yn cymryd rhan weithredol mewn nifer o brosiectau sy'n cefnogi'r diwydiant cynhyrchu bwyd a diod.

skills

Sgiliau Bwyd Cymru

Mae rhaglen Sgiliau Bwyd Cymru, a gyflenwir gan Lantra, yn cefnogi busnesau yn niwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod o Gymru i sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau a’r hyfforddiant priodol ar gyfer eu busnes a’r diwydiant ehangach yn gyff.

Gan weithio ar draws holl sectorau diwydiant bwyd a diod Cymru, mae’n ceisio paratoi gweithwyr ledled Cymru i addasu i heriau economaidd ac amgylcheddol i’r dyfodol a’u galluogi i fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu a thyfu eu busnesau.

Cwrs Bragu Brewlab - Gan weithio gydag un o’n darparwyr hyfforddiant, BrewLab, un o brif ddarparwyr cyrsiau bragu’r DU, fe wnaethom gefnogi diwrnod o hyfforddiant i rai o fragdai Cymru yn ddiweddar. Gweld sut aeth hi!

Mae straeon eraill yn cynnwys: Dyfi Distillery; FlawsomeCapestone Organic Poultry Ltd

Dysgwch ychydig am y prosiect yma.  (Saesneg yn Unig)

 
 
 

Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@llyw.cymru

Rhagor o wybodaeth ar y we:

businesswales.gov.wales/walesruralnetwork/cy

Dilyn ar-lein: