Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN: Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth ar traveltrade.visitwales.com a meetinwales.com; Diogelu Cymru, gyda’n gilydd; Cyfle ar gyfer atyniadau - ymgyrch Diwrnod Allan y Loteri Genedlaethol; Gweminar: Canlyniadau Arolwg Tracio Defnyddwyr Rhyngwladol – Cam 3; Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 y DU; Digwyddiad Digidol Sut i Gau’r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau; Gweminarau CThEM – egluro tâl statudol; Rhowch hwb i’ch busnes trwy ennill £25,000!; Apêl i Gwmnïau’r Gogledd gyfrannu Cit TG nad ydynt eu hangen; Gwobrau Dewi Sant 2022
Cronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth ar traveltrade.visitwales.com a meetinwales.com
Os oes gennych restriad i Ymwelwyr ar gyfer eich busnes ar y Gronfa Ddata Cynnyrch Twristiaeth, mae gennych hefyd yr opsiwn i gael cofnod pwrpasol ar gyfer y canlynol:
-
Y Diwydiant Teithio (cwmnïau bysiau a theithio, asiantau teithio ac ati) sy’n chwiliadwy ar traveltrade.visitwales.com
-
Digwyddiadau Busnes (cyfarfodydd, cynadleddau, cymhellion a chynllunwyr digwyddiadau ac ati) ar meetinwales.com
I gael awgrymiadau defnyddiol ar sut i gael y budd mwyaf o’ch rhestriad a sicrhau ei fod yn addas i’r gynulleidfa, lawrlwythwch ein canllawiau newydd i’r diwydiant ’Cynghorion ar sut i greu cofnod da’.
Diogelu Cymru, gyda’n gilydd
Rydym wedi lansio’r cam diweddara yn ymgyrch Diogelu Cymru, sef ‘Gyda’n Gilydd’.
Yr anogaeth yn yr hysbysebion newydd yw:
- Cer am frechiad.
- Dal ati
- I helpu pawb.
Fel y gallwn ni “Ddiogelu Cymru, gyda’n gilydd”. Mae’r hysbyseb teledu i’w gweld yma.
Mae copïau o'r hysbysebion teledu, radio a chyfryngau cymdeithasol a chopi enghreifftiol ar gael i'w lawrlwytho a'u defnyddio ar eich sianeli yma.
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor am leihau eich risg o ddal a lledaenu’r feirws, ewch i Llyw.cymru.
Cyfle ar gyfer atyniadau - ymgyrch Diwrnod Allan y Loteri Genedlaethol
Mae Visit Britain yn cydlynu ymgyrch newydd (ar ran Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon). Mae ymgyrch Diwrnodau Allan y Loteri Genedlaethol yn benodol i atyniadau ac os ar gronfa ddata Barod Amdani, dylai eich busnes fod eisoes wedi derbyn e-bost yn rhoi rhagor o wybodaeth a'r cyfle i optio i mewn i'r gweithgaredd.
Mae rhagor o wybodaeth am y fenter ar gael ar y ddolen hon: Join the National Lottery Days Out campaign | VisitBritain. Mae Cwestiynau Cyffredin yr Ymgyrch yn cynnwys y broses o ymuno â'r ymgyrch a'r llwyfan sy'n cael ei ddefnyddio i ddarparu'r cynllun talebau. Ar ôl darllen yr uchod, os ydych yn dymuno cymryd rhan, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw mynegi diddordeb drwy e-bostio daysoutcampaign@visitbritain.org
I grynhoi, gall unrhyw atyniad yng Nghymru sydd â thâl mynediad wneud cais i gymryd rhan ond bydd angen:
- Gallu archebu ar-lein (neu fod yn awyddus i wneud)
- Bod ar gael yn ystod cyfnod yr ymgyrch o fis Hydref i ddechrau 2022
- Cytuno i delerau ac amodau TXGB a VisitBritainShop
- Cael eich cofrestru i safon diwydiant COVID-19 'Barod Amdani'
Gweminar: Canlyniadau Arolwg Tracio Defnyddwyr Rhyngwladol – Cam 3
Ymunwch â ni ddydd Mercher 13 Hydref 11.00am-12.30pm ar gyfer sesiwn yn adolygu'r data diweddaraf ar deimladau defnyddwyr rhyngwladol o'r arolwg tracio defnyddwyr rhyngwladol a gynhaliwyd gan Visit Britain a Croeso Cymru ym mis Awst a mis Medi. Bydd y sesiwn hon yn rhoi cipolwg i chi gan ganolbwyntio ar farchnadoedd ac adferiad mewnol, mae cofrestru bellach ar agor drwy wefan VisitBritain.
Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 y DU
Mae'r adroddiad diweddaraf ar deimladau defnyddwyr a bwriadau teithiau gan farchnad y DU ar gael ar wefan VisitBritain gan adrodd ar waith maes a wnaed rhwng 23 a 27 Awst yn arwain at benwythnos gŵyl y banc ym mis Awst. Mae'r canlyniadau'n dangos bod 22% o oedolion y DU yn bwriadu mynd ar daith dros nos yr Hydref hwn, ac mae 1 o bob 10 ohonynt yn bwriadu ymweld â Chymru. Nid yw'r rhan fwyaf o fwriadau teithiau'r hydref wedi cynllunio nac archebu eu taith eto, a bu newid nodedig yn y galw tuag at ymweld â 'dinas neu dref fawr'.
Digwyddiad Digidol Sut i Gau’r Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau
Mae’r dyddiad cau estynedig ar gyfer adrodd am ddata Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau yn prysur agosáu, gyda phob cwmni sydd â dros 250 o weithwyr yn gorfod adrodd ar eu data erbyn 4 Hydref 2021.
Cynhelir y digwyddiad digidol hwn rhwng 1pm a 2pm ar 13 Medi 2021, ac mae’n rhoi cyfle i glywed yn uniongyrchol gan arweinwyr busnes am fanteision cynllunio gweithredu ar gyfer y bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Ewch i wefan Busnes Cymru am ragor o fanylion.
Gweminarau CThEM – egluro tâl statudol
Os yw gweithiwr yn dod yn rhiant neu’n cael ei daro’n wael, ydych chi’n gwybod i ba daliadau mae ganddo/ganddi hawl?
Dysgwch fwy drwy ymuno yn y gweminarau byw canlynol. Gallwch ofyn cwestiynau drwy ddefnyddio’r bocs testun ar y sgrin.
Tâl Mamolaeth a Thadolaeth Statudol: Mae’r weminar hon yn rhoi sylw i’r amodau y mae’n rhaid i’ch gweithiwr eu bodloni, i faint mae ganddo/ganddi hawl, adhawlio rhywfaint neu’r cyfan o’r hyn rydych chi’n ei dalu a chadw cofnodion. Cofrestrwch yma
Tâl Salwch Statudol: Bydd yn edrych ar bwy sy’n gymwys, sut i gyfrifo Tâl Salwch Statudol a phryd y dylid ei dalu. Bydd y weminar hefyd yn trafod beth yw diwrnodau cymhwyso a chyfnodau cysylltu ac yn tynnu sylw at y gwahaniaethau pan fo gweithwyr yn sâl neu’n hunanynysu yn sgil y coronafeirws. Cofrestrwch yma
Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.
Rhowch hwb i’ch busnes trwy ennill £25,000!
Mae Simply Business yn rhoi £25,000 i un entrepreneur lwcus i gychwyn, datblygu neu adfywio busnes bach. I gymryd rhan, mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen ar-lein yn nodi pam rydych chi’n meddwl eich bod yn haeddu’r grant. Y dyddiad cau yw 17 Medi 2021. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru.
Apêl i Gwmnïau’r Gogledd gyfrannu Cit TG nad ydynt eu hangen
Menter gymdeithasol nid-er-elw (a elwir yn Gwmni Buddiannau Cymunedol hefyd) yw North Wales Digital Drive a dyma’r unig ganolfan driniaeth o’i math yn y Gogledd.
Mae’n cynnig gwasanaethau ailgylchu, ailddefnyddio a gwaredu diogel a phroffesiynol ar gyfer pob math o gyfarpar TG.
Mae’r fenter gymdeithasol wedi darparu cyfarpar i sefydliadau ledled y Gogledd ac mae angen mwy o fusnesau a chyrff sector cyhoeddus i’w helpu fel y gallan nhw ymateb yn brydlon i’r galw.
Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.
Gwobrau Dewi Sant 2022
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl o Gymru a thu hwnt. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw 21 Hydref 2021.
Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|