![Cyfarfod gydag aelodau yn eistedd wrth fwrdd pren – mae'r aelodau'n dal offer ysgrifennu](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKWALES_CY/2021/08/4865823/3702994/iacw-board-photo-2_crop.jpg) |
|
Mae Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi yn chwilio am aelodau newydd
Ydych chi am helpu i lunio polisi arloesi ledled Cymru? Mae Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi yn chwilio am aelodau newydd. I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma
|
Cyllid a chymorth SMART yn helpu i ddatgarboneiddio ffermydd gwynt
Os ydych chi'n ystyried sut y gall eich busnes leihau ei allbwn carbon, gall Arloesedd SMART Llywodraeth Cymru helpu.
Gwyliwch sut rydym eisoes wedi cefnogi busnesau fel Offshore Survival Systems i ddechrau eu taith datgarboneiddio.
Dysgwch ragor am sut y gallwn gefnogi eich busnes yma
|
|
![Llong oren yn cael ei lansio i'r môr – mae’r safle lansio i'w weld yn rhannol yn y cefndir](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKWALES_CY/2021/08/4865840/3702995/offshore-survival-4_crop.png) |
![Rhifyn 97 o Advances – clawr yn dangos llun o fwced o wystrys gyda thestun](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKWALES_CY/2021/08/4865932/3702996/welsh-thumbnail-2_crop.jpg) |
|
Advances Wales Rhifyn 97 ar gael nawr
Mae'r rhifyn hwn o Advances Wales yn trafod Wystrys Brodorol yn dychwelyd i Afon Conwy, canlyniadau astudiaeth gysgu a allai fod yn allweddol i drin anhwylderau gorbryder a datblygu drôn i fynd i'r afael â chwyn mewn amaethyddiaeth.
Darllen yma.
|
Gwobrau Dewi Sant
Mae angen eich help arnom i ddod o hyd i enillwyr nesaf Gwobrau Dewi Sant, sef gwobrau cenedlaethol Cymru.
Dyma'ch cyfle i gydnabod y bobl eithriadol sy'n gwneud Cymru'n wych! Mae enwebiadau ar gyfer y Gwobrau sy'n cynnwys categori Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cau ar 21 Hydref.
I enwebu rhywun, cliciwch yma
|
|
![Llun agos a dynnwyd ar ongl yn dangos casgliad o Wobrau Dewi Sant](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKWALES_CY/2021/08/4865936/3702997/st-david-award-2_crop.jpg) |
Datblygu Strategaeth Arloesi Newydd
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddatblygu ei Strategaeth Arloesi newydd a byddwn yn cynnal rhagor o ddigwyddiadau i randdeiliaid yn ystod tymor yr hydref. Gwyliwch y gofod hwn.
I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma neu cofrestrwch eich diddordeb drwy e-bostio: InnovationStrategy@llyw.cymru
COP26
31 Hydref -12 Tachwedd 2021
Bydd y DU yn cynnal 26ain Cynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd yn Glasgow. I gyd-fynd â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn cydlynu rhaglen ‘COP Cymru’ i ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru ynghylch sut y gallwn fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Bydd hyn yn cynnwys lansio cynllun newydd Sero-Net Cymru, cyfres o Barthau Gwyrdd rhanbarthol, a rhaglen rithwir 5 diwrnod o ddigwyddiadau ar gyfer ‘Wythnos Hinsawdd Cymru’.
I ddatgan diddordeb mewn cynnal digwyddiad neu gymryd rhan mewn digwyddiad, anfonwch e-bost at Decarbonisationmailbox@llyw.cymru.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am COP 26
Diwrnod arddangos Lab gan Trafnidiaeth Cymru
3 Medi 2021- 13:30- 15:30
Eisiau gweld arddangosfa o'r atebion arloesol diweddaraf sy’n cael eu datblygu er mwyn ymateb i heriau'r byd go iawn sy'n wynebu Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd?
Cofrestrwch yma i wylio'r chwe busnes newydd yn cyflwyno eu syniadau arloesol
Cyfarfod Cymorth Cyllid Arloesi
21 Medi 2021- 10:00 – 17:00
Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd ag Innovate UK, The Knowledge Transfer Network ac Innovate UK Edge (Enterprise Europe Network), yn cynnal cyfarfod i helpu cwmnïau yng Nghymru i baratoi eu hunain
yn well i:-
- Gael gafael ar gyllid ymchwil a datblygu
- Cynnal Prosiectau Ymchwil a Datblygu mwy effeithiol
- Masnacheiddio'r canlyniadau
Cofrestrwch yma
Digwyddiad Rhithwir Vanguard
6 Hydref 2021 – 09:30 BST / 10:30 CEST
Mae Menter Vanguard yn dwyn ynghyd dros 30 o ranbarthau Ewropeaidd sydd wedi ymrwymo i gydweithio rhwng rhanbarthau, gyda ffocws ar eu Strategaethau Arbenigo Clyfar.
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i holl ranbarthau aelodau Menter Vanguard. Rydym hefyd croesawu llunwyr polisi a rhanddeiliaid i gymryd rhan ar draws Ewrop, gan gynnwys cynrychiolwyr o gwmnïau, clystyrau a’r byd academaidd sy'n ymwneud ag arloesi, ymchwil ac arbenigo clyfar.
Archebwch eich lle yma
|