Dim newid i reolau Covid yng Nghymru
Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford yn annog pobl yng Nghymru i gael eu brechu a pharhau i gymryd y camau, sy’n gyfarwydd iawn i ni bellach, er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn achosion o’r coronafeirws.
Daw hyn wrth iddo gadarnhau na fydd newidiadau sylweddol i’r rheolau Covid yn ystod y cylch diweddaraf hwn o 21 diwrnod.
Dair wythnos yn ôl, symudodd Cymru i Lefel Rhybudd Sero. Tynnodd hyn y cyfyngiadau cyfreithiol a oedd ar gwrdd â phobl ac roedd wedi galluogi pob busnes i agor, ond gan gadw amddiffyniadau cyfreithiol allweddol yn eu lle. Mae’n orfodol eich bod yn gwisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoliadau cyhoeddus, ac mae’n rhaid i bawb barhau i ynysu os oes ganddynt symptomau Covid neu os cewch ganlyniad prawf sy’n bositif, a rhaid i fusnesau gymryd camau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
Anogir pobl i barhau i gymryd rhagofalon i amddiffyn eu hunain a phawb arall ac i atal lledaeniad y feirws. Mae nifer yr achosion wedi parhau i godi, ac yn gynharach yr wythnos hon fe aeth y gyfradd achosion yn uwch na 320 achos ym mhob 100,000 o bobl.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
"Dros y 18 mis diwethaf, mae pobl wedi cydweithio i ddiogelu Cymru. Mae’r angen i wneud hynny heddiw cyn gryfed ag erioed.
"Mae nifer yr achosion yn cynyddu, ac mae’r sefyllfa iechyd cyhoeddus yn waeth na’r sefyllfa a oedd yn ein wynebu dair wythnos yn ôl pan symudodd Cymru i Lefel Rhybudd Sero. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau gyda’r rhagofalon, a hynny i sicrhau nad yw’r gwaith da sydd wedi’i wneud hyd yma yn ofer.
"Cael y brechiad yw’r amddiffyniad gorau sydd gennym o hyd. Os nad ydych wedi manteisio ar y cynnig o frechiad yn barod, rwy’n eich annog yn gryf i wneud hynny, gan ymuno â thros 2.1 miliwn o bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu’n llawn er mwyn amddiffyn eu hunain ac eraill.
"Mae yna gamau syml y gallwn eu cymryd bob dydd i gadw pawb yn ddiogel. Cwrdd ag eraill yn yr awyr agored yn hytrach na dan do neu cadw pellter wrth bobl eraill y tu allan. Os ydych yng nghwmni pobl o dan do, yna gall agor ffenest i adael awyr iach i ddod i mewn olygu bod y feirws yn llai tebygol o ledaenu. Rydym yn parhau i ofyn i bobl weithio adref pan fo hynny’n bosibl.
"Bydd camau fel hyn yn helpu i osgoi’r angen am fesurau cryfach. Mae’r pandemig yn dal yma yng Nghymru, ac mae hyn yn golygu bod rhaid i ni gael ein brechu a pharhau i gymryd y rhagofalon er mwyn cadw’r feirws dan reolaeth."
Er nad oes newidiadau sylweddol yn digwydd y tro hwn, mae mân newidiadau yn cael eu gwneud er mwyn symleiddio ac egluro’r rheolau sydd eisoes yn bodoli. Mae’r newidiadau’n cynnwys nad oes gofyniad cyfreithiol ar bobl sy’n mynd i briodas neu bartneriaeth sifil wisgo gorchudd wyneb, yn unol â’r eithriad sydd eisoes yn bodoli ar gyfer derbyniadau priodas. Bydd y rheoliadau’n cael eu hadolygu eto ar 16 Medi.
Bydd yr achos dros yr angen i ddefnyddio dogfennau er mwyn cael mynediad i leoliadau risg uwch yn cael ystyried fel rhan o’r adolygiad. Yn y cyfamser mae Pàs Covid y GIG eisoes ar gael yng Nghymru, ac mae’n caniatáu i bobl gael tystiolaeth ddigidol o’u statws brechu, a gallai busnesau ddewis defnyddio’r pàs hwn fel amod mynediad.
'Diolch' – Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, yn diolch i'r diwydiant twristiaeth, staff ac ymwelwyr cyn penwythnos gŵyl y banc
Gyda gŵyl banc olaf yr haf a diwedd gwyliau’r ysgol yn nesáu, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi diolch i bawb am eu hymdrechion i gadw Cymru'n ddiogel dros yr haf.
Yng nghanol y galw cynyddol gan gwsmeriaid o ganlyniad i lacio rheolau COVID-19, a rhagor o bobl yn dewis cyrchfannau domestig ar gyfer eu gwyliau’r haf hwn, mae ymgyrch Addo Croeso Cymru wedi bod yn rhedeg ers i'r cyfyngiadau gael eu codi ym mis Mawrth i annog pobl Cymru ac ymwelwyr i ofalu am ei gilydd ac i barhau i barchu’r cefn gwlad a'r cymunedau yr ydym yn ymweld â nhw.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Rydyn ni i gyd wedi chwarae rhan bwysig iawn wrth gadw Cymru, ein hymwelwyr, ein gweithwyr a'n cymunedau'n ddiogel yn yr hyn a fu'n haf prysur iawn i'r economi ymwelwyr yng Nghymru.
"Hoffen ni ddiolch i bawb sydd wedi gwneud eu gorau i sicrhau eu bod yn ymweld â Chymru mewn modd cyfrifol yr haf hwn. Wrth inni edrych ymlaen at benwythnos gŵyl banc olaf yr haf rydyn ni’n disgwyl i lawer o leoedd fod yn brysur, felly, chwiliwch am leoliadau tawelach, cynlluniwch eich ymweliad, defnyddiwch wasanaethau parcio a theithio, dilynwch y cod cefn gwlad a pharchwch eich gilydd a'r lleoedd rydych chi'n ymweld â nhw i sicrhau bod pawb yn gallu cael penwythnos gŵyl banc gwych.
"Mae'r rhai sy'n gweithio yn yr economi ymwelwyr wedi mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiad cofiadwy – maen nhw'n haeddu ein diolch, a hefyd ein parch yn ystod y cyfnod prysur hwn.
"Dylai pobl barhau i ddilyn y rheolau syml i atal y feirws rhag lledaenu. Mae COVID yn bresennol o hyd ac mae'r achosion cynyddol yn ein hatgoffa ni bod angen inni i gyd barhau i ddilyn y rheolau syml i atal y feirws rhag lledaenu. Golchwch eich dwylo, cadwch bellter a gwisgwch orchuddion wyneb lle bo hynny’n briodol."
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gydag amrediad o gyrff, gan gynnwys awdurdodau'r parciau cenedlaethol, i'w helpu i gynllunio'n ofalus ac yn ddiogel, a rhoi mesurau lliniaru ar waith.
Mae cyllid wedi bod ar gael i awdurdodau lleol i helpu gyda chost ychwanegol rheoli niferoedd uwch o ymwelwyr.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
|
|
|
|
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|