Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

2 Medi 2021


Bicycles

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Sgiliau a recriwtio - Ymgyrch recriwtio ar gyfer y sector lletygarwch / Cymorth gyda recriwtio staff; I’ch Atgoffa - A yw eich cofnod ar Croeso.Cymru yn gyfredol?  Ydych chi’n dangos yr arwydd graddio cywir ar eich safle a’ch gwefan?; Cyfieithu arwyddion dy fusnes i’r Gymraeg – mae’n hawdd ac mae AM DDIM!; Diwrnod Lletygarwch Cenedlaethol 18 Medi 2021; Cymorth i ddinasyddion yr UE hyd at ddiwedd 2021; Helpwch Chwarae Teg i ddylanwadu ar ddyfodol gweithleoedd diogel – galwad am arloeswyr i sefyll yn erbyn aflonyddu rhywiol; Awgrymiadau ar gyfer lleihau'r bygythiadau seiber; Wythnos Ailgylchu 20–26 Medi 2021; Gwasanaeth adnewyddu IP digidol; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


SGILIAU A RECRIWTIO:

Ymgyrch recriwtio ar gyfer y sector lletygarwch

Yn dilyn lansio’n hymgyrch recriwtio, byddwn yn ychwanegu astudiaeth achos arall i dudalen yr ymgyrch yn fuan gan roi enghreifftiau o bobl sy’n gweithio yn y sector a dangos y manteision niferus a ddaw o weithio mewn lletygarwch a helpu i roi profiadau gwych i ymwelwyr. 

Rydym hefyd yn gweithio ar becyn cymorth i helpu busnesau i recriwtio staff. Bydd y pecyn cymorth ar gael yn fuan.

Cadwch olwg am yr ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol a helpu’r ymgyrch trwy ddefnyddio #CreuwyrProfiad.  Am fanylion llawn ewch i wefan Cymru’n Gweithio.

I gael gwybodaeth am gymorth gyda recriwtio a hyfforddi staff, ewch i'n tudalennau Sgiliau a Recriwtio.

Cymorth gyda recriwtio staff 

Oeddech chi'n gwybod y gall y Ganolfan Byd Gwaith eich helpu i recriwtio staff?  Dyma rai o'r ffyrdd y gallant gefnogi busnesau:

  • Cynnig pecynnau hyfforddi cyn cyflogi i roi'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ddi-waith i ymgymryd â swyddi. Gall hyn helpu busnesau sydd â nifer o swyddi gwag neu grŵp o fusnesau sydd â swyddi gwag tebyg;
  • Mae hyfforddwyr gwaith sydd wedi'u lleoli mewn ardaloedd ledled Cymru yn helpu pobl i gael gwaith e.e. drwy fagu hyder;
  • Efallai y bydd cyllid ar gael i helpu darpar weithwyr gyda chostau teithio;
  • Dod â chyflogwyr a darpar weithwyr at ei gilydd – e.e. gellir cynnal cyfweliadau yn swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith fel y gall cynghorwyr cyflogaeth ddarparu cymorth;
  • Gall busnesau hysbysebu swyddi gwag ar y wefan Dod o hyd i swydd ac mae cleientiaid yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael eu cyfeirio atynt;
  • Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn dechrau trefnu ffeiriau swyddi wyneb yn wyneb – cynhelir y cyntaf yn yr awyr agored ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 14 Medi gydag un arall yn Abertawe ar 30 Medi - dylai busnesau a hoffai fynd i arddangos eu swyddi gysylltu â Jayne.Bissmire@dwp.gov.uk (Pen-y-bont ar Ogwr) neu Lucy.Jones2@dwp.gov.uk (Abertawe)

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth recriwtio sydd ar gael, ewch i Cymorth i recriwtwyr gan y Ganolfan Byd Gwaith - GOV.UK


I’CH ATGOFFA:

A yw eich cofnod ar Croeso.Cymru yn gyfredol?

Mae nifer y chwiliadau ar Croeso.Cymru am lety, atyniadau a phethau i'w gwneud yn uchel.  Os oes gennych gofnod ac nad ydych wedi'i diweddaru ers cryn amser, mae'n werth i chi wirio'r wybodaeth drwy fewngofnodi i'r offeryn rhestru cynnyrch.  Er mwyn helpu eich ymwelwyr i baratoi ar gyfer eu hymweliad, gallai fod yn ddefnyddiol i chi gynnwys gwybodaeth fel: amseroedd agor, trefniadau archebu ymlaen llaw a chyfleusterau hygyrchedd.

Os hoffech gael rhywfaint o help i fewngofnodi, anfonwch e-bost at Stiward Data Croeso Cymru, ffoniwch 0330 808 9410 neu os hoffech drefnu hyfforddiant ar ddefnyddio'r offeryn neu rywfaint o gyngor ar sut y gallwch wella'r cynnwys, anfonwch e-bost at product.database@llyw.cymru.

 

Ydych chi’n dangos yr arwydd graddio cywir ar eich safle a’ch gwefan?

Er bod llawer o fusnesau wrthi’n defnyddio’r arwyddion di-dâl newydd sy’n dangos brand Cymru Wales, mae rhai’n defnyddio’r hen arwyddion o hyd, ar eu safle ac ar-lein gyda’r logo electronig anghywir (ar eu gwefan).  Mae’r hen arwyddion yn gallu gwneud i’ch busnes edrych yn hen ffasiwn a dangos nad ydych yn rhan o frand Croeso Cymru.

Am arwydd newydd yn eu lle am ddim, y cyfan sy’n rhaid ei wneud yw e-bostio quality.tourism@llyw.cymru.

Hyd yn oed wrth aros am yr arwydd cywir, gallwch newid y logo ar eich gwefan – e-bostiwch quality.tourism@llyw.cymru a gallwn anfon y logo cywir atoch, er mwyn ichi allu rhoi’r gwaith celf newydd ar ein gwefan.

Visit Wales brand versions bilingual

Cyfieithu arwyddion dy fusnes i’r Gymraeg – mae’n hawdd ac mae AM DDIM! 

Mae busnesau twristiaeth o bob cwr o Gymru yn gallu creu arwyddion dwyieithog yn hyderus, diolch i wasanaeth cyfieithu a gwirio testun hwylus a chyfeillgar Helo Blod.

Dyma’n union mae un siop yn Nhrefaldwyn wedi’i wneud, ac maent hyd yn oed wedi mabwysiadu enw dwyieithog yn y broses! Clicia’r ddolen yma i glywed Barry Lord, perchennog Siop Lyfrau Trefaldwyn – The Bookshop Montgomery, yn sôn am sut mae gwasanaeth hawdd-i’w-ddefnyddio Helo Blod wedi’u helpu nhw i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg yn eu busnes. 

Mae busnesau twristiaeth o bob maint yn gallu elwa o wasanaeth Helo Blod, gyda chymorth cyfieithu neu wirio cynnwys ar gyfer:

  • Gwefannau
  • Negeseuon cyfryngau cymdeithasol
  • Deunyddiau marchnata a chyfathrebu
  • Bwydlenni
  • Llofnodion e-bost
  • Negeseuon peiriant ateb

Gyda'n gilydd gallwn gyfoethogi profiad ein hymwelwyr drwy wneud y Gymraeg yn fwy amlwg yn ein cymunedau.

Eisiau gwybod mwy? Cer i Llyw.Cymru/HeloBlod.


Diwrnod Lletygarwch Cenedlaethol - 18 Medi 2021

Dathliad trwy’r wlad yw’r Diwrnod Lletygarwch Cenedlaethol o’r bwytai, gwestai, tafarndai a’r barau gwych sydd gennym a’r cyflenwyr sy’n eu cefnogi.

Mae llawer o resymau pam y dylai busnesau lletygarwch Cymru ymuno â’r dathlu:

  • i roi llwyfan i’r diwydiant lletygarwch,
  • i annog cwsmeriaid yn ôl i letygarwch ac ennyn hyder y cyhoedd trwy hyrwyddo safleoedd lletygarwch fel lleoedd diogel a saff ac
  • i bwysleisio’r rhan bwysig iawn y mae lletygarwch yn ei chwarae ym mywyd cymdeithasol cymunedau, fel cyflogwr ac fel cyfrannwr ariannol at yr economi.

I ddysgu mwy sut y gall busnesau gymryd rhan, ewch i UKHospitality


Cymorth i ddinasyddion yr UE hyd at ddiwedd 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd dinasyddion yr UE yng Nghymru yn parhau i allu cael cymorth cyfrinachol am ddim ar gyfer eu ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE hyd at 31 Rhagfyr 2021.

Roedd y Cynllun hwn gan y Swyddfa Gartref yn cynnig y cyfle i ddinasyddion yr UE, dinasyddion o Ardal Economaidd Ewropeaidd nad yw yn yr UE a dinasyddion o’r Swistir, ynghyd ag aelodau o’u teuluoedd sy’n gymwys, ddiogelu eu statws preswylio ers i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Daeth y Cynllun i ben ddiwedd mis Mehefin 2021, ond mae’r Swyddfa gartref yn dal i dderbyn ceisiadau hwyr os oes sail resymol.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Helpwch Chwarae Teg i ddylanwadu ar ddyfodol gweithleoedd diogel – galwad am arloeswyr i sefyll yn erbyn aflonyddu rhywiol

Bydd Chwarae Teg yn gweithio gyda chyflogwyr i greu polisïau gweithle, mecanweithiau adrodd a phrosesau cymorth y gellir eu cyflwyno ar draws sefydliadau i wneud gweithleoedd yn fwy diogel i bawb ac maen nhw’n recriwtio 20 o gyflogwyr o bob cwr o Gymru i fod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Awgrymiadau ar gyfer lleihau'r bygythiadau seiber

Mae seiberdroseddau yn cynyddu, ac mae'r ymosodiadau yn gynyddol ddifrifol. P'un a ydych yn ficrofusnes, yn BBaCh neu'n sefydliad mawr, mae deall sut i ddiogelu eich sefydliad rhag achos o dorri diogelwch data yn elfen hanfodol o'ch llwyddiant cyffredinol.

Gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau gyda mesurau seibergadernid a gall ymddangos yn faes costus a chymhleth. Fodd bynnag, mae hwn yn fyth y mae'r Ganolfan Seibergadernid yng Nghymru yn gweithio'n galed i'w chwalu, ac i ail-addysgu perchenogion busnes a'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Wythnos Ailgylchu 20–26 Medi 2021

Mae’r ymgyrch ailgylchu cenedlaethol Bydd Wych. Ailgylcha. wedi cyrraedd 6 miliwn o bobl, diolch i bartneriaid fel cyrchfannau ymwelwyr Cymru’n rhannu negeseuon ailgylchu Cymru yn Ailgylchu.

Thema Bydd Wych. Ailgylcha. ac Wythnos Ailgylchu eleni yw ‘Cam Ymhellach’, i annog pawb i ailgylchu mwy, yn gywir, yn amlach.

Cefnogwch Wythnos Ailgylchu gyda negeseuon Bydd Wych. Ailgylcha. i greu cyhoeddusrwydd cadarnhaol ac annog eich ymwelwyr i ailgylchu.

Cysylltwch i gael deunyddiau:  cymruynailgylchu@wrap.org.uk


Gwasanaeth adnewyddu IP digidol

Mae gwasanaeth adnewyddu digidol newydd sy'n lleihau’n ddirfawr yr amser a gymer i adnewyddu hawliau IP, o 5 diwrnod i 5 munud, bellach ar gael i bob cwsmer gan y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO). Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram