Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

19 Awst 2021


Talacre

CYNNWYS Y BWLETIN: I’ch Atgoffa: Canllaw Lefel Rhybudd 0 a Chardiau Gweithredu Penodol i Sector; I’ch Atgoffa: Rhaid Gwisgo Gorchudd Wyneb ym mhob lle Cyhoeddus Awyr Agored ac eithrio Tafarndai, Bwytai, Caffis a Safleoedd Addysgol; DYDDIAD CAU, DYDD GWENER 20 Awst – Lleoedd ar gyfer y Farchnad Teithiau Golff Rhyngwladol (IGTM) yn ICC Cymru 18-21 Hydref 2021; Arolwg Tracio Twristiaeth COVID-19 y DU; Coedwig Genedlaethol Cymru – Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG); Gwasanaethau Arloesol Newydd i Atal Argyfyngau Salwch Meddwl; Cynllun Yswiriant gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU i roi hwb i’r Diwydiant Digwyddiadau; Grantiau Ailddychmygu; Ydych chi’n Talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i’ch Gweithwyr?; Gwybodaeth ddefnyddiol am COVID-19.


I’ch Atgoffa: Canllaw Lefel Rhybudd 0 a Chardiau Gweithredu Penodol i Sector 

Lefel rhybudd 0: canllawiau i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau – dyma’r wybodaeth sydd ei hangen ar fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau a chyrff eraill i’w helpu i gadw at ofynion y gyfraith a lleihau’r risg y daw pobl i gysylltiad â’r coronafeirws ar eu safle, a’i ledaenu.

Ar Lefel Rhybudd 0, mae llawer o’r gofynion cyfreithiol ar dwristiaeth a lletygarwch wedi’u codi er ei bod yn dal yn ofyn cyfreithiol ar fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau i gynnal asesiad risg coronafeirws a bod angen iddynt roi mesurau rhesymol ar waith i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.  

Mae Cardiau Gweithredu Mesurau Rhesymol  wedi’u paratoi ar gyfer Lletygarwch, Busnesau Twristiaeth gan gynnwys Llety ac Atyniadau, Digwyddiadau a Chlybiau Nos a Lleoliadau Cerddoriaeth.


SI’ch Atgoffa: Rhaid Gwisgo gorchudd wyneb ym mhob lle cyhoeddus awyr agored ac eithrio tafarndai, bwytai, caffis a safleoedd addysgol

  • Os mai prif bwrpas eich busnes yw gweini bwyd a diod (e.e. bwyty, caffi neu dafarn), nid oes gorfodaeth ar bobl i wisgo gorchudd wyneb yn y lle hwnnw ond dylech ystyried hynny yn eich asesiad risg ar gyfer y mannau ‘cyfyng’ ar y safle lle bydd pobl yn ciwio, mewn lifftiau, yn y coridorau ac ati.
  • Os yw’ch busnes yn un aml bwrpas, gyda bwyd a diod yn un o sawl rheswm dros ymweld â chi (e.e. gwesty gyda bwyty, atyniad dan do gyda chaffi, canolfan ddigwyddiadau neu gynadledda gyda bwyty, sinema neu theatr â bar), rhaid i staff a chwsmeriaid wisgo gorchudd wyneb ym mhob rhan o’r busnes ar wahân i’r mannau hynny lle bydd yna fwyta ac yfed.

DYDDIAD CAU, DYDD GWENER 5yp 20 Awst – Lleoedd ar gyfer y Farchnad Teithiau Golff Rhyngwladol (IGTM) yn ICC Cymru 18-21 Hydref 2021

Fel hwb i gynlluniau busnesau i ymadfer ar ôl COVID-19, mae Croeso Cymru am helpu â chostau ymweliad hyd at 10 o gwmnïau cymwys â’r IGTM.

Cost:  £150 + TAW (pris a hysbysebwyd €3,910 + TAW)

Defnyddir meini prawf Croeso Cymru i gloriannu’ch cais.

Arddangosfa flynyddol ar gyfer busnesau yw’r Farchnad Teithiau Golff Rhyngwladol (IGTM). RX (Reed Exhibitions Limited) yw’r trefnwyr.

Cynhelir yr IGTM er lles busnesau teithiau golff proffesiynol sy’n chwilio am ffyrdd effeithiol a chost-effeithlon o ehangu eu busnes.  Craidd yr IGTM yw creu cyfleoedd i gyrchfannau, canolfannau a chyrsiau golff ddod i adnabod a chwrdd â’r prif fusnesau teithiau golff gan helpu i gynyddu’r farchnad twristiaeth golff y byd.

Mae’r digwyddiad yn arbennig o addas ar gyfer:

  • Cwmnïau teithiau golff
  • Cyrsiau golff
  • Gwestai a chanolfannau golff

Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 20 Awst 2021. Ewch i wefan y diwydiant twristiaeth i gael rhagor o wybodaeth.


Arolwg COVID-19 Tracio Cwsmeriaid Twristiaeth y DU

[Mae / Bydd] yr adroddiad diweddaraf am farn cwsmeriaid a bwriadau teithio marchnad y DU i’w weld ar wefan VisitBritain  o ddydd Iau, 19 Awst, yn seiliedig ar waith maes a wnaed ddechrau Awst.


Coedwig Genedlaethol Cymru – Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG)

Mae’r Grant Buddsoddi mewn Coetir yn rhan o raglen y Goedwig Genedlaethol i Gymru. Bydd yn rhoi help ariannol i bobl i:

  • greu coetir newydd
  • gwella’r coetiroedd sy’n bod

a bodloni safonau’r Goedwig Genedlaethol. Gellir cysylltu’r grant â ffynonellau arian eraill i greu coetiroedd aml bwrpas o’r ansawdd uchaf.  Agorodd y cyfnod ymgeisio ar 14 Gorffennaf a bydd yn cau ar 27 Awst 2021. 

I weld rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais, ewch i dudalen Coedwig Genedlaethol i Gymru - Y Grant Buddsoddi mewn Coetir.


Gwasanaethau Arloesol Newydd i Atal Argyfyngau Salwch Meddwl

Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, wedi cael gweld drosti’i hun sut mae arian i wella’r gefnogaeth i bobl sydd mewn argyfwng iechyd meddwl yn gwneud gwahaniaeth. Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn yn Llyw.Cymru.


Cynllun Yswiriant gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU i roi hwb i’r Diwydiant Digwyddiadau

Mae Llywodraeth y DU a Lloyd’s wedi dod ynghyd i greu Cynllun Ailyswiriant Digwyddiadau Byw.  O dan y cynllun, bydd Llywodraeth y DU yn gweithredu fel ‘ailyswiriwr’ – gan gynnig gwarant i sicrhau bod yswirwyr yn gallu cynnig yr yswiriant sydd ei angen ar drefnwyr digwyddiadau.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Grantiau Ailddychmygu

Bydd y grantiau Ailddychmygu (Reimagine) newydd yn helpu amgueddfeydd, orielau, tai hanesyddol, archifdai a llyfrgelloedd, asiantaethau a gwyliau’r Deyrnas Unedig i ailddychmygu eu gweithgareddau yn dilyn y pandemig.  Bydd y grantiau’n eu helpu i wella eu harbenigeddau, eu capasiti a’u cysylltiadau yn y sector a thu hwnt.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Ydych chi’n Talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i’ch Gweithwyr?

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau newydd i sicrhau bod cyflogwyr yn gwybod faint yn union sydd angen iddynt ei dalu i’w prentisiaid, a phob gweithiwr arall.

Mae gan bob gweithiwr yn y DU yr hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, waeth beth yw ei oed na’i broffesiwn.

Er nad yw pawb sy’n talu llai na’r isafswm cyflog yn gwneud hynny’n fwriadol, cyfrifoldeb y cyflogwr yw cadw at y gyfraith. Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Creu Straeon Nid Sbwriel

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn galw ar bawb i gymryd cyfrifoldeb am eu sbwriel eu hunain wrth wneud y gorau o barciau, traethau a mannau prydferth Cymru dros yr haf.  Ledled Cymru, mae mwy o sbwriel i’w weld wrth i gyfyngiadau Covid lacio.

Mae'r ymgyrch ‘Creu straeon nid sbwriel’ yn cael ei rhedeg fel rhan o Caru Cymru mudiad cynhwysol sy’n cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol er mwyn ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.

Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram