Ymgyrch yn tynnu sylw at fanteision gweithio yn y sector lletygarwch yn sgil prinder staff
Mae Croeso Cymru a Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch i annog pobl i weithio yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch fel ymateb i’r prinder staff trwy’r wlad yn sgil pandemig y coronafeirws.
Mae miloedd o swyddi ar gael mewn sector sy’n cyflogi rhagor na 157,000* o bobl yng Nghymru, gan gynnwys mewn bwytai, tafarndai a gwestai, wrth i’r galw ymhlith cwsmeriaid gynyddu gyda llacio’r rheolau Covid-19 ac wrth i fwy o bobl ddewis aros yn y wlad ar gyfer eu gwyliau.
Mae’r apêl am weithwyr yn canolbwyntio ar y cyfleoedd datblygu personol, y llwybrau i ddatblygu gyrfa a’r manteision gweladwy sydd ar gynnig i bobl mewn swyddi fel croesawyr blaen tŷ, cogyddion, gweinyddion, pobl cadw tŷ yn ogystal â gweithwyr goruchwylio a rheoli.
Am fanylion llawn ewch i wefan Cymru’n Gweithio. Bydd rhagor o storïau ar fideo ac mewn gair yn cael eu hychwanegu at y safle yn yr wythnosau i ddod.
Y Celtic Manor Resort a’i bum seren yw un o’r busnesau sydd wedi teimlo effeithiau’r prinder staff, gyda rhai adrannau yn y Celtic Collection heb agor eto oherwydd problemau recriwtio. Mae pob rhan o’r diwydiant yn profi’r un problemau.
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol UK Hospitality Cymru, David Chapman:
“Mae busnesau’n wynebu argyfwng staffio difrifol wrth i’r effeithiau ôl-Covid ac ôl-Brexit daro pawb yr un pryd.
“Rydym ni’n gwbl gefnogol i’r ymgyrch recriwtio a chodi ymwybyddiaeth hon ac wrth ein bodd bod ein haelodau’n cael eu henwi fel pencampwyr lleol. Dyma un o nifer o fesurau sydd eu hangen i fynd â’r neges ar led bod hwn yn ddiwydiant da ar gyfer gyrfa ddibynadwy all para oes a rhoi boddhad mawr.”
Mae’r ymgyrch yn cael ei rhedeg ar y cyd â Cymru’n Gweithio.
Cymru’n Gweithio, o dan ofal Gyrfaoedd Cymru, yw porth cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl 16 oed a throsodd, sy’n cynnig cyngor a gwasanaeth hyfforddi diduedd a chynhwysol sydd wedi’u teilwra i helpu pobl i gael y gwaith a’r hyfforddiant i’w helpu gyda’u gyrfa ac i wella eu lles.
Bydd tîm ymroddedig o ragor na 130 o gynghorwyr gyrfaoedd a hyfforddwyr gwaith yn helpu pobl ifanc 16-18 oed i ddysgu a gweithio, ac yn helpu oedolion sydd angen cefnogaeth trwy’r cyfnod anodd hwn o newidiadau.
Cafodd Cymru’n Gweithio ei lansio ym mis Mai 2019 a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae cyngor ar recriwtio a rhaglenni gwaith gan gynnwys prentisiaethau ar gael ar y Porth Sgiliau
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
|
|
|
|
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|