Safle Treftadaeth newydd y Byd yng Nghymru
Mae tirwedd lechi gogledd-orllewin Cymru wedi'i hychwanegu at Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, sy'n golygu mai dyma’r pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford:
"Mae cyhoeddiad heddiw yn cydnabod y cyfraniad sylweddol y mae'r rhan hon o Ogledd Cymru wedi'i wneud i dreftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol Cymru, yn ogystal â’r byd ehangach. Gellir dod o hyd i lechi Cymreig ledled y byd.
"Mae chwarela a chloddio am lechi wedi gadael gwaddol unigryw yng Ngwynedd, ac mae'r cymunedau'n falch iawn ohono. Bydd y gydnabyddiaeth fyd-eang hon heddiw gan UNESCO yn helpu i ddiogelu'r gwaddol a'r hanes hwnnw yn y cymunedau hynny am genedlaethau i ddod a’u helpu i adfywio yn y dyfodol."
Dan arweiniad Cyngor Gwynedd, mae’r dynodiad hwn yn benllanw dros 15 mlynedd o waith caled gan bartneriaid, gan gynnwys Cadw, i gofnodi, diogelu a chydnabod gwaddol byw tirwedd lechi Gwynedd.
Yn ddiweddar, ymwelodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Celfyddydau a Chwaraeon, ag Amgueddfa Lechi Cymru, a dywedodd;
“Mae hyn yn newyddion mor wych i'r ardal ac i Gymru. Mae paratoi a chyflwyno'r cais wedi bod yn ymdrech tîm go iawn a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan. Mae'r newyddion hyn wedi gwneud yr holl waith caled yn werth chweil!
“Mae ennill Statws Safle Treftadaeth y Byd yn ddathliad ardderchog o'r balchder yn ein cymunedau llechi ac yn sbardun ar gyfer adfywio yn y dyfodol.”
Mae chwe rhan i’r Safle Treftadaeth hwn, gan gynnwys tirweddau chwareli ysblennydd fel Penrhyn, Dinorwig, Dyffryn Nantlle a Ffestiniog. Mae hefyd yn cynnwys Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, Castell Penrhyn a Rheilffyrdd enwog Ffestiniog a Thalyllyn. Cawsant eu hadeiladu i gludo'r llechi o’r chwarel i farchnadoedd ledled y byd a’u trawsnewid yn ddiweddarach drwy ymroddiad gwirfoddolwyr i reilffyrdd treftadaeth.
Gellir gweld manylion llawn Safle Treftadaeth newydd y Byd ar ei wefan benodedig: Llechi Cymru: Enwebiad Safle Treftadadaeth y Byd
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|