Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

29 Gorffennaf 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Datganiad Ysgrifenedig: Newidiadau i deithio rhyngwladol o 2 Awst 2021; Teithio: coronafeirws; Mae brechu yn achub bywydau: pecyn cymorth newydd i helpu cyflogwyr i annog eu staff i gael brechlyn COVID-19; Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd COVID-19 (ERF); Gallwch chi wneud hawliadau CJRS mis Gorffennaf nawr; Safle Treftadaeth newydd y Byd yng Nghymru; Cyflogwyr – gwybodaeth am sut i gymryd rhan yng nghynllun Kickstart; Bydd awyru da yn helpu i leihau’r perygl o drosglwyddo COVID-19 yn y gweithle; Acas yn cyhoeddi cyngor newydd ar weithio hybrid; Gwasanaeth rhybudd cynnar yr NCSC; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Datganiad Ysgrifenedig: Newidiadau i deithio rhyngwladol o 2 Awst 2021

Mae Datganiad Ysgrifenedig wedi'i wneud gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Ar 28 Gorffennaf cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod wedi penderfynu caniatáu i deithwyr o'r UE a'r Unol Daleithiau sydd wedi cael eu brechu'n llawn ymweld â'r DU heb orfod hunanynysu ar ôl cyrraedd.

Mae risgiau iechyd cyhoeddus clir o hyd wrth ailddechrau teithio rhyngwladol ar hyn o bryd – ac o gael gwared ar gyfyngiadau cwarantin i'r rheini sy'n cyrraedd o’r Unol Daleithiau a gwledydd yr UE ar y rhestr oren sydd wedi'u brechu'n llawn. Heb y gofyniad i hunanynysu ar ôl cyrraedd mae risg uwch o fewnforio achosion ac amrywiolynnau sy'n peri pryder (VoCs) o dramor. Bydd y brechlynnau'n lleihau'r risg honno, ond dim ond os ydynt yn effeithiol yn erbyn VoCs. Dyna pam yr ydym yn parhau i rybuddio rhag teithio dramor yr haf hwn os nad yw'n hanfodol i wneud hynny.

Rydym yn gresynu at gynigion Llywodraeth y DU i gael gwared ar ragor o ofynion cwarantin. Fodd bynnag, gan ein bod yn rhannu ffin agored â Lloegr byddai'n aneffeithiol i gyflwyno trefniadau ar wahân ar gyfer Cymru. Felly, byddwn yn cyd-fynd â Llywodraethau eraill y DU ac yn gweithredu'r penderfyniad hwn ar gyfer Cymru. Rydym yn edrych tuag at Lywodraeth y DU i ddarparu sicrwydd y bydd prosesau mewn lle i sicrhau bod y sawl sy’n cyrraedd y DU wedi’u brechu’n llawn. Yn ogystal, wrth wneud hynny, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am sicrwydd y byddant yn cynnal goruchwyliaeth gadarn a pharhaus o brofion PCR – gan gynnwys profion PCR a fydd i’w cynnal cyn gadael i deithio, ar ddiwrnod 2, gan gynnwys dilyniant genom canlyniadau a hynny fel un ffordd o leihau mewnforio amrywiolynnau sy'n dianc rhag effaith brechlyn.


Teithio: coronafeirws

Am y wybodaeth a'r canllawiau diweddaraf ar deithio yng Nghymru – o deithio rhyngwladol i drafnidiaeth gyhoeddus pan fyddwch yng Nghymru – ewch i Teithio: coronafeirws - Canllawiau a gwasanaethau ar wefan Llywodraeth Cymru.


Mae brechu yn achub bywydau: pecyn cymorth newydd i helpu cyflogwyr i annog eu staff i gael brechlyn COVID-19

Mae Llywodraeth Cymru yn annog cyflogwyr i wneud popeth o fewn eu gallu i helpu eu gweithlu i gael eu brechu.  Mae pecyn cymorth newydd wedi’w lansio (26 Gorffennaf) sy’n rhoi cymorth i fusnesau a sefydliadau ar sut i gefnogi eu gweithwyr i gael brechiad COVID-19.

Mae brechu wedi helpu i wanhau’r cysylltiad rhwng heintiau’r coronafeirws a salwch difrifol a derbyniadau i’r ysbyty. Ond mae perygl y gallai rhagor o bobl fynd yn ddifrifol wael os na fydd y cyfraddau brechu yn cynyddu ymhellach wrth i’r amrywiolyn Delta barhau i ledaenu yng Nghymru a gweddill y DU.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd COVID-19 (ERF)

Mae ceisiadau am yr ERF gyda throsiant o fwy na £85,000 bellach ar gau.  Mae Awdurdodau Lleol ledled Cymru yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer y busnesau hynny sy'n gymwys gyda throsiant o lai na £85,000. Bydd y cais grant hwn yn parhau ar agor tan 9 Awst 2021.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Gallwch chi wneud hawliadau CJRS mis Gorffennaf nawr

Mae hawliadau o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar agor ar gyfer cyfnodau tâl ym mis Gorffennaf 2021.  Rhaid i chi gyflwyno'ch hawliad ar gyfer mis Gorffennaf 2021 erbyn 16 Awst 2021.

O 1 Awst 2021 ymlaen, bydd y llywodraeth yn talu 60% o gyflogau hyd at uchafswm o £1,875 am yr oriau y mae’r cyflogai ar ffyrlo.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Safle Treftadaeth newydd y Byd yng Nghymru

Mae tirwedd lechi gogledd-orllewin Cymru wedi'i hychwanegu at Restr Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, sy'n golygu mai dyma’r pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru.  Dan arweiniad Cyngor Gwynedd, mae’r dynodiad hwn yn benllanw dros 15 mlynedd o waith caled gan bartneriaid, gan gynnwys Cadw, i gofnodi, diogelu a chydnabod gwaddol byw tirwedd lechi Gwynedd.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cyflogwyr – gwybodaeth am sut i gymryd rhan yng nghynllun Kickstart

Mae Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu swyddi 6 mis newydd ar gyfer pobl ifanc 16 - 24 oed sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn hirdymor.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Bydd awyru da yn helpu i leihau’r perygl o drosglwyddo COVID-19 yn y gweithle

Bydd canllawiau diweddaraf yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) yn eich helpu i sylwi ar awyru gwael yn y gweithle a chymryd camau ymarferol i wella hynny. Gall hyn helpu i leihau'r risg o ledaenu COVID-19 yn eich gweithle.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Acas yn cyhoeddi cyngor newydd ar weithio hybrid

Mae Acas wedi cyhoeddi cyngor newydd i helpu cyflogwyr ystyried a allai gweithio hybrid fod yn opsiwn ar gyfer eu gweithle a sut i’w gyflwyno’n deg.  Math o weithio’n hyblyg yw gweithio hybrid, lle mae staff yn rhannu eu hamser rhwng gweithio o bell a gweithio yng ngweithle eu cyflogwr. 

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Gwasanaeth rhybudd cynnar yr NCSC

Gwasanaeth rhad ac am ddim gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yw 'Early Warning' sydd wedi'i gynllunio i roi gwybod i'ch sefydliad am ymosodiadau seiber posibl ar eich rhwydwaith, cyn gynted â phosibl. Mae ‘Early Warning’ yn agored i bob sefydliad yn y DU sydd â chyfeiriad IP sefydlog neu enw parth.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram