Bwletin Newyddion: Datganiad Ysgrifenedig: Ap Covid-19 y GIG: hysbysu cysylltiadau agos a chyngor ar hunanynysu

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

23 Gorffennaf 2021


cv

Datganiad Ysgrifenedig: Ap Covid-19 y GIG: hysbysu cysylltiadau agos a chyngor ar hunanynysu

Mae Datganiad Ysgrifenedig wedi'i wneud gan Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Hoffwn egluro’r sefyllfa yng Nghymru a'r camau sy'n ofynnol i ddefnyddwyr Ap Covid-19 y GIG sy'n cael gwybod eu bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi profi'n bositif am Covid-19.

Mae cyfraddau achosion yng Nghymru wedi bod yn codi, ac o ganlyniad mae nifer y cysylltiadau y gofynnir iddynt hunanynysu, boed hynny gan swyddogion olrhain cysylltiadau Profi Olrhain Diogelu (TTP) neu drwy Ap Covid 19 y GIG, hefyd wedi bod yn cynyddu.  Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi nad yw cyfraddau’r achosion a’r cysylltiadau, ar hyn o bryd, ar yr un lefelau ag y maent mewn mannau eraill yn y DU.

Mae Ap Covid-19 y GIG yn parhau i fod yn adnodd atodol pwysig i'n gwasanaeth TTP a dylai defnyddwyr yr Ap barhau i ddilyn y cyngor hunanynysu os byddant yn cael hysbysiad.  Mae'n ofyniad cyfreithiol i hunanynysu os bydd y gwasanaeth TTP yn dweud wrthych am wneud hynny.  Nid yw Ap Covid-19 y GIG yn dod o dan y ddyletswydd gyfreithiol hon oherwydd nad yw’n cynnwys enwau a bod preifatrwydd y defnyddwyr yn cael ei ddiogelu.  Dylai defnyddwyr Ap Covid-19 y GIG ddilyn y cyfarwyddyd i hunanynysu er mwyn helpu i leihau lledaeniad y feirws.

Mae'r cynnydd yn nifer y cysylltiadau sy’n cael hysbysiadau, sy’n eu cynghori i hunanynysu, yn dangos bod Ap Covid-19 y GIG yn gweithio'n effeithiol ac yn gwneud yr hyn y mae wedi'i gynllunio i'w wneud.

Ym mis Awst, fel rhan o'r cylch adolygu 21 diwrnod nesaf, ein nod yw cael gwared ar y gofyniad i bobl sydd wedi cael eu brechu'n llawn hunanynysu os ydynt yn gysylltiad agos i rywun sydd wedi cael prawf positif.  Byddwn hefyd yn ystyried eithriadau posibl eraill, er enghraifft y rhai dan 18 oed.  Bydd Ap Covid-19 y GIG yn cyd-fynd â'r newidiadau hyn pan gânt eu gwneud.

Hyd nes y cyflwynir unrhyw newidiadau, mae'n hanfodol bod unrhyw un sy’n cael cyfarwyddyd i hunanynysu yn gwneud hynny. Rwy’n ymwybodol bod potensial yn ystod yr wythnosau nesaf i wasanaethau hanfodol, megis y GIG a gofal cymdeithasol, wynebu pwysau ychwanegol o ganlyniad i gynnydd yn nifer y cysylltiadau sy'n hunanynysu. Rydym yn gweithio'n agos gyda chyrff clinigol a’r cyrff perthnasol yn y GIG, ynghyd â phartneriaid yn y maes gofal cymdeithasol, i gytuno ar fesurau lliniaru effeithiol ar gyfer rolau sy'n wynebu cleifion a chleientiaid yn uniongyrchol, a rolau gofalu. Gwneir hyn er mwyn ystyrried beth arall y gellid ei wneud mewn sefyllfa anodd, lle gallai hunanynysu gan gysylltiadau agos sydd wedi'u brechu'n llawn gael effaith uniongyrchol ar ddiogelwch cleifion.

Gofynnwyd hefyd i'n Timau Rheoli Digwyddiadau rhanbarthol, sy'n gyfrifol am atal Covid a chynllunio’r ymateb iddo, ystyried a yw ynysu yn achosi unrhyw risgiau i wasanaethau a seilwaith hanfodol a chynghori ar unrhyw ymateb posibl y gellid ystyried ei fod yn angenrheidiol.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram