Bwletin Newyddion: Mwynhewch y gwyliau a diogelu Cymru yr haf hwn yw cyngor Gweinidog yr Economi; Cadw ymwelwyr a Chymru'n ddiogel yr haf hwn.

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

20 Gorffennaf 2021


beach flag

Mwynhewch y gwyliau a diogelu Cymru yr haf hwn yw cyngor Gweinidog yr Economi

Wrth i wyliau'r haf ddechrau, ymwelodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, â Llyn Llys y Frân Dŵr Cymru, yn Sir Benfro (Iau 15 Gorffennaf), i agor yn swyddogol ei atyniad ymwelwyr a'i gyfleusterau hamdden sydd newydd gael eu hailddatblygu.

Bydd y datblygiad newydd yn hwb i economi’r ardal, gan ei fod yn darparu cyfleusterau lle y gall pobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dŵr a gweithgareddau newydd ar y tir. Derbyniodd y prosiect gymorth gwerth £1.7 miliwn oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae'r ymweliad yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog ynghylch y cynlluniau i lacio cyfyngiadau COVID ymhellach yng Nghymru dros yr haf.

Dywedodd Gweinidog yr Economi:

“Mae’r cyfleusterau newydd a thrawiadol hyn yn Llys y Frân yn cael eu hagor ar adeg berffaith, gyda chymaint o bobl yn cael eu gwyliau yn y DU eleni.

“Wrth inni ddechrau ar gyfnod newydd yn ystod y pandemig, mae'r Prif Weinidog wedi nodi cynllun tymor hirach newydd ar gyfer yr haf a fydd yn helpu i wella haf sydd eisoes yn mynd i fod, yn ôl pob golwg, yn haf llwyddiannus a phrysur i'r economi ymwelwyr yng Nghymru.  Fodd bynnag, mae angen i bob un ohonon ni gymryd camau o hyd i amddiffyn ein hunain, ac i weithio gyda'n gilydd i ddiogelu Cymru. 

“Bydd hyn yn cynnwys sicrhau bod ein hymwelwyr yn ymwybodol bod gennyn ni ein rheolau COVID ein hunain sy’n berthnasol yng Nghymru, ac y bydd y rhain, mewn rhai ffyrdd, yn wahanol i reolau sydd ar waith mewn rhannau eraill o'r DU.  Mae gan bob un ohonon ni ran bwysig iawn i'w chwarae i sicrhau bod Cymru, ein hymwelwyr, ein gweithwyr a'n cymunedau'n ddiogel wrth i’r haf ddechrau eleni.”

Mae ymgyrch Addo Croeso Cymru wedi bod yn rhedeg ers i'r cyfyngiadau gael eu codi ym mis Mawrth, i annog pobl Cymru ac ymwelwyr i ofalu am ei gilydd ac i barhau i barchu’r ardaloedd cefn gwlad a'r cymunedau rydym yn ymweld â nhw.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cadw ymwelwyr a Chymru'n ddiogel yr haf hwn

Mewn sesiwn ar-lein a gynhaliwyd gan Croeso Cymru, cafodd busnesau twristiaeth gyfle i glywed gan yr RNLI a Adventure Smart UK am sut i helpu gwesteion ac ymwelwyr i fod yn fwy diogel yn yr awyr agored yr haf hwn.

Gallwch weld recordiad o'r gweminar, y cyflwyniadau, atebion i gwestiynau a godwyd, a gwybodaeth a phecynnau cymorth diogelwch defnyddiol ar wefan diwydiant twristiaeth Croeso Cymru.

beach flag

Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram