Newyddlen Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

25 Mehefin 2021

 
  BDBDC Pennawd

Wrth i Gymru barhau i gymryd camau pwyllog a gofalus tuag at lacio cyfyngiadau Covid, mae effeithiau'r pandemig ar fusnesau bwyd a diod yn dod yn fwyfwy amlwg. Mae llawer o fusnesau'n dal i ddioddef effeithiau 18 mis cythryblus, ac mae straen ariannol yn sialens i lawer o fusnesau o hyd. Fodd bynnag, mae hi'n hanfodol nad ydym yn caniatáu i'r pandemig lesteirio momentwm ein twf, ac mae hynny'n cynnwys cadw ein ffocws ar arloesi a sgiliau. Rhaid i ni weithio gyda'r llywodraeth i sicrhau ein bod ni'n parhau i fuddsoddi yn y meysydd allweddol yma.

Yn yr un modd, mae ein diwydiant hollbwysig yn dechrau sylweddoli beth yw gwirioneddau ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ac er ei bod hi'n anodd gweld heibio i'r sialensiau newydd sydd ynghlwm wrth wneud busnes gyda'r UE, rhaid i ni beidio ag anghofio am y cyfleoedd a allai godi o'r amrywiol gytundebau masnach sydd dan drafodaeth ar hyn o bryd. 

Rwy'n credu bod allforio'n hanfodol i ddyfodol Bwyd a Diod Cymru, a hynny'n rhannol am ei fod yn gallu chwarae rhan bwysig wrth gynnal gwytnwch busnesau.  Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol o'r cytundeb mewn egwyddor a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng y DU ac Awstralia, a ddilynwyd gan gyhoeddiad pellach yr wythnos hon am lansio trafodaethau ar Gytundeb Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTTP). Yn ogystal, mae ymgynghoriadau’r Llywodraeth ar y gweill ar gyfer cytundebau masnach â Chanada, Mecsico ac India, a bydden i'n annog busnesau bwyd a diod i gymryd rhan yn y rhain er mwyn sicrhau ein bod yn cael llais mewn unrhyw benderfyniadau. Roeddwn i'n falch o glywed yn ddiweddar fod bwyd a diod yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer cytundeb masnach rhwng y DU ac India, felly rhaid i ni sicrhau ein bod ni'n bachu ar y cyfle hwn a'n bod yn glir ynghylch ymhle mae’r fantais gystadleuol i ni. Pan fo un drws yn cau, mae un arall yn agor, a dylem fod yn barod ar gyfer y cyfleoedd sy'n codi. Gadewch i ni chwarae rhan adeiladol a chraff wrth i'r cytundebau masnach yma ddod i’r fei.

Ym mis Hydref, bydd achlysur Blas Cymru/Taste Wales yn dychwelyd i'r ICCW yng Nghasnewydd.  Bydd yr Adran Fwyd yn tynnu cynhyrchwyr a gweithgynhyrchwyr bwyd Cymru ynghyd â phrynwyr o'r DU a thramor, ac yn cynnal cynhadledd ac arddangosfa fasnach i hybu'r diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru – dyma gyfle cyffrous i feithrin cysylltiadau newydd.

Fel Cadeirydd Bwrdd y Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru, roeddwn i wrth fy modd i glywed am ailbenodiad Lesley Griffiths AC yn Weinidog Materion Gwledig, â bwyd a diod yn rhan o'i phortffolio. Mae Lesley wedi bod yn eiriolwr bendigedig dros ein diwydiant ac wedi cynnig cefnogaeth anhygoel i ni. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at barhau i gydweithio er budd y diwydiant.

O, ac yn olaf, pob lwc i Gymru yn Euro 2020!

Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Y newyddion am Covid-19 a diwedd Cyfnod Pontio'r DU i fusnesau bwyd a diod

BDBDC Ail bennawd

Busnes a masnach:

Tariffau Masnach y DU: gohirio tollau a chwotas tariffau (Saesneg yn unig)

Masnachu ag India – galwad am fewnbwn (Saeneg yn unig)

Masnachu â Chanada a Mecsico – galwad am fewnbwn (Saesneg yn unig)

Dull gweithredu'r DU o ran ymuno â'r CPTPP (Saesneg yn unig)

Gweminarau a chanllawiau fideo:

Gweminar: Honiadau am faeth ac iechyd - sut i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth (Saesneg yn unig)

Gweminar: Diwylliant Diogelu Bwyd (Saesneg yn unig)

Sgiliau Bwyd Cymru: cyfres canllawiau fideo ar yrfaoedd

Achlysuron:

Ffres! Gŵyl Lysiau Cymru

Cymorth a gwybodaeth:

FarmWell Cymru – cymorth a gwybodaeth i ffermwyr Cymru

Llinell Gymorth Arloesi Bwyd

Canllawiau i fusnesau bwyd ar y coronafeirws

Y newyddion diweddaraf o'r diwydiant

BDBDC Trydydd Pennawd

Wythnos Gwin Cymru'n dychwelyd i ddathlu ein gwinllannau arobryn (Saesneg yn unig)

Busnes yn y gogledd yn serennu yn y gwobrau caws rhithiol

Cwrdd â'r cynhyrchwyr sydd wrth galon Sîn Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru (Saesneg yn unig)

Marchnad Casnewydd: Yr holl allfeydd bwyd a diod wedi eu llenwi (Saesneg yn unig)

Cynhyrchwyr bwyd yn dysgu sut i frolio’u cynnyrch (Saesneg yn unig)

Camau allweddol diweddar gan y Bwrdd

  • Mae Cadeirydd y Bwrdd yn cynnal cyfres o sesiynau rhannu syniadau ag arweinwyr uwch Llywodraeth y DU a sefydliadau busnes er mwyn bwydo a llywio dull gweithredu'r Bwrdd a'r Llywodraeth am faterion fel FTAs, masnach ryngwladol a'r strategaeth ddigidol.
  • Ar hyn o bryd mae'r Bwrdd yn gweithio i glustnodi blaenoriaethau strategol allweddol ar gyfer y diwydiant bwyd a diod, a'r ffordd orau o fynd ati i gynorthwyo'r Gweinidog i gyflawni twf a datblygiad. Bydd y Bwrdd yn cyfleu'r strategaeth i fusnesau dros yr haf.
  • Mae'r Bwrdd yn rhannu dolenni at wybodaeth, cefnogaeth a phecynnau cymorth trwy Twitter a LinkedIn.

Blas Cymru/Taste Wales: Cwrdd â'r Prynwyr

Bydd Llywodraeth Cymru'n tynnu cwmnïau bwyd a diod blaenllaw o Gymru a phrynwyr masnach ynghyd yn BlasCymru/TasteWales 2021. Yr achlysur yma i ddangos cynnyrch a chwrdd â'r cyflenwyr fydd un o'r cyntaf yng nghalendr y diwydiant yng Nghymru i groesawu'r pobl nôl yn ddiogel. 

Bydd Llywodraeth Cymru'n tynnu amrediad eang o wahanol gategorïau ynghyd, o gwmnïau graddfa fawr i grefftwyr sy'n cynhyrchu pob math o gategorïau o gynnyrch.

Bydd yr achlysur yn gyfle i gwrdd â'r wynebau y tu ôl i'n diwydiant byw ac arloesol, a bydd yna gyfleoedd i brofi a blasu ar draws amrywiaeth eang o gategorïau gan gynnwys labeli preifat, cynhwysion, a chynhyrchion gweini ac adwerthu bwyd. Er mwyn defnyddio'r amser yn effeithiol ac yn effeithlon yn seiliedig ar eich amcanion, bydd amserlen o gyfarfodydd wedi eu teilwra hefyd, gan ddilyn fformat rhaglen bwrpasol o gyfarfodydd cyflwyno byr.

Cysylltwch â'r tîm i gael rhagor o fanylion neu i gofrestru: info@tastewales.com

Cadwch mewn cysylltiad am ddiweddariadau ar Twitter a LinkedIn. Ymunwch â'n Grŵp Facebook i rannu gweithluoedd. Cysylltwch â ni trwy e-bost yn Chair.FDWIB@gov.wales

 
 
 

AMDANOM NI

Y newyddion diweddaraf, gwybodaeth a chymorth i sector bwyd a diod Cymru, gan Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@FoodDrinkWIB

 

Dilynwch ni ar LinkedIn:

Food and Drink Wales Industry Board

 

Dilynwch ni ar Facebook:

Welsh food and drink workforce collaboration