Cylchlythyr Gwlad 24 Mehefin 2021

24 Mehefin 2021

 
 
 
 
 
 

NEWYDDION

farmhouse

Grant Busnes i Ffermydd - Gorchudd Iardiau

Mae cyfnod datgan diddordeb ail rownd y Grant Busnes i Ffermydd – Gorchuddio Iardiau  ar agor ac yn cau ar 25 Mehefin 2021. Mae ffurflen ar-lein ar gael ichi eu llenwi ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

pollinators

Grantiau bach Glastir -Tirwedd a pheillwyr

Mae cyfnod datgan diddordeb Tirwedd a Phryfed Peillio Grantiau Bach Glastir  ar agor ac yn  cau ar 25 Mehefin 2021. Mae ffurflen ar-lein ar gael ichi eu llenwi ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

woodland

Adfer Coetir Glastir - Cyfnod Ymgeisio 9

Mae cyfnod datgan diddordeb ar gyfer 9fed cyfnod ymgeisio cynllun Glastir - Adfer Coetir  ar agor ac yn cau ar 25 Mehefin 2021. Mae ffurflen ar-lein ar gael ichi eu llenwi ar eich cyfrif RPW Ar-lein.

river

Trawsgydymffurfio 2021

Yn sgil cyhoeddi Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 sy’n ymdrin â llygredd amaethyddol yng Nghymru, mae rheolau Trwasgydymffurfio wedi’I diweddaru. Cafodd Taflen Ffeithiau Gofynion Rheoli Statudol (SMR) 1 - Diogelu Dŵr a rhannau perthnasol y Safonau Dilysu Trawsgydymffurfio eu newid i adlewyrchu’r gofynion newydd.

twitter

Lansio Sianel Twitter Materion Gwledig newydd Llywodraeth Cymru

Mae sianel Twitter swyddogol newydd gan Lywodraeth Cymru ar Faterion Gwledig wedi cael ei lansio o ganlyniad i'r ad-drefnu cabinet diweddaraf. Dilynwch y sianel newydd @LICCefnGwlad am y newyddion a'r diweddariadau diweddaraf ar Faterion Gwledig.

valley

Gwella Ansawdd Aer

Lansiwyd adnodd ar-lein newydd yng Nghymru i helpu ffermwyr i leihau allyriadau amonia.

Mae'r Adnodd Aer Glân newydd, sydd ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio, yn rhoi cyngor ymarferol ar y camau y gall ffermwyr eu cymryd i leihau allyriadau.

agri

A ydych chi'n barod am her newydd, i fod yr unigolyn yr ydych yn dymuno bod? Mae'n bryd ymgeisio am le ar Academi Amaeth eleni!

Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer yr Academi Amaeth eleni wedi agor dydd Llun 7 Mehefin tan ddydd Mercher, 30 Mehefin. Cynhelir cyfweliadau ar gyfer ymgeiswyr ar y rhestr fer yn rhithriol yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 5 Gorffennaf

tractor

Ffermydd da byw yn edrych ar effeithlonrwydd cynhyrchu er mwyn lleihau allyriadau

Mae dwy fferm dda byw yng Nghymru yn cymryd camau i wella effeithlonrwydd cynhyrchu er mwyn gwneud eu systemau’n fwy effeithlon o ran carbon.

Mae Fferm Bryn, ger Aberteifi, a Hendre Ifan Goch, Pen-y-bont, yn safleoedd arddangos Cyswllt Ffermio. Trwy eu gwaith prosiect gyda Cyswllt Ffermio, maen nhw’n gweithio gyda’r arbenigwr bîff a defaid annibynnol Dr Liz Genever i gyflwyno camau gweithredu i leihau allyriadau ymhellach.

ferret

Cofrestr newydd ar gyfer perchenogion ffuredau i atal COVID-19

Mae pobl sy’n berchen ar ffuredau ac aelodau eraill teulu’r wenci (Mustelinae) yng Nghymru’n cael eu hannog i ymuno â chofrestr wirfoddol newydd all helpu i atal lledaeniad y feirws sy’n achosi COVID-19 ac i gael cyngor ar sut i gadw eu hanifeiliaid a nhw eu hunain yn ddiogel.

cow

Ardal TB Isel

Cyflwynwyd nifer o fesurau TB dros dro rhwng 1 Mehefin a Hydref 2021 yn yr ardal TB Isel. Dilynwch y ddolen i gael rhagor o wybodaeth am beth yw'r mesurau hyn a sut y gallent effeithio arnoch os ydych wedi'ch lleoli yn yr ardal berthnasol.

cow

Terfynu consesiynau profi TB oherwydd COVID-19

Ar ddechrau pandemig COVID-19 gwnaed nifer o gonsesiynau dros dro i'r Rhaglen Dileu TB oherwydd y cyfyngiadau a osodwyd ar gyfer ymbellhau cymdeithasol a gofynion ar gyfer hunanynysu. O 1 Gorffennaf bydd y trefniadau dros dro hyn yn cael eu codi. Gellir dod o hyd i ganllawiau pellach drwy glicio ar y pennawd.

lamb

Penodiadau newydd i grŵp allweddol sy'n hyrwyddo safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru

Bydd pum aelod newydd yn chwarae rhan bwysig wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau safonau uchel o ran iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.

coal

Rheoleiddio Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru

Mae Comisiwn y Gyfraith ar gyfer Cymru a Lloegr wedi lansio ymgynghoriad ar y drefn arfaethedig newydd ar gyfer sicrhau diogelwch tomenni glo yng Nghymru. Mae’r ymgynghoriad yn rhan o adolygiad o deddfwriaeth ynghylch diogelwch tomenni glo segur a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Llywodraeth wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth newydd er mwyn darparu trefn reoleiddio addas i’w diben ar gyfer dros 2,000 o domenni glo segur yng Nghymru. Mae’r rhan fwyaf o’r tomenni hyn ar dir preifat, gan gynnwys ffermdir. Mae’r ymgynghoriad yn gwahodd sylwadau ynghylch cynigion a fydd yn helpu i ddatblygu’r drefn statudol newydd hon.

Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 10 Medi 2021.

wrnsu

Uned Gymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru (UGRGC)

Mae'r UGRGC yn cynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i unrhyw un:

  • gyda diddordeb mewn datblygu gwledig
  • ymwneud â Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a'r cynlluniau y mae'n eu hariannu.
FLS

Tîm Cysylltwyr Fferm

Cymorth un-i-un cyfrinachol. Os ydych angen trafod unrhyw beth cysylltwch gyda un o’r swyddogion.

Llinellau Cymorth

FarmWell Cymru

 Mae Farm Well Cymru yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf a manylion am wasanaethau cymorth i ffermwyr Cymru, a all eu helpu nhw a'u busnesau fferm i aros yn gryf ac yn gydnerth drwy gyfnodau o newid ac anwadalrwydd.

Wefan: https://farmwell.cymru/

Cronfa Addington

Ffoniwch: 1926 620135

Wefan: https://www.addingtonfund.org.uk/

Sefydliad DPJ 

Ffoniwch:0800 587 4262 neu tecst: 07860 048799

Ebost: contact@thedpjfoundation.com

Wefan: https://www.thedpjfoundation.co.uk/ 

Y Rhwydwaith Cymunedau Fferm

Ffoniwch: 03000 111 999 

Wefan: https://fcn.org.uk/?lang=cy 

Sefydliad Fuddianol Amaethyddol Frenhinol (RABI)

Ffoniwch: 0808 281 9490

E-bost: help@rabi.org.uk

Wefan: https://rabi.org.uk/

Tir Dewi

Ffoniwch: 0800 121 47 22

Wefan: https://www.tirdewi.co.uk/cy/home-welsh/

 
 

GWYBODAETH AM GWLAD

E-Cylchgrawn gan Lywodraeth Cymru yw Gwlad ar gyfer busnesau fferm a choedwigaeth a'r rheini sy'n ymwneud ag amaeth yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/ffermio-a-chefn-gwlad

Dilynwch ar Twitter:

@LlCCefnGwlad

@LIC_Pysgodfeydd