 |
|
Galwad ar y cyd am gynigion Cymru - Quebec 2021
Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Quebec wedi lansio ail alwad ariannu i gefnogi prosiectau cydweithredol rhwng Cymru a Quebec sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd.
Am fanylion ac i wneud cais cliciwch yma
|
Porth Arloesi Cymru
Mae labordai cenedlaethol y DU yn dod at ei gilydd i gynnig y gallu, yr arbenigedd a'r cyfleusterau mwyaf datblygedig yn dechnolegol sydd ar gael yn y DU.
Darllenwch fwy am Porth Arloesi Cymru
|
|
 |
 |
|
Atebion cyflym i ddadhalogi Ambiwlansys Mewn ymateb i COVID-19 cyflwynodd Canolfan Ragoriaeth SBRI a Llywodraeth Cymru broses garlam i alluogi technolegau i gael mynediad cyflym. Gwyliwch fideo Her Gwasanaethau Ambiwlans Cymru SBRI yma. |
Advances Wales Rhifyn 96 allan nawr
Mae'r rhifyn hwn yn dwyn sylw at brawf newydd ar gyfer gwneud diagnosis o set o gyflyrau genetig prin a dyfais feddygol sy’n gallu atal clefyd y galon rhag datblygu. Hefyd, mae prosiect cydweithredol yn gweithio ar ddatblygu ceirch iach sy'n gwrthsefyll yr hinsawdd.
Darllenwch y rhifyn llawn yma
|
|
 |
Cylchlythyr Newid hinsawdd Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cylchlythyr newydd ar y Newid yn yr Hinsawdd, os hoffech gofrestru i dderbyn materion yn y dyfodol, cysylltwch â LCDPengagement@gov.cymru
Dyfodol arloesi yng Nghymru
Mae Tîm Arloesi Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried dull newydd o fynd i’r afael ag arloesi yng Nghymru. Rydym wedi comisiynu dau ddarn o ymchwil ar arloesi yng Nghymru a ledled y byd, ac rydym bellach wedi cynnal tri digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid o fewn Llywodraeth Cymru ac yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Gallwch ddod o hyd i'r adroddiadau ymchwil a'r argymhellion yma. Os hoffech fynegi eich barn, anfonwch e-bost at InnovationStrategy@gov.cymru i gyfrannu at y drafodaeth.
Gweithdy Ffotoneg CoInnovate 21 Mehefin 2021, 14:00 - 15:30 8 Gorffennaf 2021, 14:00 – 16:00 Cyflwynir gweithdai a digwyddiadau CoInnovate mewn partneriaeth rhwng diwydiant a Thîm Arloesi Llywodraeth Cymru. Mae'r digwyddiadau'n darparu llwyfan i ddod â rhanddeiliaid ynghyd o amrywiaeth o sectorau i rannu gwybodaeth ac archwilio cyfleoedd ar gyfer ymchwil a datblygu cydweithredol. Cofrestrwch yma ar gyfer y digwyddiad rhagarweiniol fel rhan o Wythnos Dechnoleg Cymru.
Cyfarfod Cymorth Cyllid Ar-lein
23 Mehefin 2021, 10:00 - 16:45
Mae’r Llywodraeth Cymru, mewn cydweithied Innovate UK, Y Knowledge Transfer Network â’r Enterprise Europe Network (ail enwyd Innovate UK Edge) yn cynnal Cyfarfod Cymorth Cyllid Arloesi Ar Lein i helpu Cwmnïoedd dewiswyd yng Nghymru paratoi eu hunan yn well ar gyfer:-
- Cynnig am cyllid YaD
- Cynnal Prosiectau Ymchwil a Datblygu mwy effeithiol
- Ymelwa ar y canlyniadau
Cofrestrwch yma
Cyfres Gweithdai Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd 23 Mehefin 2021, 11:00 - 12:30 Bydd CCR yn cynnal cyfres o weithdai i gefnogi ymgeiswyr sydd â diddordeb i feddwl am eu heriau a chryfhau eu ceisiadau. Archebwch eich lle yma
|