Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

17 Mehefin 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb; Cynlluniau Adfer Twristiaeth; Canllawiau Digwyddiadau; Cronfa canol trefi gogledd Cymru gwerth £3 miliwn i agor ar gyfer ceisiadau; Cymorth Busnes COVID-19; Newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o fis Gorffennaf 2021; Sgiliau a Recriwtio; Nodyn atgoffa i fusnesau; Mordeithio domestig yn dychwelyd yn ddiogel i Gymru; Arolwg Olrhain Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 y DU; Cyflwyno gofynion di-fwg newydd ar 1 Mawrth 2022; Gwasanaethau Tân Cymru yn galw ar berchnogion cartrefi gwyliau i weithredu; Cynhadledd Cadernid Busnes Cymoedd De Cymru; Wici'r Holl Ddaear 2021 yn Caru Cymru


Cymru gryfach, wyrddach a thecach i bawb

Mae’r Prif Weinidog wedi  cyflwyno cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cymru gryfach, wyrddach a thecach wrth iddo lansio'r Rhaglen Lywodraethu.

Mae'r cynllun 5 mlynedd yn nodi'r ymrwymiadau uchelgeisiol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflawni dros y 5 mlynedd nesaf. Bydd y rhain yn mynd i'r afael â'r heriau y mae Cymru'n eu hwynebu ac yn gwella bywydau pobl ledled Cymru.

Bydd y newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd yn ganolog i waith y llywodraeth newydd – mae "uwch-Weinyddiaeth" newydd wedi'i chreu sy’n dwyn ynghyd y meysydd polisi mawr i helpu Cymru i gyrraedd ei tharged cyfreithiol rwymol o gyrraedd sero-net erbyn 2050.

Am y tro cyntaf, daw trafnidiaeth, cynllunio, tai ac ynni - ynghyd â’r amgylchedd – o dan yr un fantell, er mwyn mynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd a natur. Bydd hyn yn sicrhau bod newid hinsawdd ar agenda pob gwasanaeth cyhoeddus a busnes sector preifat.

Rhaglen lywodraethu 2021 i 2026 ar gael ar-lein nawr.


Cynlluniau Adfer Twristiaeth  

Wedi'i ddatblygu mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid y diwydiant, cyhoeddwyd Cynllun Adfer Twristiaeth Llywodraeth Cymru - Dewch i lunio’r dyfodol - gweithio mewn partneriaeth i ailadeiladu dyfodol cadarn i'r economi ymwelwyr yng Nghymru ym mis Mawrth

Cyhoeddwyd Cynllun Adfer Twristiaeth Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf yn nodi'r rôl y bydd llywodraeth y DU yn ei chwarae wrth gynorthwyo a chyflymu adferiad y sector twristiaeth o COVID-19.  


Canllawiau Digwyddiadau

Mae canllawiau ar gyfer trefnwyr digwyddiadau crynoadau a reoleiddir yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) ar gael a gellir eu gweld ar Cadwch Gymru'n Ddiogel: creu digwyddiadau sy'n ymwybodol o COVID-effro.


Cronfa canol trefi gogledd Cymru gwerth £3 miliwn i agor ar gyfer ceisiadau

Mae cronfa gwerth £3 miliwn sy’n cael ei threialu gan Lywodraeth Cymru yng nghanol pedair o drefi yn y gogledd i annog entrepreneuriaid i sefydlu yno bellach ar agor ar gyfer mynegi diddordeb. Bydd y gronfa’n agor ar gyfer ceisiadau yr wythnos nesaf.

Bydd y gronfa yn cynorthwyo entrepreneuriaid i sefydlu busnesau ym Mangor, Bae Colwyn, y Rhyl a Wrecsam. Bydd yr arian yn gyfuniad o gyllid grant a benthyciadau i helpu entrepreneuriaid sy'n dechrau arni.

Nod y cynllun peilot yw annog entrepreneuriaid gan helpu hefyd i adfywio canol trefi sydd wedi cael eu taro'n galed yn ystod y pandemig. Bydd y cynllun yn para am flwyddyn i ddechrau.

Datblygwyd yr elfen fenthyciadau gyda Banc Datblygu Cymru ac fe'i gweithredir ganddo. Cynigir benthyciadau o £1,000 hyd at uchafswm o £50,000.

Bydd y gronfa'n agor ar gyfer ceisiadau o 21 Mehefin.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cymorth Busnes COVID-19

Er fod ceisiadau am Gronfa Cadernid Economaidd COVID-19 gyda throsiant o fwy na £85k bellach ar gau.

Mae Awdurdodau Lleol ledled Cymru yn dal i dderbyn ceisiadau ar gyfer y busnesau hynny sy'n gymwys gyda throsiant o lai na £85k. Bydd y grant hwn yn parhau ar agor tan 30 Mehefin 2021.

Mae gwybodaeth am gymorth busnes amrywiol ar gael ar wefan Busnes Cymru.


Newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o fis Gorffennaf 2021

Mae newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws o fis Gorffennaf 2021.

Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau arferol eich gweithwyr ar ffyrlo am yr oriau nad ydynt yn gweithio, hyd at derfyn o £2,500 y mis, hyd ddiwedd mis Mehefin 2021.

Ym mis Gorffennaf, bydd grantiau’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn talu 70% o gyflogau arferol gweithwyr am yr oriau nad ydynt yn gweithio, hyd at derfyn o £2,187.50. Ym misoedd Awst a Medi, bydd hyn yn cael ei ostwng i 60% o gyflogau arferol gweithwyr hyd at derfyn o £1,875.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Sgiliau a Recriwtio 

  • Mae Grwp Llandrillo Menai yn cynnwys Coleg LLandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor ac yn cyflwyno cyrsiau ar draws Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd.   Gall busnesau sydd â swyddi gwag lenwi'r Ffurflen Swyddi Gwag i Gyflogwyr a'i chyflwyno i employerjobs@gllm.ac.uk - bydd y swyddi gwag yn cael eu rhoi ar wefan y coleg a'u hamlygu i fyfyrwyr. 
  • Mae gan Goleg y Cymoedd gampysau yn Aberdâr, Nantgarw, Rhondda (Llwynypia) ac Ystrad Mynach.  Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Coleg y Cymoedd.  I drafod eich swyddi gwag, cysylltwch â thîm y Ganolfan Gyflogaeth ar 01443663229/07971341251 neu e-bostiwch Futures@Cymoedd.ac.uk 
  • Gall Coleg Pen-y-bont ar Ogwr drafod amrywiaeth o ddulliau ar gyfer cefnogi recriwtio ar gyfer Busnesau o unrhyw faint ledled De Cymru. Gellir dod o hyd i ragor o cyfleoedd.co.uk a chysylltu â Steve Jones - Cyfleoedd@bridgend.ac.uk neu 01656 302302 est 184

Byddwn yn parhau i wirio a rhannu'r math hwn o wybodaeth, yn y cyfamser, cysylltwch â'ch coleg lleol i weld a allant helpu i hysbysebu eich swyddi gwag.

​I gael rhagor o wybodaeth am sgiliau, recriwtio a chymorth hyfforddiant i'ch busnes, yn ogystal â chymorth arall fel Lles i gyflogwyr a gweithwyr, ewch i’n tudalennau Sgiliau.


Nodyn atgoffa i fusnesau:

Wrth i chi ailagor, sicrhewch eich bod yn ymwybodol ac yn dilyn Canllawiau UKHospitality Cymru yn ogystal a chanllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch. (Gwyliwch y ffilm fer hon i'ch helpu  i ymgyfarwyddo ar canllawiau).

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel.

Y meysydd allweddol y mae angen i fusnesau barhau i ganolbwyntio arnynt yw:

  • Awyru

Dylai pob busnes lletygarwch gymryd camau i gynyddu awyru yn eu hadeiladau.  Mae hwn yn gam mor bwysig y gallwch chi, fel busnes lletygarwch, ei gymryd i leihau'r risg o ledaenu’r coronafeirws yn eich tafarn, bar, caffi, neu fwyty.

Mae awyru da yn lleihau faint o feirws sydd yn yr awyr. Mae'n helpu i leihau'r risg o drosglwyddo drwy aerosol pan fydd rhywun yn anadlu gronynnau bach yn yr awyr ar ôl i berson sydd â'r feirws fod yn yr un ardal gaeedig.

Meddyliwch pa fesurau ychwanegol y gallwch chi eu cyflwyno i wella llif aer drwy agor ffenestri a chadw drysau mewnol ar agor (ond nid drysau tân) lle bynnag y bo modd.

  • Cadw cofnodion

Yng Nghymru, mae'n orfodol i fusnesau lletygarwch - gan gynnwys tafarndai, bariau, caffis a bwytai - gasglu manylion staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr i gefnogi gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol ac mae'n hanfodol i gefnogi’r broses olrhain cysylltiadau os bydd achos o'r clefyd.

Mae hyn yn golygu, os ydych yn rhedeg busnes lletygarwch, bod yn rhaid i chi gyflwyno system electronig neu bapur a fydd yn cofnodi enw, manylion cyswllt ac amser cyrraedd pob cwsmer (ac eithrio plant).

Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol ac mae'n hanfodol i gefnogi olrhain cysylltiadau os bydd achosion newydd. Nid yw gofyn i gwsmeriaid ddefnyddio Ap y GIG yn ddigon ac nid yw'n eithrio busnes rhag casglu'r wybodaeth hon.

  • Mwgwd Gwyneb

Rhaid i staff sy'n gweithio ym mhob man dan do ac yn yr awyr agored sy'n agored i'r cyhoedd wisgo mygydau (oni bai bod ganddynt esgus rhesymol). Mae hyn yn golygu rhaid i'r mygydau gael eu gwisgo gan staff sy'n gweini bwyd a diod i gwsmeriaid a phan fydd staff yn symud o amgylch y safle. Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol mewn mannau dan do a rhaid i fygydau hefyd gael eu gwisgo gan staff sy'n gwasanaethu cwsmeriaid y tu allan.  Rhaid i'ch cwsmeriaid hefyd wisgo mygydau wyneb pan nad ydynt yn eistedd i fwyta neu yfed wrth eu bwrdd dyranedig.

Mae rhestrau gwirio ar gael sy'n amlinellu'r mesurau allweddol ar gyfer Cadw Cofnodion, ynghyd â Chadw Pellter Cymdeithasol a Hylendid, y dylech eu rhoi ar waith i gadw eich staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr yn ddiogel. 

Gallwch hefyd ddefnyddio'r Cerdyn Gweithredu Busnes sy'n rhoi gwybodaeth i chi am sut i gadw COVID-19 allan o'ch safle, pa gamau i'w cymryd pan fydd gweithiwr neu gwsmer yn profi'n bositif a sut y gallwch leihau lledaeniad COVID-19 yn eich busnes. Mae’r wybodaeth hyn hefyd wedi'i rannu fel canllawiau i swyddogion gorfodi gyda thimau Iechyd yr Amgylchedd a Thimau Rheoli Digwyddiadau mewn Awdurdodau Lleol i'w defnyddio wrth iddynt ymweld â busnesau lletygarwch.  


Mordeithio domestig yn dychwelyd yn ddiogel i Gymru

Wrth i'r diwydiant môr-deithio ailddechrau hwylio i Gymru, byddwn yn gweld y llongau mordeithiau gyntaf yn hwylio'n ddiogel i Abertawe ers dechrau'r pandemig.  

Cam cyntaf ailgychwyn môr-deithio, yw môr-deithio domestig yn y DU ar gyfer preswylwyr or DU sydd wedi eu brechu yn llawn. Bydd y teithwyr cyntaf yn cyrraedd Porth Abertawe ar fwrdd Noble Caledonia Island Sky. Gyda phrotocolau COVID-19 cadarn ar waith lle bydd teithwyr yn cael eu profi'n barhaus ac yn cadw at ganllawiau COVID-19 Llywodraeth Cymru.  Bydd Island Sky  yn angori ar 21 Mehefin ym Mhorth Abertawe gyda niferoedd sylweddol is o deithwyr,  68 oherwydd ymbellhau cymdeithasol. Byddant yn gallu cymryd rhan mewn teithiau trefnedig ar y glannau o dan reolau a chanllawiau caeth. Bydd Island Sky hefyd yn galw yn Abergwaun ar 22 Mehefin ac ym Mhorthladd Caergybi ar 23 Mehefin.  Bydd chwaer long Island Sky , Yr Hebridean Sky, yn galw i mewn i Abertawe ar 24 Mehefin. 

Mae iechyd a lles cymunedau lleol yn cael eu cymryd o ddifri gan weithredwyr mordeithiau ac maent yn parhau i weithio'n agos gyda gweithredwyr porthladdoedd, awdurdodau iechyd porthladdoedd a grwpiau diogelu iechyd o fewn awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru.  Mae'r Cwmnïau môr-deithio wedi cydweithio â rhan-ddeiliaid allanol, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau amgylchedd diogel i bawb.  Mae pob teithiwr yn edrych ymlaen at gael croeso cynnes Cymreig.   

I gael rhagor o wybodaeth am brotocolau Cwmnïau môr-deithio ewch i'r Fframwaith Gweithredwyr ar gyfer Gweithrediadau Mordeithio'r DU yn ystod COVID-19 ar wefan y Siambr Llongau. 


Arolwg Olrhain Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 y DU 

Mae'r adroddiad diweddaraf ar deimladau defnyddwyr a bwriadau tripiau o farchnad y DU ar gael ar wefan VisitBritain gyda gwaith maes yn cael ei wneud rhwng 31 Mai a 6 Mehefin, yn ystod gŵyl banc y Sulgwyn. 

Mae hyn yn dangos gostyngiad yn y teimlad cyffredinol ymhlith defnyddwyr gan arwain at ostyngiad bach mewn hyder y gall teithiau domestig fynd rhagddynt dros fisoedd yr haf, a'r prif reswm yw cyfyngiadau gan y Llywodraeth. Fodd bynnag, mae bron i hanner (49%) o oedolion DU yn rhagweld mynd ar daith ddomestig dros nos erbyn diwedd 2021: mae 10% yn bwriadu gwneud hynny y gwanwyn hwn, 35% yr haf hwn a 25% rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr.


Cyflwyno gofynion di-fwg newydd ar 1 Mawrth 2022

Mae cyfreithiau smygu newydd wedi’u cyflwyno yng Nghymru sy’n effeithio ar y diwydiant twristiaeth. O 1 Mawrth 2022, rhaid i westai, tai llety, tafarndai, hostelau a chlybiau aelodau fod yn ddi-fwg ac ni fyddant bellach yn cael cynnig ystafelloedd smygu dynodedig. Ni chaniateir smygu mewn unrhyw lety gwyliau a llety dros dro hunangynhwysol, fel bythynnod, carafannau, cabanau gwyliau ac Airbnb. I baratoi ar gyfer cyflwyno’r gofynion newydd ar 1 Mawrth 2022, dylai pob perchennog fynd ati i newid unrhyw letyau/ystafelloedd smygu dynodedig yn rhai di-fwg. Ar ôl y dyddiad hwn bydd yn erbyn y gyfraith i smygu yn yr ardaloedd hyn, a gellir rhoi dirwyon.

Mae rhagor o wybodaeth am sut y mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar y diwydiant twristiaeth ar wefan Busnes Cymru.    


Gwasanaethau Tân Cymru yn galw ar berchnogion cartrefi gwyliau i weithredu

Wrth i’r tywydd wella a chyfyngiadau COVID-19 ddechrau llacio, rhagwelir cynnydd mewn gwyliau gartref gyda llawer yn dewis mynd ar wyliau ym mannau prydferth Cymru. Mae Gwasanaethau Tân ar draws Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliad Croeso Cymru a pherchnogion cartrefi gwyliau i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â chanllawiau newydd a chyfredol i barhau i gadw eu hunain a’u cwsmeriaid yn ddiogel yr haf hwn.

Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnig cyngor a chymorth unigryw a phenodol mewn perthynas â chymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod eu heiddo yn cydymffurfio â thân. Mae’r canllawiau’n cynnwys rhestrau gwirio defnyddiol, cyngor asesu risg tân sydd wedi ei symleiddio  ac awgrymiadau am sut i leihau’r risg o dân.

Darllenwch canllawiau Gwasanaethau Tân Cymru ar gyfer Llety Gwyliau Hunan-ddarpar.


Cynhadledd Cadernid Busnes Cymoedd De Cymru

Mae sicrhau cadernid busnes yn bwysicach nag erioed, ac mae cynllunio ar gyfer parhad busnes yn rhywbeth y dylai pob busnes ei ystyried. Yn y gynhadledd hon, bydd cynrychiolwyr yn clywed gan Wasanaeth Yswiriant y Ffederasiwn Busnesau Bach ynghylch sut i ddatblygu Cynllun Parhad Busnes er mwyn nodi risgiau a chynllunio ar eu cyfer. Bydd cynrychiolwyr yn clywed hefyd gan banel o fusnesau o’r Cymoedd ynghylch sut maent wedi goroesi’r ansicrwydd diweddar.  Cynhelir y gynhadledd rithwir ddydd Gwener 25 Mehefin 2021

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Wici'r Holl Ddaear 2021 yn Caru Cymru

Eleni mae Cymru'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth ffotograffiaeth ryngwladol 'Wiki Loves Earth' a drefnwyd gan fudiad Wikimedia. Nod y gystadleuaeth yw codi ymwybyddiaeth o safleoedd gwarchodedig yn fyd-eang gyda gwobrau am y lluniau gorau ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, rhannwch eich lluniau o dirweddau, fflora a ffawna ardaloedd gwarchodedig Cymru yn ystod mis Mehefin, a helpu i ddathlu harddwch ac amrywiaeth ein cefn gwlad.

Ewch I wefan Mae Wici'r Holl Ddaear 2021 Cymru am fanylion llawn or cystadleuaeth.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram