Wythnos nesaf – cyfle i ymuno â sesiwn ar-lein yn benodol ar gyfer partneriaid yn y diwydiant: "Helpu Gwesteion Ac Ymwelwyr i Fod Yn Fwy Diogel Yn Yr Awyr Agored – Holwch Yr Arbenigwyr"
Ar ddydd Iau 1 Gorffennaf am 2pm mae Croeso Cymru yn falch o fod yn cynnal sesiwn rhad ac am ddim awr o hyd ar-lein cyn cyfnod gwyliau'r haf. Bydd busnesau'n cael cyfle i glywed gan yr RNLI a Adventure Smart – bydd siaradwyr hefyd yn ateb cwestiynau mewn sesiwn holi ac ateb.
RNLI – Bydd Chris Cousens (Arweinydd Diogelwch Dŵr yr RNLI yng Nghymru) yn cwmpasu'r holl adnoddau busnes y gellir eu defnyddio, a fydd yn cynnwys negeseuon craidd, a sut i ddod yn Llysgennad Dŵr yr RNLI yr haf hwn; ffordd syml iawn y gall busnes helpu i ledaenu'r gair ac annog ymweliadau diogel.
Adventure Smart – Paul Donovan ac Dr Emma Edwards Jones ar ddiogelwch yn yr awyr agored a'r hyn y gall busnes ei ddefnyddio a thynnu sylw i helpu gwestai/ymwelwyr i wneud y gorau o'u hamser yng Nghymru, yn ddiogel, wrth fwynhau gweithgareddau fel nofio dŵr agored i gerdded bryniau.
I ymuno â ni, archebwch eich lle erbyn 3pm dydd Mawrth 29 Mehefin. Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin a bydd pawb sy'n bresennol hefyd yn derbyn deunydd dilynol ar ôl y sesiwn.
Text
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|