|
Dyma ugeinfed rhifyn ein cylchlythyr, a bydd yn sicrhau eich bod yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf wrth inni roi Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC) ar waith, y cynllun cyntaf o’i fath. Gwnaethon ni gyhoeddi a mabwysiadu CMCC ar 12 Medi 2019. Hoffen ni glywed eich barn, felly, cysylltwch â ni neu rannu’r cylchlythyr hwn â’ch rhwydweithiau. Ar gyfer y rheini sy’n derbyn y cylchlythyr hwn am y tro cyntaf, mae fersiynau blaenorol ar gael yma. Mae manylion cyswllt ar gael ar ddiwedd y cylchlythyr.
Yn dilyn yr etholiadau a gynhaliwyd yng Nghymru yn ddiweddar, mae Gweinidogion newydd yn rheoli’r Portffolio Morol.
Bydd newid hinsawdd, swyddi gwyrdd newydd ac adfer o’r pandemig yn ganolig i’r Llywodraeth newydd o dan Blaid Lafur, wrth i Mark Drakeford gyhoeddi tîm ei Gabinet newydd. Bydd Gweinyddiaeth Newid Hinsawdd newydd yn dod â Phortffolios yr Amgylchedd, Ynni, Tai, Cynllunio a Thrafnidiaeth ynghyd, o dan arweinyddiaeth Julie James, a |
|
|
Lee Waters fydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Mae Cynllunio Morol yn y portffolio hwn, ond mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd, yn parhau i fod yn gyfrifol am Faterion Gwledig (gan gynnwys Pysgodfeydd). Mae’r rhestr lawn o bortffolios y Gweinidogion ar gael yma. |
|
|
Fforwm Aber Afon Hafren
Rhwng 25–27 Mai cynhaliodd Partneriaeth Aber Afon Hafren eu fforwm blynyddol, ynghyd â dathliad o 25 mlynedd ers sefydlu'r bartneriaeth. Daeth y fforwm â rhanddeiliaid o bob cwr o'r aber at ei gilydd, am dri diwrnod o gyflwyniadau a sesiynau trafod ar y themâu 'newid yn yr hinsawdd, ymaddasu a’r gymuned', 'cynllunio, llywodraethu a pherygl llifogydd', a 'thirwedd sy'n newid'. |
|
|
Rhoddodd y tîm cynllunio morol y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu cynlluniau morol yng Nghymru, ynghyd â chyflwyniad ar y cyd â'r Sefydliad Rheoli Morol ar gynllunio morol mewn cyd-destun trawsffiniol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cydweithredu a chydgysylltu mewn ardaloedd aberoedd. Mae rhagor o wybodaeth am Bartneriaeth Aber Afon Hafren ar gael yma.
Gweithgor ICES
Mynychodd y Tîm Cynllunio Morol Weithgor Cyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr (ICES) ar Gynllunio Morol a Rheoli Parthau Arfordirol, a gynhaliwyd yn rhithwir ym mis Ebrill eleni. Mynychodd cynrychiolwyr o’r Alban, Iwerddon a Llywodraeth y DU yn ogystal â llawer o wledydd eraill ledled Ewrop, Canada ac UDA. |
|
|
Rhannodd y rhai a oedd yn bresennol y wybodaeth ddiweddaraf ar gynllunio morol yn eu gwahanol wledydd, a thrafod y gwersi a ddysgwyd a’r cyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Canolbwyntiodd y cyfarfod eleni ar gydweithredu trawsffiniol, a chynrychioli adfer ecosystemau, ystyriaethau newid yn yr hinsawdd, a’r effeithiau ar gymunedau arfordirol o fewn y system cynllunio morol.
Rydyn ni wedi cynhyrchu nifer o adnoddau i helpu i ategu’r gwaith o roi Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar waith. Yn ogystal â’r Canllawiau Gweithredu, rydym wedi recordio pum gweminar i egluro mwy am y broses Cynllunio Morol a sut i ddefnyddio CMCC.
Mae’r pum gweminar yn cynnwys:
- Trosolwg o’r broses Cynllunio Morol a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru;
- Trosolwg o gynnwys CMCC, gan gynnwys ei bolisïau;
- Cynnwys technegol CMCC, megis mapiau, canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau, ardaloedd adnoddau ac ardaloedd adnoddau strategol;
- Gweithredu CMCC;
- Gofynion Monitro ac Adrodd
|
|
|
Mae gennyn ni hefyd drosolwg o CMCC, dogfen ar wahân ar y weledigaeth, amcanion a pholisïau a Chwestiynau Cyffredin. Byddwn ni’n ceisio datblygu cynhyrchion eraill er mwyn bodloni gofynion rhanddeiliaid gydag amser, felly, os oes rhywbeth arall mewn perthynas â’r broses Cynllunio Morol yr hoffech chi ei ddeall yn well, cysylltwch â’r tîm drwy’r blwch negeseuon e-bost.
Mae’r Cynllun Seilwaith Arfordirol Graddfa Fach yn agored i geisiadau gan bob Awdurdod Porthladd a phob Awdurdod Lleol sy’n berchen ar borthladdoedd a harbwrs ledled Cymru. Mae’r cynllun yn cynnwys buddsoddiadau cyfalaf mewn seilwaith porthladdoedd a harbwrs sy’n darparu manteision i wella perfformiad cyffredinol, cynaliadwyedd, diogelwch a llesiant diwydiannau Morol a Physgota Cymru, yn ogystal â sicrhau y gall y cyhoedd fanteisio ar ddefnyddio’r cyfleusterau hyn a’r ardaloedd o’u cwmpas.
|
|
|
|
Mae'r grant yn darparu hyd at 100% tuag at fuddsoddiadau cyfalaf mewn offer a pheiriannau, o restr a nodwyd ymlaen llaw, i helpu defnyddwyr y môr i fynd i'r afael â materion amgylcheddol, gweithredol, a diogelwch. Uchafswm y grant y gellir ei ddyfarnu fesul harbwr/porthladd yw £100,000.
Mae angen cyflwyno datganiadau o ddiddordeb i RPW erbyn 11 Mehefin. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael wyth wythnos o ddyddiad cael eu dewis i gyflwyno eu cais llawn a'u dogfennau ategol drwy eu cyfrif RPW Ar-lein. Mae rhagor o wybodaeth yma.
Cysylltwch a ni
Os oes gennych gwestiynau am y bwletin hwn neu am unrhyw beth arall, cysylltwch â ni trwy'r blwch negeseuon e-bost neu ewch i'n gwefannau.
|
|