Adeg ysgrifennu, mae Cymru'n dechrau ailagor gan bwyll bach ar ôl y cyfnod clo, gyda lletygarwch dan do yn agor ar 17 Mai. Er bod hyn yn achos i ni fod yn optimistaidd, ni ddylid tanbrisio dyfnder yr effaith y mae Covid19 wedi ei gael ar y diwydiant bwyd a diod.
Mae busnesau ac unigolion wedi bod trwy amser trawmatig, ac er bod cyfleoedd wedi codi i rai yn ystod y pandemig, i'r mwyafrif mae’r cyfnod wedi bygwth eu gwytnwch craidd, ac ni wyddom beth fydd effaith ehangach hyn eto.
|
|
|
Fodd bynnag, rhaid i ni barhau i edrych ymlaen ac, fel diwydiant, parhau i ganolbwyntio ar gydnabod bod rhannau o'n marchnad wedi newid, a hynny am byth efallai. Yng Nghymru, sicrhau ein bod ni'n ystwyth yn ein hymateb i farchnad sy'n newid yn gyflym fydd ein llwybr i lwyddiant at y dyfodol. Mae'r ystwythder yma'n dibynnu ar dorri tir newydd hefyd, sy'n rhywbeth rydyn ni'n ei wneud yn dda iawn yma yng Nghymru, a rhaid i ni barhau i sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio ar y maes pwysig yma.
Mae angen i ni ganolbwyntio ar greu busnesau mwy gwydn, a mynd i'r afael â sut y mae'r pandemig wedi effeithio ar bobl o fewn y cwmnïau yna – gan roi mwy o bwyslais ar lesiant, recriwtio a hyfforddiant yn hynny o beth.
Fel rydw i wedi ei ddweud o'r blaen, yn y cyd-destun a'r hinsawdd ansicr sydd ohoni, mae hi'n bwysicach nag erioed fod Cymru'n aros yn agored i'r cyfleoedd y mae allforio'n eu cynnig. Bydd ein llwyddiant yn dibynnu'n helaeth ar sut rydyn ni'n cysylltu ac yn gwasanaethu marchnadoedd bwyd a diod y tu hwnt i Gymru. Mae hyn yn dechrau trwy fod yn gyson ag anghenion gweddill y DU, gan gynnwys caffael cyhoeddus a chynhyrchu yn lle mewnforio. Er bod ein perthynas â'r UE yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol, bydd yn dibynnu mwyfwy ar ein hymrwymiad i Gytundebau Masnach Rydd (FTAs) ym mhedwar ban y byd â'n cysylltiad â nhw. Ar hyn o bryd yng Nghymru, rydyn ni'n allforio llai na 10% o'n bwyd a diod, felly rwy'n credu y gallwn ni edrych i weddill y byd am ragor o gyfleoedd i allforio. Fel diwydiant, mae angen i ni fod yn glir ynghylch lle mae gennym ni fantais gystadleuol, a dangos hyn â hyder gan ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael yn y DU.
Mae'r cyhoeddiad am hybiau masnach newydd i gyfeirio manteision economaidd masnachu rhyngwladol yn uniongyrchol i'r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a gogledd Lloegr yn gam pwysig – a bydd deall sut y gall byd busnes ddefnyddio adnoddau'r DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau deilliannau llwyddiannus i fyd bwyd a diod Cymru’n bwysig iawn dros y misoedd nesaf hefyd.
Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
Y newyddion am Covid-19 a diwedd Cyfnod Pontio'r UE i fusnesau bwyd a diod
Uwchgynhadledd Systemau Bwyd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer BBaCh y DU (Saesneg yn unig)
Allforio – beth mae angen i chi ei wneud i gadw'ch nwyddau'n symud (Saesneg yn unig)
Pub is the hub – grantiau cymunedol
Canllawiau i fusnesau bwyd ar y coronafeirws
Llinell Gymorth Arloesi Bwyd
Cadw Cymru'n Ddiogel: Canllawiau i'r byd twristiaeth a lletygarwch
Mwy o lysiau – dinasyddion y DU, y gymdeithas sifil a gweithgynhyrchwyr yn cydweithio i gynyddu faint o lysiau sydd yn niet pob (Saesneg yn unig)
Y newyddion diweddaraf o'r diwydiant
Camau allweddol diweddar gan y Bwrdd
- Ar hyn o bryd mae'r Bwrdd yn gweithio i glustnodi’r blaenoriaethau strategol allweddol ar gyfer y diwydiant bwyd a diod a'r ffordd orau o fynd ati i gynorthwyo'r Gweinidog i gyflawni twf a datblygiad. Bydd y Bwrdd yn cyfleu'r strategaeth hon i fusnesau dros yr wythnosau nesaf.
-
Mae'r Bwrdd yn rhannu dolenni at wybodaeth, cefnogaeth a phecynnau cymorth trwy Twitter a LinkedIn
Cwrdd â'r Bwrdd:
Margaret Ogunbanwo yw Prif Weithredwr Maggie’s An African Twist to Your Everyday Dish.
Ers cymhwyso â BSc (Anrh) mewn Microfioleg a PgD mewn Rheoli Lletygarwch, rydw i wedi bod yn gweithio yn y diwydiant adwerthu mewn gwahanol feysydd wrth redeg busnesau arlwyaeth a hyfforddiant hefyd. Fe sefydlais i Maggie's Exotic Foods ym 1997 ac mae gen i brofiad ym meysydd adwerthu, dosbarthu, darparu hyfforddiant ar gyfer Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd (CIEH), logisteg ac arlwyaeth gyda bwydydd ethnig. Menyw Brydeinig ydw i o dras Nigeraidd, ac erbyn hyn rwy'n byw ac yn gweithio ym mhrydferthwch Eryri yn y gogledd.
Ymunais i â Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru ym mis Tachwedd 2020 i gynrychioli microfusnesau a busnesau lleiafrifol ethnig yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, ac rwy'n edrych ymlaen at helpu'r Bwrdd i gyflawni ei nodau.
Ein sialens fwyaf ar hyn o bryd yw ffeindio'n ffordd trwy'r cymhlethdodau sy'n yn hwynebu yn sgil ymadael ag Ewrop, a hynny wrth fyw trwy bandemig, ac effaith hynny ar y sector.
Ond rwy'n credu bod yna gyfle da nawr i'n diwydiant edrych eto ar farchnadoedd lleol yn y DU, yn ogystal ag ymestyn ein cwmpas i allforio i wledydd eraill ar draws y byd.
Yn nhermau cymorth y Llywodraeth a meithrin cysylltiadau â'r diwydiant, mae angen i ni hwyluso a chefnogi rhaglen adfer ar gyfer y busnesau llai yna sydd wedi llithro trwy rwyd y ddarpariaeth a'r cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd.
Rydw i ar gael i helpu busnesau lleiafrifol ethnig, y rhai sy'n bodoli eisoes a rhai newydd, yn ogystal â micro-fusnesau. Os oes unrhyw gynhyrchwyr am gysylltu â mi ac nad yw'r wybodaeth gen i wrth law, rwy'n hapus i'w cyfeirio ymlaen at ffynonellau eraill o gymorth ac arbenigedd.
Cadwch mewn cysylltiad am ddiweddariadau ar Twitter a LinkedIn Ymunwch â'n Grŵp Facebook i rannu gweithluoedd. Cysylltwch â ni trwy e-bost yn Chair.FDWIB@llyw.cymru
|