 |
|
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth i ganolfannau ar y broses adolygu ac apelio mewn canolfannau yn haf 2021. Mae'r ddogfen yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut y bydd apeliadau'n gweithio eleni. Mae CBAC hefyd wedi cyhoeddi eu canllawiau sydd ar gael drwy fewngofnodi ar ei gwefan ysgol diogel.
|
Mae’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn bwriadu cefnogi pobl ifanc i ymgysylltu a symud ymlaen mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Rydyn yn ymgynghori ar y Fframwaith, i ddarganfod beth sy’n gweithio a beth sydd angen ei wella. Fe lansiwyd yr ymgynghoriad i pobl ifanc, rhannwch ef gyda'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw.
Am weddill y flwyddyn ysgol hon, bydd yr asesiadau personol ar sail ‘ymdrech resymol’. Mae’r Adendwm i’r Lawlyfr Gweinyddu yn crynhoi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Adnoddau i gefnogi trafodaethau gyda phlant 11-14 oed ar bwnc rhannu lluniau noeth.
Rydym yn falch iawn i gyhoeddi bod yr adnoddau Common Sense Education diweddaraf wedi'u cyhoeddi ar Hwb.
Rydym hefyd wedi diwygio enwau'r modiwlau i'w gwneud yn haws deall cynnwys pob modiwl.
Rydym wedi cyhoeddi tudalen newydd i ymarferwyr a theuluoedd ar sut i atal camwybodaeth rhag lledaenu.
Mae'r Neges Heddwch ac Ewyllys Da yn unigryw i Gymru, ac mae wedi cael ei chyflwyno'n flynyddol am 99 mlynedd gan bobl ifanc Cymru, wedi'i annerch i bobl ifanc ledled y byd. Neges gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru
Mae rhwydwaith newydd Technocamps yn gyfle i athrawon drafod materion a rhannu arfer gorau ym meysydd Cyfrifiadureg a TGCh yng Nghymru. Mae'r sesiynau cyntaf ar 20 Mai ac 1 Gorffennaf.
Cofrestrwch i dderbyn Rhaglen i Ysgolion RHAD AC AM DDIM Gŵyl y Gelli eleni i gael cyfle i weld rhai o awduron mwyaf ysbrydoledig y byd.
24-28 Mai, bydd pum sesiwn yn cael eu darlledu’n ddyddiol i ddisgyblion ar draws CA1-4. Bydd deunyddiau addysgu a gweithgareddau dysgu gweithredol am ddim i cyd-fynd â phob digwyddiad, a fydd ar gael i’w weld yn fyw neu drwy ailddarllediad ar hyd yr amser, ynghyd ag archif lawn Rhaglen Ysgolion yr Ŵyl.
Mae Technocamps yn cynnal cyfres o weminarau rhad ac am ddim ar gyfer plant 11-18 oed i’w helpu i ddeall pa rolau sydd ar gael, sut i fynd i mewn i wahanol ddiwylliannau, sut all cynghorwyr gyrfaoedd eu helpu a beth dylai eu camau nesaf fod.
Cronfa Gymorth Addysg (CGA) y Weinyddiaeth Amddiffyn 2022
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gwahodd ceisiadau am 2022 gan ysgolion gyda phlant Milwyr lle mae eu rhieni yn symud neu’n cael eu hadleoli’n fynych.
Cais Gwahoddir ceisiadau gan ysgolion y DU erbyn 30 Medi 2021.
Mae’r gronfa hon yn gwbl ar wahân i Gronfa Gymorth Plant Milwyr Llywodraeth Cymru.
|