Bydd Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Systemau Bwyd yn cael ei chynnal ym mis Medi 2021. Mae dau gyfle ar y gweill i chi gymryd rhan.
Cystadleuaeth Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Systemau Bwyd– Busnes Bach Gorau: Bwyd Da i Bawb
Mae Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Systemau Bwyd wedi lansio cystadleuaeth, ‘Busnes Bach Gorau: Bwyd Da i Bawb’, i nodi’r 50 o fusnesau gorau (yn fyd-eang) o fewn y diwydiant bwyd sy’n cyfrannu mewn modd cadarnhaol at system fwyd sy’n gadarn ac yn gynaliadwy.
Ydych chi’n darparu bwyd iach sy’n llesol i’r amgylchedd, yn llesol i’ch cymuned ac sy’n creu swyddi ar gyfer pobl leol? Os ydych, dyma gyfle gwych i’ch busnes, eich cynnyrch a’i arferion cynaliadwy i ennill cydnabyddiaeth ar lwyfan rhyngwladol.
Dyma gystadleuaeth ar gyfer busnesau bach a chanolig (rhwng 5 a 250 o weithwyr) ar draws y gadwyn gyflenwi. Dyma gyfle i ennill buddion ariannol yn ogystal â chydnabyddiaeth ryngwladol a bydd yr holl ymgeiswyr yn derbyn gwahoddiad i ddigwyddiadau Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Systemau Bwyd.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 4 Mehefin 2021. Mae rhagor o wybodaeth am y meini prawf a sut i gyflwyno cais i’r gystadleuaeth hon, a hefyd wybodaeth am Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Systemau Bwyd, ar wefan UNFSS.
Sgwrs yr Uwchgynhadledd ar Systemau Bwyd: Busnesau bach – Bwyd Da i Bawb
Bydd y Cenhedloedd Unedig a Llywodraeth y DU yn cynnal rhith-ddigwyddiad rhyngweithiol ar gyfer BBaCh o bob rhan o Ewrop ar 10 Mehefin 2021. Dyma gyfle gwych i leisio eich barn ynghylch trawsnewid y system fwyd ar lwyfan rhyngwladol, a thynnu sylw at y gwaith yr ydych eisoes yn ei gyflawni. Bydd y trafodaethau’n sail i Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Systemau Bwyd.
Mae’r linc sydd ynghlwm yn cynnwys manylion ynghylch sut i gofrestru. (Saesneg yn unig)
|