Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

21 Mai 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Y Prif Weinidog yn cadarnhau rheolau newydd i Gymru ar deithio rhyngwladol; Lefel rhybudd 2 Cwestiynau Cyffredin; Cyllid Llywodraeth Cymru; Pub is the Hub – grantiau cymunedol; Nodyn atgoffa i fusnesau: Esboniad o bwy sy’n cael aros mewn llety gwyliau / Diweddariad i’r Canllawiau ar gyfer Hosteli / Canllawiau ar berfformiadau byw mewn safleoedd lletygarwch / Digwyddiadau a gweithgareddau wedi'u trefnu / Beth yw ystyr gweithgaredd wedi'i drefnu?; Gwasanaethau Tân Cymru yn galw ar berchnogion cartrefi gwyliau i weithredu; Sgiliau a Hyfforddiant; Addo. Fy addewid dros Gymru; Ydych chi wedi diweddaru eich cofnod yn ddiweddar?; Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth Ryngwladol COVID-19;  Gwneud mesurau COVID-19 yn hygyrch i’ch cwsmeriaid dall a rhannol ddall; Dychwelyd i'r gwaith yn ystod y pandemig; Archwiliadau data am ddim i fusnesau bach; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Y Prif Weinidog yn cadarnhau rheolau newydd i Gymru ar deithio rhyngwladol

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod teithio rhyngwladol i bobl yng Nghymru wedi ailddechrau ddydd Llun 17 Mai.  Fel rhan o’r newidiadau i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru, bydd pobl sy’n byw yng Nghymru yn cael teithio i rai cyrchfannau tramor heb fod angen iddynt dreulio cyfnod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd.  Ond bydd camau diogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno i helpu i atal achosion newydd o’r coronafeirws rhag cael eu mewnforio i Gymru.  Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Lefel rhybudd 2 - Cwestiynau Cyffredin

Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â Coronafeirws i’w gweld ar Llyw.Cymru.  Mae'r rhain yn cael eu diweddaru’n gyson,  edrychwch yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.


Cyllid Llywodraeth Cymru:

Sylwer bod gennym 3 gwiriwr Cymhwysedd ar gael ar wefan Busnes Cymru ar hyn o bryd:

  • Gwiriwr Cymhwysedd Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd COVID-19 – Mai a Mehefin 2021

Bydd ceisiadau ar gyfer y gronfa’n agor wythnos yn dechrau 24 Mai 2021 ac yn parhau ar agor tan 5 or gloch ar y 7 Mehefin 2021.  Nodiadau Cyfarwyddyd Ar Gyfer Ceisiadau a Chwestiynau Cyffredin ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Bydd y gronfa’n darparu cymorth ar ffurf grantiau arian parod i fusnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau a busnesau cadwyn gyflenwi cysylltiedig sydd wedi cael effaith negyddol sylweddol o ganlyniad i gyfyngiadau parhaus COVID-19. Bydd y grantiau'n helpu i dalu costau gweithredu (ac eithrio cyflogau staff) ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Mai 2021 a 30 Mehefin 2021. 

Adolygwch y meini prawf i wirio eich cymhwysedd i wneud cais trwy wefan Busnes Cymru.

  • Cronfa Gweithwyr Llawrydd yn agor

Agorwyd Cronfa Gweithwyr Llawrydd ar gyfer ceisiadau am hanner dydd ar ddydd Llun 17 Mai 2021. Mae ceisiadau yn cau am 5pm dydd Mawrth 1 Mehefin. (gweinyddir gan yr awdurdodau lleol yng Nghymru).  Cefnogir y gronfa gweithwyr llawrydd sy’n gweithio yn y meysydd isod:

  • Y Celfyddydau
  • Diwydiannau Creadigol
  • Y Celfyddydau a Threftadaeth
  • Digwyddiadau
  • Diwylliant a Threftadaeth

Bydd y gronfa hefyd yn cefnogi gweithwyr llawrydd sy'n gweithio mewn digwyddiadau sydd wedi cael eu heffeithio’n sylweddol gan y pandemig, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio mewn priodasau a digwyddiadau corfforaethol, ond nid digwyddiadau chwaraeon.

Adolygwch y meini prawf i wirio eich cymhwysedd drwy wefan Busnes Cymru.

  • Gwiriwr Cymhwysedd Datganiad o Ddiddordeb y Sector Addysg Awyr Agored Preswyl (ROE)

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu cronfa i gefnogi'r sector addysg awyr agored preswyl yng Nghymru gyda dyraniad cychwynnol o £2m. Bydd y gronfa hon yn rhoi cymorth i ganolfannau cymwys ledled Cymru i dalu costau gweithredu hanfodol yn ystod y cyfnod rhwng misoedd Mehefin a Medi 2021. Bydd y gronfa'n cynnwys uchafswm grant wedi'i gapio o £45k fesul ymgeisydd llwyddiannus.

Gwirio cymhwysedd – ROE.  Mi fydd yn cau ar 4 Mehefin am 5pm.


Pub is the Hub – grantiau cymunedol

Mae grantiau hyd at £3,000 ar gael i alluogi perchnogion tafarndai gwledig, trwyddedeion a chymunedau lleol i gydweithio i helpu i gefnogi a chynnal gwasanaethau lleol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.

Bydd Cronfa Gwasanaethau Cymunedol Pub is the Hub yn cynorthwyo prosiectau sy'n cefnogi anghenion cymunedau lleol drwy ddefnyddio tafarndai i gynnig gwasanaeth newydd neu i gynnig gwasanaeth sydd eisoes wedi'i golli, megis siop leol, llyfrgell, swyddfa bost neu ganolfan gymunedol, neu’n annog tafarndai i gaffael cynnyrch lleol, darparu prydau ysgol, hyfforddiant TG a gwasanaethau eglwysig.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Nodyn atgoffa i fusnesau:

  • Esboniad o bwy sy’n cael aros mewn llety gwyliau

O 17 Mai, symudodd Cymru i Lefel Rhybudd 2 sy’n golygu bod pob llety gwyliau’n cael ailagor yn llawn.  Ond bydd dal gofyn i fusnesau sicrhau mai dim ond pobl o’r un aelwyd neu bobl yn eu haelwyd estynedig (neu ofalwr ar aelod o’r aelwyd) sy’n cael aros yn eu llety gwyliau (gan gynnwys ystafelloedd mewn gwesty, llety gwely a brecwast, hostel neu lety bynciau, cartref gwyliau, carafanau a phebyll).

  • Diweddariad i’r Canllawiau ar gyfer Hosteli

Wrth inni ystyried ailagor fesul cam, dylai perchenogion a rheolwyr hosteli ddarllen y diweddariad i’r canllawiau ar gyfer Hosteli sydd yng Nghanllawiau UKHospitality Cymru a’i dilyn.  Dylech ddarllen hefyd Canllawiau ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch.  Gan fod pob hostel yn wahanol, dylai perchenogion a rheolwyr ddarllen pob canllaw i ddeall y mesurau sydd angen eu hystyried i allu agor yn ddiogel.

  • Canllawiau ar berfformiadau byw mewn safleoedd lletygarwch

Rhaid osgoi synau uchel, rhag gorfodi pobl i siarad yn uchel neu weiddi a gwasgaru mwy o aerosol. I’r perwyl hwnnw, dylai busnesau sicrhau eu bod yn cadw’r teledu a cherddoriaeth wedi’i recordio yn dawel, fel sŵn cefndir. Ni chaniateir dawnsio, canu na pherfformiadau byw ar hyn o bryd.  Rhaid i fusnesau fod yn ymwybodol bob amser a yw lefel y sŵn o’u safle’n creu niwsans. Amlinellir hyn yng Nghanllawiau UKHospitality Cymru.

  • Digwyddiadau a gweithgareddau wedi'u trefnu  

Gwaherddir digwyddiadau (ac eithrio Digwyddiadau Bywyd) o hyd. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ail gam o ddigwyddiadau peilot yng Nghymru (Mai a dechrau Mehefin). Bydd y gwersi a ddysgwyd o'r cynlluniau peilot hyn yn helpu i lywio proses adolygu Llywodraeth Cymru yn ymwneud â phryd y gall digwyddiadau ailddechrau ac ar ba raddfa, pan fydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny. 

  • Beth yw ystyr gweithgaredd wedi'i drefnu?

Mae gweithgareddau wedi’u trefnu’n cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau y gall pobl o bob oed gymryd rhan ynddyn nhw.  Maen nhw’n cynnwys gweithgareddau fel campau tîm, dosbarthiadau ymarfer corff, cyfarfodydd grwpiau crefyddol a grwpiau cymorth. Yn ystod y gweithgareddau hyn, caiff hyd at 50 o bobl o unrhyw oed ddod ynghyd o nifer o aelwydydd gwahanol cyn belled â’u bod yn aros yn yr awyr agored. Os yw’r gweithgaredd sydd wedi’i drefnu yn digwydd o dan do, 30 yw’r nifer mwyaf o bobl 11 oed a hŷn a all gymryd rhan.

Nid yw gweithgareddau wedi’u trefnu’n cynnwys pethau fel partïon neu gynulliadau cymdeithasol ehangach o deuluoedd a ffrindiau sy’n fwy na’r trefniadau ar gyfer cwrdd â phobl eraill. Ni ddylid cynnal gweithgareddau wedi’u trefnu mewn cartrefi preifat, gan gynnwys mewn ngerddi neu ar dir. Ni ddylid yfed alcohol mewn unrhyw weithgaredd awyr agored wedi’i drefnu.

Rhaid i ‘weithgaredd wedi’i drefnu’ fod wedi’i drefnu gan fusnes, corff cyhoeddus, mudiad elusennol, elusengar, addysgol neu ddyngarol, clwb neu gorff gwleidyddol neu gorff llywodraethu cenedlaethol sy’n rheoli camp neu weithgaredd arall. Rhaid i drefnydd y gweithgaredd fodloni gofynion y rheoliadau a chymryd pob cam rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws, a rhaid iddo asesu’r risg. 

Mae gweithgareddau wedi’u trefnu’n cynnwys cyfarfodydd busnes a chaniateir yn Lefel 2 ar gyfer 30 tu mewn a 50 tu allan gyda phellter cymdeithasol yn ei le.

 


Gwasanaethau Tân Cymru yn galw ar berchnogion cartrefi gwyliau i weithredu

Wrth i’r tywydd wella a chyfyngiadau COVID-19 ddechrau llacio, rhagwelir cynnydd mewn gwyliau gartref gyda llawer yn dewis mynd ar wyliau ym mannau prydferth Cymru. Mae Gwasanaethau Tân ar draws Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliad Croeso Cymru a pherchnogion cartrefi gwyliau i sicrhau eu bod yn gyfarwydd â chanllawiau newydd a chyfredol i barhau i gadw eu hunain a’u cwsmeriaid yn ddiogel yr haf hwn.

Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnig cyngor a chymorth unigryw a phenodol mewn perthynas â chymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod eu heiddo yn cydymffurfio â thân. Mae’r canllawiau’n cynnwys rhestrau gwirio defnyddiol, cyngor asesu risg tân sydd wedi ei symleiddio  ac awgrymiadau am sut i leihau’r risg o dân.

Darllenwch canllawiau Gwasanaethau Tân Cymru ar gyfer Llety Gwyliau Hunan-ddarpar.


Sgiliau a Hyfforddiant

Am wybodaeth ddiweddaraf am sgiliau, recriwtio a chymorth hyfforddiant i'ch busnes, yn ogystal â chymorth arall fel Lles i gyflogwyr a gweithwyr, ewch i’n tudalennau Sgiliau.


Addo. Fy addewid dros Gymru

Mae ein hymgyrch Addo: Gwneud addewid gyda'n gilydd  yn hyrwyddo ymddygiad twristiaeth cyfrifol yn parhau yng Nghymru ac wrth i ni edrych ymlaen at leddfu'r cyfyngiadau ymhellach o fewn y sector twristiaeth yr wythnos nesaf, byddwn yn cyfleu negeseuon ynghylch lletygarwch ac yn atgyfnerthu ymddygiad cadarnhaol.   

Mae'r ymgyrch yn annog pawb i ddilyn y rheolau, bod yn garedig ac yn gwrtais i staff a chefnogi busnesau lleol yn ein cymunedau.  Mae'r ymgyrch yn fyw ar draws ein holl sianelau digidol a bydd yn cael ei ymestyn ymhellach gyda fersiwn newydd o'n ffilm Addo yn rhedeg ar S4C, ITV a Sky o 17 Mai ymlaen yn ogystal ar Fideo ar Alw, Spotify a radio digidol.

Cefnogwch ein hymgyrch Addo os gwelwch yn dda: Lawrlwythwch yr asedau Addo yn ein pecyn cymorth defnyddiol i'r diwydiant a'u defnyddio wrth gyfathrebu â'ch cwsmeriaid eich hun.


Ydych chi wedi diweddaru eich cofnod yn ddiweddar?

Os nad ydych wedi gwirio eich cofnod busnes gyda Croeso Cymru yn ddiweddar, neu weithio gydag ystod o farchnadoedd, efallai y byddai'n syniad da i chi edrych i weld a yw’r wybodaeth am eich busnes yn gywir. Gallwch wneud hyn drwy fewngofnodi i'r rhestr cynnyrch. Gallwch hefyd lanlwytho delweddau o arwyr, cynnwys fideo a hefyd gynnwys dolenni i'ch gwefan archebu ac i’ch tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal â croesocymru.llyw sy'n wynebu defnyddwyr, gellir rhestru eich busnes hefyd ar ein gwefannau Masnach Deithio a Digwyddiadau Busnes. I elwa i’r eithaf ar eich cofnod, edrychwch ar “Awgrymiadau gorau ar gyfer rhestr epig” ar ein tudalen Cydweithio â Croeso Cymru lle gallwch lawrlwytho ein canllawiau i'r diwydiant ar gyfer y rhestrau perthnasol.


Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth Ryngwladol COVID-19

Bydd yr adroddiad diweddaraf ar deimladau defnyddwyr ynghylch teithio i’r wlad a bwriadau marchnadoedd rhyngwladol o ran teithio ar gael ar wefan VisitBritain yr wythnos hon. 


Gwneud mesurau COVID-19 yn hygyrch i’ch cwsmeriaid dall a rhannol ddall

Er mwyn gallu cadw pellter cymdeithasol, rhaid i chi allu gweld lle mae pobl eraill. Dyw hynny ddim yn bosib i lawer o bobl sydd â nam ar eu golwg, ac mae hyn wedi effeithio ar annibyniaeth a hyder pobl.  Mae’r RNIB wedi creu canllawiau arfer gorau i helpu busnesau i ddeall sut gallan nhw helpu eu cwsmeriaid dall a rhannol ddall gyda’r newidiadau hyn.  Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Dychwelyd i'r gwaith yn ystod y pandemig

Mae dod yn ôl i'r gwaith ar ôl amser i ffwrdd yn ystod y pandemig yn gallu bod yn anodd i rai pobl.  Os yw gweithwyr wedi bod i ffwrdd o'r busnes am gyfnodau hir, efallai y bydd eu gallu neu eu sgiliau wedi dirywio.  Efallai y bydd angen amser a chymorth ychwanegol arnyn nhw i ddechrau perfformio fel roedden nhw cyn y pandemig eto.

Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi canllawiau ar ddychwelyd i'r gwaith sy'n gallu eich helpu i siarad â'ch gweithwyr a darparu'r cymorth cywir.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Archwiliadau data am ddim i fusnesau bach

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn darparu archwiliadau data cynghorol am ddim i berchnogion sefydliadau bach, megis busnesau bach, elusennau bach, grwpiau neu glybiau ac unig fasnachwyr.  Mae’r archwiliadau wedi’u teilwra i faint sefydliad a’r math o waith y mae’n ei wneud, gan ganolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n bwysig i gwsmeriaid, gwirfoddolwyr ac aelodau.  Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram