Cefnogaeth SBRI i Dechnoleg Efelychu ar gyfer Hyfforddiant Gofal Iechyd
Mae gan Lywodraeth Cymru, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Chanolfan Ragoriaeth SBRI gyllid i gefnogi prosiectau arloesol sy'n cynnig technoleg efelychu ar gyfer hyfforddiant gofal iechyd.
Mae gan fusnesau tan 28 Mai i gyflwyno eu syniadau. Darllenwch fwy, neu cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad briffio ar 13 Mai drwy gofrestru yma.
Am heriau eraill SBRI gan gynnwys yr Her Trawsnewid Cleifion Allanol cliciwch yma
|
|
 |
 |
|
Cymorth Technoleg ac Arloesi ar gyfer BBaCHau Cymru
Cynhaliodd tîm arloesi Llywodraeth Cymru ddigwyddiad i helpu busnesau bach a chanolig i gael gafael ar gyllid a chymorth i'w galluogi i fuddsoddi mewn technoleg newydd. Os gwnaethoch ei fethu, beth am wylio'r digwyddiad llawn yma
|
Grantiau Clyfar Innovate UK Mae Innovate UK, sy'n rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £25 miliwn yn y syniadau arloesi a thrawsnewidiol gorau mwyaf blaengar ac ariannol addawol. Rhaid i fusnes fod yn ganolbwynt pob cynnig Gall ceisiadau ddod o unrhyw faes technoleg a rhaid gallu eu defnyddio mewn unrhyw ran o'r economi.
Dysgwch fwy yma
|
|
 |
Rhaglen bum mlynedd i drawsnewid gwasanaethau Eiddo Deallusol (IP).
Mae'r Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO) wedi lansio ei rhaglen 'One IPO' - rhaglen bum mlynedd i weddnewid gwasanaethau Eiddo Deallusol (IP)
Darllenwch fwy yma
Enillwyr Gwobr Fenter y Frenhines 2021
Gwobr Fenter y Frenhines yw’r wobr fwyaf ei bri i fusnesau yn y Deyrnas Unedig
Edrychwch i weld pwy yw’r enillwyr o Gymru yn 2021 yma
Digwyddiad dan ofal Cohes3ion – Gwneud i Waith Llywodraethu Aml-lefel weithio mewn Arbenigedd Clyfar (S3)
Mae prosiect Interreg COHES3ION yn helpu partneriaid o bob rhan o Ewrop i ymgorffori blaenoriaethau lleol a rhanbarthol o fewn eu polisïau arloesi. I glywed panel o arbenigwyr blaenllaw yn trafod sut i gynyddu effaith Strategaethau Arbenigo Clyfar cliciwch yma
Lansio rhaglen trawsnewid IPO
12 Mai 2021, 11:00 - 12:00
Ymunwch ag arweinwyr rhaglen trawsnewid IPO i ddysgu mwy am sut y bydd IPO yn gweddnewid ei rhaglenni dros y pum mlynedd nesaf. Bydd y digwyddiad yn cynnwys golwg ar gynlluniau trawsnewid IPO ac yna sesiwn holi ac ateb lle cewch ofyn cwestiynau a rhoi ymateb
Cofrestrwch yma
Gweminar Wybodaeth SBRI: Her Hyfforddiant mewn Technoleg Efelychu
13 Mai 2021, 09:35 - 11:00
Mae Canolfan Ragoriaeth SBRI yn cynnal gweminar wybodaeth am ei Her Hyfforddiant mewn Technoleg Efelychu er mwyn ichi gael dysgu mwy amdano.
Bwciwch eich lle yma
Cymorth Arloesi Ar-lein
19 Mai 2021, 10:00 - 16:45
Mae Llywodraeth Cymru ar y cyd ag Innovate UK, y Knowledge Transfer Network ac Innovate UK Edge (Rhwydwaith Menter Ewrop), yn cynnal cymhorthfa i helpu cwmnïau o Gymru i baratoi’u hunain yn well i:-
- gael hyd i arian ymchwil a datblygu
- cynnal prosiectau ymchwil a datblygu gwell
- troi’r canlyniadau’n fusnesau
Cofrestrwch yma
Ymchwil Arloesi - Trafodaeth Sector Preifat
2 Mehefin 2021, 10:00 - 11:30
Ymunwch â sgwrs i drafod ymchwil ddiweddar i’r tirlun arloesi yng Nghymru a thramor, ac i ddeall blaenoriaethau busnes Cymru o ran arloesi.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Gweithgareddau Rhwydweithio yn y sector Hydrogen gyda Chylch Ymchwil ac Arloesi Québec-Ewrop
15 Mehefin 2021
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cydweithio agosach ac agosach rhwng Cymru a Thalaith Québec yn Canada.
Gan adeiladu ar waith partneriaeth rhwng Hydro-Québec a Phrifysgol De Cymru i wneud ymchwil i fasnacheiddio technolegau hydrogen, mae’r digwyddiad yma yn darparu cyfle gwych ar gyfer busnesau ac academyddion sydd am fanteisio ar y cyfleoedd mae datblygu technolegau hydrogen yn eu darparu.
Bwriedir i’r digwyddiad fod yn gam ymarferol i helpu gyda’r broses o wneud cynigion sy’n gysylltiedig â hydrogen i’r pedair galwad datgarboneiddio gan Horizon Ewrop, a fydd yn werth €154 miliwn.
Mwy o wybodaeth yma neu cofrestrwch yma
Wythnos Technoleg Cymru 2021
21 – 25 Mehefin 2021
Wythnos Technoleg Cymru - pum niwrnod o weithdai a siaradwyr o fri rhyngwladol.
I’r rheini sy’n gweithio ym myd technoleg newydd neu sydd am weld sut y gall technoleg weddnewid eich busnes.
Darllenwch fwy a chofrestrwch
|