Bwletin Newyddion: Cefnogaeth bellach i fusnesau Cymru; Digwyddiadau Prawf Peilot Cymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

12 Mai 2021


cv

Cefnogaeth bellach i fusnesau Cymru

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru sy'n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau’r coronafeirws yn gallu hawlio hyd at £25,000 yn rhagor o gefnogaeth i helpu i dalu costau parhaus.

Daw'r pecyn nesaf hwn o gymorth busnes wrth i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol yn gallu cyfarfod mewn lleoliadau dan do a reoleiddir, fel caffis a thafarndai, pan fyddant yn agor o Fai 17 ymlaen.

Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu mwy na £2bn i ddegau ar filoedd o fusnesau ledled Cymru i'w helpu drwy'r pandemig.

Bydd y pecyn cymorth diweddaraf hwn yn helpu'r busnesau hynny sy'n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau, i dalu costau parhaus hyd at ddiwedd mis Mehefin wrth iddynt baratoi ar gyfer ailagor ac amodau masnachu mwy arferol.

Mae’r busnesau a all elwa’n cynnwys y canlynol:

  • clybiau nos a lleoliadau adloniant hwyr
  • digwyddiadau a lleoliadau cynadledda nad ydynt wedi'u cynnwys yng Nghronfa Adfer Ddiwylliannol (CRF) Llywodraeth Cymru
  • busnesau lletygarwch a hamdden, gan gynnwys bwytai, tafarndai a chaffis
  • busnesau’r gadwyn gyflenwi, sydd wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan y cyfyngiadau.

Mae’r gefnogaeth yn gam cyntaf pecyn gwerth £200m sydd wedi’i glustnodi ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru i helpu busnesau y mae'r pandemig yn effeithio arnynt.

Mae’r Gweinidogion wedi gwneud penderfyniad ar unwaith i ryddhau cyllid i gefnogi busnesau y mae'r cyfyngiadau'n effeithio arnynt ond bydd penderfyniadau pellach i Lywodraeth newydd Cymru eu gwneud ynghylch cefnogaeth bellach, i helpu busnesau i adfer a datblygu pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio ymhellach.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella yng Nghymru – mae gennym y cyfraddau coronafeirws isaf a'r cyfraddau brechu gorau yn y DU.

"Rydyn ni'n gwybod bod y cyfyngiadau wedi helpu i'n cadw ni i gyd yn ddiogel ond maen nhw wedi cael effaith fawr ar fusnesau Cymru, a dyna pam rydyn ni'n sicrhau bod mwy o gyllid ar gael i gefnogi cwmnïau a diogelu swyddi.

"Bydd busnesau cymwys yn derbyn cymorth o hyd at £25k wrth iddynt baratoi i ailagor a symud tuag at amodau masnachu mwy arferol.

"Bydd fy llywodraeth newydd yn rhoi mwy o fanylion am y cymorth ariannol ychwanegol y byddwn yn ei ddarparu i fusnesau i'w helpu i ddatblygu a thyfu wrth i Gymru adfer o effaith y pandemig.

"Wrth i ni barhau i lacio'r cyfyngiadau, gallaf gadarnhau y bydd hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol yn gallu cyfarfod dan do mewn lleoliadau a reoleiddir, fel caffis a thafarndai, o ddydd Llun ymlaen.”

Bydd gwiriwr cymhwysedd yn agor ar wefan Busnes Cymru am hanner dydd ar 17 Mai fel bod busnesau’n gallu gweld faint o gymorth maent yn debygol o fod â hawl iddo a sut i wneud cais.

Bydd busnesau'n gallu cyflwyno ceisiadau erbyn diwedd y mis a byddant yn derbyn rhwng £2,500 a £25,000 gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau. Caiff y cyllid ei gyfrif yn seiliedig ar faint y busnes a'r math o gyfyngiadau sydd arno.

Mae'r cymorth hwn yn ychwanegol at ryddhad ardrethi annomestig Llywodraeth Cymru o £610m a fydd yn golygu na fydd raid i fwy na 70,000 o fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch dalu unrhyw ardrethi yn 2021-22.


Digwyddiadau Prawf Peilot Cymru

Wrth i gyfyngiadau'r Coronafeirws barhau i lacio yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhestr arfaethedig o ddigwyddiadau prawf peilot i'w cynnal dros yr wythnosau nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar gyflwyno digwyddiadau prawf peilot er mwyn datblygu prosesau a chanllawiau a fydd yn caniatáu i ddigwyddiadau ddychwelyd yn  ddiogel yng Nghymru. Bydd rheoli rhaglen digwyddiadau prawf ddiogel a llwyddiannus gobeithio yn caniatáu i gynulliadau mwy yn ôl i stadia, theatrau a lleoliadau eraill yng Nghymru yn hwyrach eleni.

Mae Eid yn y Castell a Tafwyl yng Nghaerdydd wedi'u cadarnhau ar gyfer yr wythnos hon tra bod trafodaethau gyda pherchnogion digwyddiadau eraill yn parhau: Mae'r rhestr arfaethedig o naw digwyddiad prawf peilot fel a ganlyn:

  • Eid-al-Fitr - 13 Mai | Caerdydd | 300-500 yn bresennol      
  • Gŵyl Tafwyl - 15 Mai | Caerdydd | 500 yn bresennol
  • Gêm Cynghrair Dau Clwb Pêl-droed Casnewydd - 18 Mai | Rodney Parade
  • Digwyddiad busnes yn Celtic Manor Resort 20 Mai | Casnewydd | Gwahodd 100 dan do
  • Gêm y Bencampwriaeth Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe - 22 Mai | Stadiwm Liberty
  • Theatr Brycheiniog - 3-4 Mehefin | Theatr Brycheiniog Aberhonddu, Powys | 250 yn bresennol
  • Morgannwg v Swydd Gaerhirfryn - 3-6 Mehefin | Gerddi Sophia, Caerdydd | 750-1000 o wylwyr     
  • Cymru v Albania - 5 Mehefin | Stadiwm Dinas Caerdydd | 4000 o wylwyr  
  • Triathlon Cymru - 12 Mehefin | Abergwaun/Tŷ Ddewi | Cyfranogwyr cofrestredig yn unig

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

“Mae wedi bod yn 18 mis hir ac anodd i'r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru – i berchnogion digwyddiadau, y rhai sy'n dibynnu ar y sector am y gwaith - ac i'r rhai sy'n hiraethu am weld digwyddiadau byw yn dychwelyd i Gymru. Wrth i ni edrych ar godi'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru, rydym wedi gweithio'n agos gyda threfnwyr digwyddiadau i sefydlu rhestr o ddigwyddiadau prawf peilot sy'n cynnwys amrywiaeth o wahanol leoliadau a mathau o ddigwyddiadau. Mae'r gwaith hwn yn dod â ni gam yn nes at ddychwelyd i ddigwyddiadau yng Nghymru, hoffwn ddiolch i berchnogion y digwyddiadau a'r Awdurdodau a byrddau iechyd Lleol am eu hymrwymiad i weithio gyda ni a dymuno'n dda iddynt dros yr haf.

“Mae'r digwyddiadau hyn yn wahanol iawn o ran natur a lleoliad ond mae mynediad i fynychwyr – boed yn gyfranogwyr neu'n wylwyr – yn cael ei reoli'n llym gan y trefnwyr a'i gytuno ymlaen llaw.

“Rydyn ni'n gofyn i bobl ddathlu Eid yn wahanol eto eleni. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd dathliadau yn y castell yn cael eu mwynhau gan y rhai sydd â thocynnau. Os nad oes gennych docyn, dathlwch yn ddiogel gyda'ch cartref agos neu o fewn swigod cymorth.”

Dewiswyd y digwyddiadau mewn trafodaeth gyda bwrdd prosiect Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen digwyddiadau prawf a pherchnogion digwyddiadau. Bydd protocol profi ac asesiad risg yn cael ei deilwra ar gyfer pob digwyddiad.


Cwestiynau Cyffredin

Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â Coronafeirws i’w gweld ar Llyw.Cymru.

Mae'r rhain yn cael eu diweddaru’n gyson,  edrychwch yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram