Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.
CYNNWYS BWLETIN - Coronafeirws (COVID-19) Canllawiau i Fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch; Cwestiynau Cyffredin; ATGOFFA: COVID-19 Rhestr wirio ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch; Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19; Adnoddau ar-lein newydd i helpu i atal, lleihau a rheoli straen yn y gweithle; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.
Coronafeirws (COVID-19) Canllawiau i Fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch
Wrth i ni edrych ar ailagor yn raddol, sicrhewch eich bod yn ymwybodol o'r canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch.
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel.
Bwriad y mesurau ychwanegol canlynol yw rhoi cyngor pellach i fusnesau a rhaid eu hystyried yn unol â Chanllawiau UKHospitality Wales a'r Canllawiau Twristiaeth a Lletygarwch.
Dylai busnesau hefyd ystyried, lle bo'n briodol:
- Cryfhau eu polisi ar waredu gorchuddion wyneb yn ddiogel ar gyfer staff ac ymwelwyr.
- Cyflwyno mesurau i staff ac ymwelwyr, ar ôl cyrraedd, megis cymryd profion tymheredd, gofyn i bobl ddiheintio eu dwylo a gofyn cwestiynau ynghylch a ydynt yn arddangos unrhyw symptomau.
-
Ystyried llif y gwesteion/ymwelwyr a sut i osgoi cymysgu unrhyw aelwyd drwy gadw gwesteion/ymwelwyr ar wahân wrth iddynt symud o amgylch y safle drwy gydol eu hymweliad/arhosiad, gan roi sylw arbennig i fannau cyhoeddus caeedig fel lifftiau, grisiau a choridorau.
- Cyfarwyddo gwesteion/ymwelwyr i symud drwy fannau cyhoeddus caeedig cyn gynted â phosibl, ac i osgoi gweiddi neu ganu mewn ardaloedd o'r fath.
- fewn llety, sicrhau bod gwesteion yn cadw'r drysau i'w hystafelloedd ar gau bob amser, ar wahân i'r adeg pan fyddant yn mynd i mewn ac yn gadael.
- Sicrhau fod trefn bob yn ail ar gyfer gwasanaeth ystafell/dosbarthu gwasanaeth golchi ac ati i ystafelloedd, er mwyn osgoi gwesteion yn agor drysau ac yn dod allan ar yr un pryd.
- Adolygu eu gweithdrefnau digwyddiadau ac achosion brys er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r egwyddorion cadw pellter corfforol cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys ystyried sut i leihau cymysgu cartrefi wrth ymgasglu mewn mannau ymgynnull tân.
Dylai busnesau hefyd -
- Sicrhau bod archebion yn cael eu cymryd a'u bwyta wrth y bwrdd – nad yw gwesteion / ymwelwyr yn sefyll o gwmpas ar y safle.
- Gwneud y mwyaf o awyru a gwella llif aer drwy agor ffenestri a chadw drysau mewnol yn agored (ond nid drysau tân) lle bo hynny’n bosibl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu'r pum prif gam y dylai bawb sy’n gyfrifol am waith yng Nghymru eu cymryd i’n helpu i Gadw Cymru yn Ddiogel.
Ewch i’r tudalennau Diogelu Cymru yn y Gweithle ar wefan Busnes Cymru i gael gwybodaeth ar gyfer eich busnes ynglŷn â delio â’r coronafeirws.
Cwestiynau Cyffredin
Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â Coronafeirws i’w gweld ar Llyw.Cymru.
Mae'r rhain yn cael eu diweddaru’n gyson, edrychwch yn ôl yn rheolaidd am y wybodaeth ddiweddaraf.
ATGOFFA: COVID-19 Rhestr wirio ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch
Mae rhestrau gwirio wedi'u diweddaru ar gael i gefnogi'r Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch.
Mae'r rhestrau gwirio hyn yn amlinellu'r mesurau allweddol ar gyfer Cadw Pellter Cymdeithasol, Hylendid a Chadw Cofnodion y dylech eu rhoi ar waith i gadw eich staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr yn ddiogel.
Mae Cerdyn Gweithredu Busnes hefyd ar gael ac mae’n rhoi gwybodaeth i chi am sut i gadw COVID-19 allan o'ch safle, pa gamau i'w cymryd pan fydd gweithiwr neu gwsmer yn profi'n bositif a sut y gallwch leihau lledaeniad COVID-19 yn eich busnes. Mae’r wybodaeth hyn hefyd wedi'i rannu fel canllawiau i swyddogion gorfodi gyda thimau Iechyd yr Amgylchedd a Thimau Rheoli Digwyddiadau mewn Awdurdodau Lleol i'w defnyddio wrth iddynt ymweld â busnesau lletygarwch.
Mae asedau ychwanegol Diogelu Cymru ar gyfer y Cyfryngau cymdeithasol hefyd ar gael.
Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19
Mae'r adroddiad diweddaraf ar deimladau defnyddwyr a bwriad I deithio o fewn y farchnad DU ar gael ar wefan VisitBritain yn seiliedig ar waith maes 19-23 Ebrill. Mae'r canlyniadau'n dangos gwelliant parhaus mewn hyder i deithio'n ddomestig ond dim ond cynnydd bach yn y gyfran sydd wedi archebu taith wanwyn neu haf yn y DU ers y don flaenorol.
Adnoddau ar-lein newydd i helpu i atal, lleihau a rheoli straen yn y gweithle
Oni bai bod 6 ffactor allweddol yn y gweithle yn cael eu rheoli’n briodol, gallent fod yn gysylltiedig ag iechyd gwael, cynhyrchiant is a chyfraddau damweiniau ac absenoldeb salwch uchel.
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi lansio adnodd dangos straen newydd i fesur agweddau a chanfyddiadau pobl yn ymwneud â straen yn y gweithle.
Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
|
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19).
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|