Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

23 Ebrill 2021


upload

Coronafeirws: Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN - Datganiad Ysgrifenedig y Prif Weinidog: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020; Llythyr at y sector economi ymwelwyr gan Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol; Coronafeirws (COVID-19) Canllawiau i Fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch;  COVID-19: Rhestr Wirio ar gyfer Busnesau Twristiaeth a Lletygarwch; Addo. Fy addewid dros Gymru; Sgiliau a Hyfforddiant: Nodyn Atgoffa; Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gysylltu â hawlwyr SEISS; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19.


Datganiad Ysgrifenedig y Prif Weinidog: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

O dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020, mae’n ofynnol cynnal adolygiad o'r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos.  Roedd yr adolygiad diweddaraf i fod i gael ei gynnal erbyn 22 Ebrill; mae newidiadau pellach i'r cyfyngiadau coronafeirws wedi cael eu cyhoeddi gan y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw. Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.

Mae nifer yr achosion a gadarnhawyd o COVID-19 yng Nghymru wedi gostwng i dan 15 o achosion fesul 100,000 o bobl, a dyma’r gyfradd isaf yn y DU. Ochr yn ochr â hynny, mae'r broses o gyflwyno'r brechlyn yn parhau i fynd rhagddi’n llwyddiannus iawn, a Chymru sydd â'r gyfradd frechu uchaf ond dwy ymhlith holl wledydd y byd. Mae dros ddwy ran o dair o oedolion Cymru wedi cael eu dos cyntaf ac mae 1 ym mhob 5 wedi cael y ddau ddos. Rydym eisoes wedi brechu 2/3 o bobl 40-49 mlwydd oed a 32% o’n pobl 30-39 mlwydd oed. 

Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 20 Ebrill, dywedwyd bod newidiadau i'r rheoliadau'n cael eu cyflwyno’n gynt, gan ganiatáu i unrhyw chwech o bobl (heb gynnwys plant o dan 11 oed neu ofalwyr) gyfarfod yn yr awyr agored o ddydd Sadwrn 24 Ebrill ymlaen. 

Roedd y datganiad hefyd yn cadarnhau y bydd lletygarwch awyr agored, gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai, yn cael ailagor o ddydd Llun 26 Ebrill ymlaen.

Gallaf hefyd gadarnhau y bydd diwygiadau eraill i'r rheoliadau o 26 Ebrill ymlaen:

  • Caiff pyllau nofio awyr agored ac atyniadau awyr agored i ymwelwyr, gan gynnwys ffeiriau pleser, parciau difyrion a pharciau thema, ailagor.
  • Ceir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer oedolion ar gyfer hyd at 30 o bobl unwaith eto.
  • Caiff derbyniadau priodasau ar gyfer hyd at 30 o bobl ddigwydd yn yr awyr agored mewn safleoedd sy’n cael eu rheoleiddio.

Mae’r canllawiau ar ymweliadau â chartrefi gofal wedi cael eu diwygio i ddarparu ar gyfer cynyddu nifer yr ymwelwyr dynodedig dan do o un i ddau ac i roi mwy o hyblygrwydd o ran ymweliadau gan blant ifanc o 26 Ebrill ymlaen.

Nodwyd eisoes y bydd rhagor o newidiadau ar 3 Mai, ar yr amod bod yr amodau'n parhau'n ffafriol. Mae gwelliannau parhaus yng nghyd-destun iechyd y cyhoedd a llwyddiant y rhaglen frechu wedi golygu y gallwn fynd ati’n gynt i gyflwyno'r holl elfennau sy'n weddill er mwyn inni gael gorffen symud i lefel rhybudd tri yn ystod y cylch adolygu hwn.

Byddai hynny’n golygu, o 3 Mai ymlaen, y:

  • Caiff campfeydd, cyfleusterau ffitrwydd, canolfannau hamdden a phyllau nofio ailagor
  • Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig, gan ganiatáu i ddwy aelwyd ddod ynghyd i ffurfio swigen benodedig a fydd yn gallu cyfarfod a chael cyswllt dan do
  • Caiff gweithgareddau dan do i blant ailddechrau
  • Caiff gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer oedolion ailddechrau ar gyfer hyd at 15 o bobl, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff mewn grwpiau
  • Caiff Canolfannau Cymunedol ailagor

Os bydd y gwelliannau a welwyd yn y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau ar ôl y dyddiad hwnnw, bydd modd i’r Llywodraeth newydd ystyried symud fesul cam rhwng y lefelau rhybudd y darperir ar eu cyfer yn y Cynllun Rheoli Coronafeirws a ddiweddarwyd.

Ar y sail hon, bydd paratoadau'n cael eu gwneud i alluogi Llywodraeth newydd ar ôl etholiadau'r Senedd i symud i lefel rhybudd dau ddydd Llun 17 Mai. Bydd hynny’n dibynnu ar yr amodau iechyd y cyhoedd yn nes at yr amser. 

Mae lefel rhybudd dau yn cynnwys y newidiadau a ganlyn :

  • Caiff lletygarwch dan do ailagor
  • Caiff gweddill y lletyau gwyliau agor (e.e. safleoedd gwersylla sydd â chyfleusterau a rennir) i aelodau aelwydydd unigol neu aelwydydd estynedig
  • Caiff lleoliadau adloniant agor, gan gynnwys sinemâu, neuaddau bingo, aleau bowlio, canolfannau a mannau chwarae dan do, casinos, ac arcedau difyrion
  • Caiff atyniadau dan do i ymwelwyr agor, gan gynnwys amgueddfeydd, orielau, atyniadau addysgol a threftadaeth, a safleoedd treftadaeth fel plastai
  • Bydd rheol pedwar o bobl (hyd at 4 o bobl o 4 aelwyd), neu un aelwyd os oes mwy na 4 o bobl, ar gyfer ymgynnull mewn adeiladau sy’n cael eu rheoleiddio fel caffis
  • Bydd y rheol chwech o bobl yn parhau yn yr awyr agored. Bydd cyfarfod dan do mewn cartrefi preifat yn dal i fod yn gyfyngedig i'r aelwyd estynedig yn unig (swigod penodedig).
  • Bydd y terfynau ar gyfer gweithgareddau wedi'u trefnu yn cynyddu i 30 dan do a 50 yn yr awyr agored.
  • Ceir cynnal derbyniadau priodas dan do ar gyfer hyd at 30 o bobl mewn adeiladau sy’n cael eu rheoleiddio.

Bydd newidiadau i'r rheoliadau heddiw yn darparu hefyd o 26 Ebrill ymlaen ar gyfer esgus rhesymol i brotestio ar lefelau rhybudd un, dau a thri, ond bydd gofyn i brotestiadau gael eu trefnu gan gorff cyfrifol a fydd yn cyflwyno mesurau lliniaru priodol, gan gynnwys cynnal asesiad risg.

Mae'r rheoliadau’n cael eu diwygio hefyd o'r dyddiad hwnnw er mwyn caniatáu pob math o waith yng nghartrefi pobl eraill ar lefelau rhybudd un, dau a thri.

Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu o Gymru, ac mae amrywiolion newydd yn parhau i ddod i'r amlwg ledled y byd. Y dull gweithredu gofalus, gam wrth gam yw'r ffordd orau o hyd i gadw Cymru yn ddiogel.

Mae'r Cynllun Rheoli Coronafeirws: Lefelau rhybudd diwygiedig yng Nghymru (Mawrth 2021) a lefelau rhybudd COVID-19 ar gael ar Llyw.Cymru.


Llythyr at y sector economi ymwelwyr gan Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol

Gweler y llythyr oddi wrth Dr Frank Atherton Prif Swyddog Meddygol/Cyfarwyddwr Meddygol, GIG Cymru at sylw sector yr economi ymwelwyr. Parthed: “Cynnal amgylchedd diogel o ran COVID yn yr economi ymwelwyr er mwyn diogelu staff a chwsmeriaid.”


Coronafeirws (COVID-19) Canllawiau i Fusnesau Twristiaeth a Lletygarwch

Wrth i ni edrych ar ailagor yn raddol, mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch.

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen yr holl ganllawiau i ddeall y mesurau i'w hystyried i ail-agor y busnes yn ddiogel. 

Bydd y Canllawiau ar gyfer Busnesau Twristiaeth a Lletygarwch yn cael eu diweddaru – edrychwch yn ôl yn rheolaidd. Mae adrannau newydd yn cael eu hychwanegu ar Ymweliadau Grŵp a Gweithgareddau Wedi'u Trefnu, sy'n berthnasol ar gyfer teithiau grŵp , teithiau tywys a gwibdeithiau (e.e. teithiau tywys trefol, teithiau tywys mewn atyniadau, teithiau bws, teithiau tywys mewn cwch ac ati)

Mae'r canllawiau lliniarol ar gyfer ailagor lletygarwch awyr agored wedi'u diweddaru i adlewyrchu newidiadau a gyhoeddwyd ddydd Llun (19 Ebrill) ac mae ar gael ar we fan Chanllawiau UKHospitality Wales 

Mae rhestr o Gwestiynau Cyffredin mewn perthynas â Coronafeirws hefyd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ar Llyw.Cymru.


COVID-19: Rhestr Wirio ar gyfer Busnesau Twristiaeth a Lletygarwch

Mae rhestrau gwirio wedi'u diweddaru ar gael i gefnogi'r Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch.  Mae'r rhestrau gwirio hyn yn amlinellu'r mesurau allweddol ar gyfer Cadw Pellter Cymdeithasol, Hylendid a Chadw Cofnodion y dylech eu rhoi ar waith i gadw eich staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr yn ddiogel.   

Mae Cerdyn Gweithredu Busnes hefyd ar gael ac mae’n rhoi gwybodaeth i chi am sut i gadw COVID-19 allan o'ch safle, pa gamau i'w cymryd pan fydd gweithiwr neu gwsmer yn profi'n bositif a sut y gallwch leihau lledaeniad COVID-19 yn eich busnes. Mae’r wybodaeth hyn hefyd wedi'i rannu fel canllawiau i swyddogion gorfodi gyda thimau Iechyd yr Amgylchedd a Thimau Rheoli Digwyddiadau mewn Awdurdodau Lleol i'w defnyddio wrth iddynt ymweld â busnesau lletygarwch.  

Mae asedau ychwanegol Diogelu Cymru ar gyfer y Cyfryngau cymdeithasol hefyd ar gael.


Addo. Fy addewid dros Gymru

Wrth i ddiwydiant twristiaeth Cymru ddechrau ailagor, rydym yn annog pawb sy'n teithio o amgylch Cymru ac yn mynd am antur i wneud hynny'n ddiogel ac yn gyfrifol drwy gefnogi'r addewid o wneud y pethau bychain sy'n gwneud gwahaniaeth mawr : Gwneud addewid gyda'n gilydd - i 'Addo'  y byddwn yn gofalu am ein gilydd, ein tir ac ein cymunedau.

Gellir llofnodi’r addewid yma croeso.cymru/addo ac mae'n cael ei rannu ar sianeli cymdeithasol Twitter a Facebook.  

Cymerwch rhan drwy rannu ar eich sianeli cymdeithasol a defnyddiwch ein pecyn cymorth i'r diwydiant sy'n cynnwys asedau i chi eu defnyddio i gyfathrebu a’ch cwsmeriaid i gefnogi Addo. Mae'r pecyn cymorth hefyd yn cynnwys poster newydd i fusnesau lletygarwch ei argraffu a'i arddangos ar safleoedd, gan annog cwsmeriaid i ddilyn eich arweiniad i gefnogi eich staff


Sgiliau a Hyfforddiant: Nodyn Atgoffa

Bydd yr adnoddau/hyfforddiant canlynol yn helpu busnesau a’u staff i baratoi ar gyfer ailagor.

All Hands to the Pump:

  • Cymorth am ddimi dafarndai ac ati e.e. fideos, templedi ac adnoddau eraill am ddim i helpu rheolwyr safleoedd trwyddedig a lletygarwch a rheoleiddwyr.  Yn cynnwys Rheoli Gwrthdaro, Diogelu Cwsmeriaid a Riportio COVID.

Platfform Sgiliau:

CPL Learning:

  • Ready to Serve programme – Team Member: Wedi’i datblygu i helpu rheolwyr a’u timau i ddychwelyd i’r gwaith yn ddiogel ac yn effeithiol, gan gadw at amodau COVID. Pris: £7.50 y person
  • Reopening following lockdown – Manager - Ready to Serve : Wedi’i datblygu i helpu rheolwyr a goruchwylwyr i ddeall eu cyfrifoldebau a beth sydd angen ei wneud i sicrhau bod eu safle a’u timau’n barod i wasanaethu cwsmeriaid unwaith eto. Pris: AM DDIM.

Am wybodaeth ddiweddaraf am sgiliau, recriwtio a chymorth hyfforddiant i'ch busnes, yn ogystal â chymorth arall fel Lles i gyflogwyr a gweithwyr, ewch i’n tudalennau Sgiliau.


Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gysylltu â hawlwyr SEISS

Os ydych chi'n gymwys, ar sail eich ffurflenni treth, i hawlio SEISS (y Cynllun Cymorth Incwm i'r Hunangyflogedig), bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn cysylltu â chi ganol mis Ebrill i roi dyddiad i chi ar gyfer gwneud eich hawliad. Byddwch yn derbyn y dyddiad naill ai drwy e-bost, llythyr neu o fewn y gwasanaeth ar-lein.

Bydd y gwasanaeth ar-lein i hawlio'r pedwerydd grant ar gael o ddiwedd mis Ebrill 2021, ac mae'r pedwerydd grant yn cwmpasu 1 Chwefror 2021 tan 30 Ebrill 2021.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu’r cymorth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar fusnesau yn ystod y cyfnod anodd, ddigynsail hwn, ac rydyn ni wedi cyhoeddi nifer o fwletinau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws (COVID-19).  Mae’r bwletinau ar gael ar dudalen Bwletinau Coronafeirws i’r Diwydiant Twristiaeth (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram